Dementia
Ceredigion sy’n Gyfeillgar i Ddementia
Mae Gofal Cymdeithasol Ceredigion ac asiantaethau partner wedi ymrwymo i ddatblygu cymuned sy'n gyfeillgar i Ddementia. Mae cymuned sy’n gyfeillgar i Ddementia yn rhywle lle mae pobl sy’n byw â Dementia yn cael eu deall, eu parchu a’u cefnogi. Yn y cymunedau hyn, mae pobl yn ymybodol o Ddementia ac yn ei ddeall, fel bod y rhai sy’n byw gyda Dementia yn gallu byw fel y dymunant ac aros yn eu cymuned o’u dewis.
Dementia
Cyflwr sy’n effeithio ar yr ymennydd yw Dementia, sy'n ei gwneud hi'n anodd i rywun gofio, dysgu a chyfathrebu. Mae symptomau Dementia yn cynnwys colli cof, dryswch, newidiadau mewn hwyliau ac anhawster gyda thasgau o ddydd i ddydd. Mae llawer o achosion o Ddementia a chlefyd Alzheimer yw un o’r rhai mwyaf cyffredin.
Nid yw Dementia yn rhan arferol o fynd yn hen, ewch i dudalen Cymdeithas Alzheimer Ai heneiddio neu Ddementia ydyw? i ddeall mwy am y gwahaniaethau rhwng mynd yn hŷn a Dementia.
Os ydych yn pryderu eich bod chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, yn dangos arwyddion o Ddementia, mae’n bwysig cysylltu â’ch Meddyg Teulu. Nid yw bod yn anghofus o reidrwydd yn golygu bod gennych Ddementia. Gall problemau iechyd corfforol neu feddyliol achosi colli’r cof, ac weithiau mae'n arwydd arferol o heneiddio. Serch hynny, mae bob amser yn well gwybod.
Gall nifer o gyflyrau ymddangos yn debyg i symptomau cynnar Dementia, gan gynnwys: heintiau, deliriwm, diffyg fitaminau, iselder, gorbryder a diabetes. Mae’r cyflyrau hyn yn rhai y gellir eu trin, felly mae’n bwysig ymweld â’ch Meddyg Teulu am brofion i adnabod a rheoli'r cyflyrau hyn. Unwaith y bydd y cyflyrau hyn wedi'u diystyru a bod dal i fod pryderon ynglŷn â’r newidiadau parhaus, yna gall y meddyg teulu gyfeirio at y tîm diagnostig Dementia arbenigol lleol am brofion pellach.
Gall diagnosis cynnar o Ddementia helpu unigolion a'u teuluoedd i ddeall pa fath o Ddementia sydd ganddynt, pam mae'r newidiadau maen nhw'n eu profi yn digwydd, a'r hyn y gallant ei wneud i'w rheoli. Gall hefyd olygu cael mynediad at feddyginiaethau a all helpu i arafu’r symptomau. Yn ogystal, mae’n galluogi unigolion a’u teuluoedd i drafod sut i fyw cystal â phosibl gyda’r diagnosis ac i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Dementia UK neu wefan Cymdeithas Alzheimer's.
Fodd bynnag, os oes angen cymorth arnoch, gallwch ofyn am asesiad o'ch anghenion gofal a chymorth trwy gysylltu â CLIC ar 01545 574200 neu e-bostio connecting@ceredigion.gov.uk.
Rydym wastad yn ceisio gwella'r dudalen hon, anfonwch eich adborth i clic@ceredigion.gov.uk.
Mae niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol yn anhwylder sy’n effeithio ar yr ymennydd. Fe’i hachosir pan fydd rhywun yn yfed gormod o alcohol yn rheolaidd, neu’n goryfed mewn pyliau, dros sawl blwyddyn. Mae sawl gwahanol fath o niwed i’r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol. Yn gyffredinol, mae pobl sy’n datblygu niwed i’r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol yn yfed alcohol yn rheolaidd - dros yr 14 uned yr wythnos fel yr argymhellir gan y GIG ac mewn perygl uwch o ddatblygu problemau gwybyddol os ydynt dros 50 oed.
Nid yw niwed i’r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol bob amser yn gwaethygu dros amser, yn wahanol i achosion cyffredin o Ddementia fel clefyd Alzheimer. Os bydd unigolion â niwed i’r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol yn rhoi’r gorau i yfed alcohol ac yn cael cefnogaeth dda, gall fod yn bosibl iddynt wella’n rhannol neu hyd yn oed wella’n llwyr. Gallant adennill llawer o’u cof a’u sgiliau meddwl, yn ogystal â’u gallu i wneud pethau’n annibynnol. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cymdeithas Alzheimer's a gwefan Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed.
Os ydych yn pryderu bod gan rywun rydych yn ei adnabod Ddementia, dylech gysylltu yn y lle cyntaf â’ch meddygfa leol neu gysylltu â’r Llinell Gymorth Dementia Genedlaethol drwy ffonio 0800 888 6678 neu e-bostio helpline@dementiauk.org. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen Llinell Gymorth Dementia - Nyrs Admiral (Dementia UK).
Os oes gennych broblemau gyda’ch cof neu symptomau eraill sy’n gysylltiedig â Dementia, gallwch gael cymorth gan amryw o sefydliadau yng Ngheredigion heb angen asesiad ffurfiol.
Mae Darllen yn Dda ar gyfer Dementia yn argymell adnoddau darllen ac adnoddau digidol defnyddiol i bobl sy'n byw gyda Dementia. Mae yna hefyd lyfrau ar gyfer y teulu, ffrindiau a gofalwyr. Mae’r rhestr lyfrau yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth dibynadwy, yn ogystal â straeon personol a llyfrau sy’n addas i blant o wahanol oedrannau.
Mae’r rhestr lyfrau newydd wedi’i chynllunio ar gyfer pobl sy’n byw â Dementia, gofalwyr ac aelodau o'r teulu gan gynnwys plant iau i'w helpu i ddeall mwy am Ddementia.
