
Gofalwyr mewn Cyflogaeth
Cefnogi gofalwyr di-dâl mewn cyflogaeth
Mae ymchwil yn dangos bod rhyw 600 o bobl yn rhoi’r gorau i’w swyddi bob dydd yn y DU er mwyn gofalu am rywun agos iddyn nhw sy’n hŷn, yn anabl neu’n ddifrifol wael.
Mae tystiolaeth hefyd yn dangos y gallai effaith trosiant staff, absenoldeb a straen o ganlyniad i jyglo gwaith a gofalu fod yn costio dros £3.5 biliwn i fusnesau’r DU bob blwyddyn, felly mae modd gwneud arbedion mawr drwy roi gwell cefnogaeth i ofalwyr wrth reoli gwaith ochr yn ochr â gofalu.
I gael gwybod mwy am sut y gall eich busnes gefnogi gofalwyr di-dâl yng Ngheredigion, lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth ar gyfer mentrau bach a chanolig*.
*Sefydliadau â llai na 250 o weithwyr
Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth am:
- fanteision cefnogi gofalwyr di-dâl mewn cyflogaeth
- hawliau gofalwyr
- sut y gall sefydliadau helpu i gefnogi gofalwyr di-dâl yn y gymuned gan gynnwys gwybodaeth am fentrau lleol.
- sut i gael mynediad am ddim i aelodau i wefan Hwb Digidol Cyflogwyr i Ofalwyr, Gofalwyr Cymru
Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth digidol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r Tîm Gofalwyr Gydol Oes a Chymorth Cymunedol drwy'r post yn Tîm Gofalwyr Gydol Oes a Chymorth Cymunedol, Neuadd Cyngor Ceredigion Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA, dros y ffôn ar 01545 574200 neu drwy ebost ar cysylltu@ceredigion.gov.uk.
Os ydych chi’n ofalwr sy’n chwilio am wybodaeth am eich hawliau fel gofalwr di-dâl mewn cyflogaeth, cewch ragor o wybodaeth yn y taflen feithiau Hawliau gofalwyr yn y gwaith.