Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gofalwyr Ifanc

Ydych chi o dan 18 oed ac yn gofalu am aelod o'ch teulu neu deulu estynedig sydd â salwch hirdymor, anabledd, salwch sy'n gysylltiedig â chyffuriau / alcohol neu salwch meddwl?

Pwy sy’n ofalwr ifanc?

Gofalwr ifanc yw person ifanc sydd:

  • O dan 18 oed

ac

  • Yn helpu i ofalu am ffrind neu aelod o’r teulu sy’n sâl, sy’n anabl, neu sy’n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol.

Weithiau gelwir pobl ifanc 16 – 25 oed yn ofalwyr sy’n oedolion ifanc.

Mae llawer o ofalwyr ifanc yn gofalu am eu mam neu eu tad, ond mae rhai yn gofalu am frawd neu chwaer, neu nain neu daid.

Gall gofalwyr ifanc ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau i gefnogi’r bobl y maent yn gofalu amdanynt, megis:

  • Siopa
  • Coginio
  • Glanhau
  • Trin meddyginiaethau ac arian
  • Darparu gofal personol
  • Gofal plant
  • Helpu pobl i adael y tŷ
  • Cadw llygad ar rywun
  • Darparu cymorth emosiynol

Pan fydd yn rhaid i berson ifanc ysgwyddo gormod o gyfrifoldeb, gall hynny droi’n broblem. Gall gofalu effeithio ar:

  • Eich teimladau
  • Eich iechyd a’ch lles
  • Eich perfformiad yn yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol
  • Eich bywyd cymdeithasol
  • Cyfleoedd yn y dyfodol

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n ofalwr ifanc, neu’n adnabod rhywun sy’n ofalwr ifanc, gall fod o gymorth i chi siarad â rhywun am eich sefyllfa. Gall eich helpu chi a’r person rydych yn gofalu amdano i gael y cymorth sydd ei angen arnoch.

Mae Gwasanaeth Cymorth i Ofalwyr Ifanc Ceredigion, Gofalwyr Ceredigion Carers, yn cynnig cymorth un wrth un i blant a phobl ifanc sy’n gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind sydd â salwch, anabledd, neu sy’n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol.

Gall Gofalwyr Ceredigion Carers helpu gyda:

  • Gwybodaeth a chyngor
  • Cymorth unigol a grŵp
  • Teithiau a gweithgareddau hwyliog
  • Ymweliadau ag ysgolion
  • Cael mynediad at wasanaethau cymorth eraill

Cefnogi Gofalwyr Ifanc yng Ngheredigion

Am ragor o fanylion ac i gael mynediad at y gwasanaeth cysylltwch â:

Gofalwyr Ceredigion Carers

03330 143 377
ceredigion@credu.cymru
www.gofalwyrceredigioncarers.cymru/youngcarers 

Llyfryn: Gwybodaeth ar gyfer Gofalwyr Ifanc

Pam mae angen i ni weithredu nawr i adnabod, cyfeirio a chefnogi Gofalwyr Ifanc?

Weithiau mae Gofalwyr Ifanc yn gorfod ymdopi ag iselder, euogrwydd, arwahanrwydd, poeni, pryder a straen. Gall hyn yn ei dro ddod ag:

  • Unigrwydd
  • Bwlio
  • Diffyg presenoldeb yn yr ysgol
  • Prinder sgiliau cymdeithasol
  • Cyflawni'n isel mewn addysg
  • Colli cyfleoedd
  • Esgeulustod
  • Problemau iechyd y meddwl
  • Yn groes i'w hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC)
  • Methu cyfleoedd cymdeithasol ac addysgol

Yr hyn a allai Gofalwyr Ifainc fod yn ei wneud:

  • Tasgau ymarferol – golchi, coginio neu smwddio
  • Gofal personol – rhoi bath i rywun a dodi dillad amdanynt
  • Cymorth emosiynol – cynnig "clust i wrando"
  • Codi a chludo corfforol
  • Helpu gyda moddion neu godi presgripsiwn
  • Helpu i ofalu am chwiorydd neu frodyr iau
  • Sicrhau diogelwch
  • Cadw trefn ar arian y teulu a thalu biliau
  • Cyfieithu neu ddehongli

Sut fedrwch chi adnabod Gofalydd Ifanc?

