Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cymorth i ofalwyr di-dâl tra bod y person y maent yn gofalu amdano yn yr ysbyty ac ar ôl cael ei ryddhau neu wrth drosglwyddo i ofal

Pan fydd rhywun yn mynd i mewn i'r ysbyty neu'n gadael yr ysbyty, gall fod yn anodd i deuluoedd. Efallai y byddwch yn dod yn ofalwr di-dâl yn sydyn neu'n wynebu heriau newydd pan ddaw'r person rydych wedi bod yn gofalu amdano adref. Efallai y bydd llawer o gyfarfodydd, penderfyniadau caled, a gwaith papur dryslyd. Mae'n hawdd teimlo eich bod yn cael eich gadael allan neu nad ydych yn cael eich gwerthfawrogi ddigon am eich help, yn yr ysbyty a gartref.

Weithiau, efallai mai'r gofalwr di-dâl yw'r un yn yr ysbyty neu fod angen triniaeth arno. Os ydych chi'n disgwyl arhosiad yn yr ysbyty neu lawdriniaeth ac yn poeni am eich dyletswyddau gofalu, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Efallai y byddwch yn teimlo bod angen i chi adael yr ysbyty yn gynnar i ofalu am rywun arall neu ofalu amdanynt yn syth ar ôl i chi gael eich rhyddhau, a all ei gwneud hi'n anodd i chi wella.

Beth allwch chi ei wneud?

  • Dywedwch wrth staff ysbyty eich bod yn ofalwr di-dâl - Gwnewch yn siŵr bod staff yr ysbyty yn gwybod am y gofal rydych chi'n ei roi a dywedwch wrthynt os ydych chi'n poeni am reoli gofal pan fydd y person rydych chi'n gofalu amdano yn gadael yr ysbyty.
  • Gwnewch gynllun - Meddyliwch beth fyddai'n digwydd pe na baech yn gallu rhoi gofal. Beth sydd ei angen arnoch i sicrhau eich bod chi a'r person rydych yn gofalu amdano yn ddiogel ac yn iach?
  • Siaradwch â Swyddog Gofalwyr - Os ydych chi neu'r person rydych yn gofalu amdano yn mynd i'r ysbyty neu eisoes yno, mae gan bob ysbyty Swyddog Gofalwyr. Gallant eich helpu i drafod eich sefyllfa, gwneud cynllun, a dod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnoch. Swyddog Gofalwyr Manylion cyswllt:
    • Ceredigion: Gofalwyr Ceredigion Carers 03330 143377
    • Sir Gaerfyrddin: Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru 0300 0200 002
    • Sir Benfro: Adfeiriad 01437 611002
  • Sicrhewch Asesiad o Anghenion Gofalwr - Mae hyn yn helpu i ddarganfod pa gymorth y gallai fod ei angen arnoch chi a'r person rydych yn gofalu amdano. Gellir gwneud hyn ar yr un pryd â'r asesiad ar gyfer y person rydych yn gofalu amdano.
  • Cysylltwch am gymorth - Os ydych chi neu’r person rydych yn gofalu amdano eisoes adref o'r ysbyty ac mae angen mwy o gymorth arnoch, cysylltwch â'ch gweithiwr allgymorth neu'r Tîm Cyswllt Cyntaf ar 03330 143 377.
  • Os yw'r sefyllfa'n un frys - Os nad ydych yn gallu rhoi gofal ac nad yw'r person rydych yn gyfrifol amdano yn gallu ymdopi ar ei ben ei hun, cysylltwch â Gwasanaethau Cymdeithasol y Porth Gofal ar unwaith ar 01545 574000 (Dydd Llun i Dydd Iau, 8:45y.b. - 5:00y.p. a Dydd Gwener o 8:45y.b. - 4:30y.p.) neu ar 0300 456 3554 ar gyfer gwasanaeth brys y tu allan i oriau.

Gwyliwch y fideo isod i gael profiad un gofalwr o'r cymorth a gafodd gan y Gwasanaeth Rhyddhau Gofalwyr


Ewch i tudalen Gwybodaeth i ofalwyr ar wefan Hywel Dda am fwy o wybodaeth a chymorth i ofalwyr.

Cofiwch, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Rydyn ni yma i wrando arnoch chi a'ch helpu gyda'r hyn sydd ei angen arnoch chi.