Skip to main content

Ceredigion County Council website

Mae cadw'n heini yn agwedd bwysig ar gynnal eich Iechyd a'ch Lles. Mae nifer o ffyrdd o gadw’n heini sy’n gallu helpu gyda’ch lles corfforol, cymdeithasol ac emosiynol.

Isod ceir ychydig o enghreifftiau o’r opsiynau sydd ar gael, ac mae hefyd grwpiau cymunedol di-ri ar draws y sir sy’n darparu amrywiaeth o weithgareddau i’ch helpu i gadw’n heini.

Yn Gorfforol Egnïol

Mae 5 Canolfan Hamdden, 1 Canolfan Lles a 3 Phwll Nofio yng Ngheredigion yn cael eu gweithredu gan y Cyngor ac Ymddiriedolaethau Hamdden Cymunedol sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chyfleusterau i bobl o bob oedran.

Rhaglenni Ymyrraeth Iechyd

Os nad ydych chi wedi arfer â gwneud ymarfer corff yn rheolaidd a bod gennych ryw afiechyd neu salwch, gallech fod yn gymwys i gymryd rhan yn y Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio i Wneud Ymarfer Corff (NERS), sydd wedi'i gynllunio i ddarparu cyfleoedd i wneud ymarfer corff sy'n hwyl, gwerth chweil a dulliau y gellir eu defnyddio mewn bywyd beunyddiol. Mae yna hefyd nifer o weithgareddau dwysedd isel eraill ar gael ledled y sir.

Am ragor o wybodaeth am y gweithgareddau hyn, y cynllun NERS a sut i gael mynediad iddo, ewch i wefan Ceredigion Actif - Raglenni Ymyrraeth Iechyd.

Cerdded

Cerdded yw’r ffordd rwyddaf o gadw’n heini ac yn iach, ac i golli pwysau. Fe ddewch chi o hyd i fwy o wybodaeth ar y wefan NHS Walking for Health.

Os hoffech chi gymdeithasu rywfaint wrth gerdded, mae gan Gymdeithas y Cerddwyr sawl grŵp yng Ngheredigion – fe gewch chi fwy o wybodaeth ar y wefan Ramblers.

Cysylltu Ceredigion - Rhoi Hwb i'ch Lles

Crëwyd Cysylltu Ceredigion i ddod â chymunedau ac unigolion ynghyd - lle i gynnig neu geisio cymorth gan gymdogion a’r gymuned ehangach. Does dim prynu na gwerthu’n mynd ‘mlaen yma, dim ond pobl yn helpu pobl.

Llyfrgelloedd

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ceredigion yn cynnwys 4 llyfrgell (Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan), 2 lyfrgell dan arweiniad y gymuned (Llandysul a Chei Newydd), a 2 lyfrgell deithiol, yn ogystal â gwasanaeth llyfrgell eang ar-lein. Mewn partneriaeth â Ceredigion Actif rydym yn rhoi benthyg offer chwaraeon am ddim i aelodau'r llyfrgell. Mae'r eitemau'n cynnwys beiciau cydbwyso, racedi tennis, peli pêl-droed, peli Pêl-fasged ac yn y blaen. Mae gennym hefyd gasgliad helaeth o lyfrau iechyd a lles sy’n ymwneud â chadw'n iach a sut i fyw gyda chyflyrau meddygol.

Ewch i wefan Llyfrgell Ceredigion am ragor o wybodaeth.

Diwylliant

Mae Theatr Felinfach ac Amgueddfa Ceredigion yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i bobl gymryd rhan ynddynt a’u mwynhau.

Mae gan y Theatr raglen o ddigwyddiadau theatrig a cherddorol trwy’r flwyddyn ar gyfer pob oedran, ynghyd â chalendr o grwpiau cymdeithasol wythnosol i bawb o blant bach i’r rhai dros 60 oed.

Mae Amgueddfa Ceredigion ar agor i ymwelwyr trwy gydol y flwyddyn. Gallwch grwydro o amgylch y casgliadau neu fwynhau'r rhaglen reolaidd o arddangosfeydd. Mae'r Amgueddfa hefyd yn cynnig gweithdai i deuluoedd ac unigolion ar wahanol adegau o'r flwyddyn.

Mae CERED yn trefnu gweithgareddau a gweithdai cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gyfer pob oedran mewn cymunedau ar draws y sir o deithiau cerdded tywysedig a grwpiau ukelele i glybiau lego a sesiynau coffi a sgwrs.

Gwirfoddoli

Gall gwirfoddoli fod yn ffordd ardderchog o gadw’n weithgar, cwrdd â phobl newydd a helpu eraill. Fel arfer does arnoch ddim angen unrhyw sgiliau arbennig i wirfoddoli, ond wrth gofrestru gydag asiantaeth gwirfoddoli byddant yn trafod hyn gyda chi.

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) yn darparu gwasanaeth i bobl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli.

Cyfeiriad: Bryndulais, Heol y Bont, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7AB.

Rhif ffôn: 01570 423232.

I gael mwy o wybodaeth am wirfoddoli ewch i'r wefan CGGC.

Ceredigion Oed-Gyfeillgar

Caiff Ceredigion Oed-Gyfeillgar ei arwain gan y gymuned. Mae hyn yn golygu y gallwn ni gyd helpu oedolion hŷn i gadw’n iach ac yn heini, cryfhau cysylltiadau cymunedol a chynnwys oedolion hŷn mewn amrywiaeth o weithgareddau. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r tudalen Ceredigion Oed-Gyfeillgar.

Dysgu Bro Ceredigion - Dysgu Oedolion yn y Gymuned

Mae Dysgu Bro Ceredigion - Dysgu Oedolion yn y Gymuned, yn rhan o wasanaeth Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Ceredigion. Ein nod yw darparu cyfleoedd dysgu i bobl Ceredigion yn eu cymunedau i’w hannog i ddatblygu diddordebau newydd, gweithio tuag at ennill cymhwyster neu wella eu sgiliau ar gyfer y gweithle.