Fe allai ....

  • Fod yn gyfrinachol ynglŷn â'i fywyd gartref
  • Golwg flinedig arno/arni
  • Hwyr i'r ysgol neu weithgareddau
  • Mynd mas gyda ffrindiau yn anaml
  • I'w weld yn bryderus neu'n poeni drwy'r amser
  • Dangos arwyddion o ymddygiad trafferthus
  • Colli ysgol
  • Golwg yn ei gragen neu isel ei ysbryd arno/arni
  • Iechyd neu hylendid personol gwael
  • Anodd canolbwyntio a golwg bell arno/arni

Yr hyn mae angen i chi ei wneud:

Os ydych yn gwybod bod rhywun yn Ofalydd Ifanc gofalwch eich bod yn cynnig cymorth iddo/iddi a rhoi gwybodaeth ac/neu gyfeiriad gyda'r prif gysylltiadau ar y daflen hon.

Mae'r rhain yn un o'n grwpiau mwyaf agored i niwed yn gymdeithas. Mae hyn nawr yn ddyletswydd i chi o dan y ddeddf newydd.

Prif gysylltiad os daw Gofalydd Ifanc i'ch sylw:

Canolfan Gysylltu Ceredigion:

Ffôn: 01545 574000
Minicom: 01545 574001
E-bost: contact-socservs@ceredigion.gov.uk

Pam mae angen i ni weithredu nawr i adnabod, cyfeirio a chefnogi gofalwyr ifanc?

Weithiau mae gofalwyr ifanc yn gorfod ymdopi ag iselder, euogrwydd, arwahanrwydd, poeni, pryder a straen. Gall hyn yn ei dro ddod ag:

  • Unigrwydd
  • Bwlio
  • Diffyg presenoldeb yn yr ysgol
  • Prinder sgiliau cymdeithasol
  • Cyflawni'n isel mewn addysg
  • Methu cyfleoedd cymdeithasol ac addysgol
  • Esgeulustod
  • Problemau iechyd y meddwl
  • Yn groes i'w hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC)

Yr hyn a allai Gofalwyr Ifainc fod yn ei wneud:

 Tasgau ymarferol – golchi, coginio neu smwddio

  • Gofal personol – rhoi bath i rywun a dodi dillad amdanynt
  • Cymorth emosiynol – cynnig "clust i wrando"
  • Codi a chludo corfforol
  • Helpu gyda moddion neu godi presgripsiwn
  • Helpu i ofalu am chwiorydd neu frodyr iau
  • Sicrhau diogelwch
  • Cadw trefn ar arian y teulu a thalu biliau
  • Cyfieithu neu ddehongli

Sut fedrwch chi adnabod Gofalydd Ifanc?

Fe allai ...

  • Fod yn gyfrinachol ynglŷn â'i fywyd gartref
  • Golwg flinedig arno/arni
  • Hwyr i'r ysgol neu weithgareddau
  • Mynd mas gyda ffrindiau yn anaml
  • I'w weld yn bryderus neu'n poeni drwy'r amser
  • Dangos arwyddion o ymddygiad trafferthus
  • Colli ysgol
  • Golwg yn ei gragen neu isel ei ysbryd arno/arni
  • Iechyd neu hylendid personol gwael
  • Anodd canolbwyntio a golwg bell arno/arni

Yr hyn mae angen I chi ei wneud:

Os ydych yn gwybod bod rhywun yn Ofalydd Ifanc gofalwch eich bod yn cynnig cymorth iddo/iddi a rhoi gwybodaeth ac/neu gyfeiriad gyda'r prif gysylltiadau ar y daflen hon.

Prif gysylltiad os daw Gofalydd Ifanc i'ch sylw:

Canolfan Gysylltu Ceredigion:

📞 01545 574000
📧 contact-socservs@ceredigion.gov.uk