Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc
Mae'r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc yn gerdyn adnabod sy'n cynnwys llun, a gyhoeddir gan Gyngor Sir Ceredigion i Ofalwyr Ifanc sy'n o dan 18 oed, sydd wedi cofrestru gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Ifanc Cyngor Sir Ceredigion ac sy'n gofyn am gael Cerdyn Gofalwr Ifanc.
Mae'r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc yn cadarnhau bod yr unigolyn a ddangosir ar y cerdyn yn Ofalwr Ifanc a bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu.
Mae'r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc ar gael yn rhad ac am ddim. Mae'r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc yn ddilys am 2 flynedd.
Rhoddir Cerdyn Gofalwyr i Oedolion 18 oed a throsodd sy'n gofyn am gerdyn.
Ymgeisiwch am Gerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc
Os ydych yn Ofalwr Ifanc, gallwch wneud cais am Gerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc trwy lenwi'r ffurflen gais ar-lein isod. Darllenwch yr adran Gwybodaeth i Ofalwyr Ifanc isod i gael gwybod mwy.
Os ydych yn rhiant neu'n rhywun sy'n cynorthwyo Gofalwr Ifanc, gallwch wneud cais am Gerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc ar gyfer y Gofalwr Ifanc trwy lenwi'r ffurflen gais ar-lein isod. Darllenwch y wybodaeth isod i bobl sy'n cynorthwyo neu sy'n gweithio gyda Gofalwyr Ifanc i gael gwybod mwy.
Ffurflen Gais Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc
Ar gyfer pwy y mae'r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc?
Mae'r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc ar gyfer Gofalwr Ifanc. Mae Gofalwr Ifanc yn rhywun sy'n helpu gofalu am ffrind neu aelod o'r teulu, nad ydynt yn gallu ymdopi ar eu pen eu hunain oherwydd bod ganddynt anabledd, salwch corfforol neu feddyliol neu eu bod yn cael eu heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau neu alcohol.
Gallwch wneud cais am y Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc os ydych chi neu'r unigolyn yr ydych yn gofalu amdanynt yn byw yng Ngheredigion.
Gwybodaeth i Ofalwyr Ifanc
Gallwch wneud cais am Gerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc trwy lenwi'r ffurflen gais ar-lein. Bydd angen i chi lanlwytho llun o'ch hun i'w ddefnyddio ar y cerdyn. Darllenwch y canllawiau lluniau i gael gwybod mwy.
Os ydych chi dan 14 oed, bydd angen i ni gysylltu â’ch rhiant/ gwarcheidwad i gael eu caniatâd nhw i chi ymuno â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Ifanc a gwneud cais am Gerdyn Gofalwr Ifanc.
Efallai y bydd angen i ni gysylltu ag oedolyn am eich cais. Gallai'r oedolyn hwn fod yn rhiant/ gwarcheidwad i chi neu'n oedolyn yr ydych chi'n eu hadnabod o'r ysgol, coleg, Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc neu wasanaeth arall neu o glwb neu grŵp yr ydych yn rhan ohono. Sicrhewch bod gennych eu henw, eu rhif ffôn a'u cyfeiriad e-bost yn barod cyn i chi ddechrau llenwi'r ffurflen gais.
Gwybodaeth i rieni/ gwarcheidwaid
Os ydych yn rhiant/ gwarcheidwaid, gallwch wneud cais am Gerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc ar gyfer y Gofalwr Ifanc trwy lenwi'r ffurflen gais ar-lein.
Gwybodaeth i bobl sy'n cynorthwyo neu sy'n gweithio gyda'r Gofalwr Ifanc
Os ydych chi'n rhywun sy'n cynorthwyo neu sy'n gweithio gyda'r Gofalwr Ifanc, fe'ch ystyrir yn 'gyfeiriwr yr ymddiriedir ynddynt', felly gallwch wneud cais am Gerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc ar ran Gofalwr Ifanc.
Mae cyfeirwyr yr ymddiriedir ynddynt yn bobl sy'n adnabod y Gofalwr Ifanc, mewn ffordd broffesiynol fel arfer, sy'n gallu cadarnhau eu bod yn gymwys i wneud cais am Gerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc. Isod, rhestrir enghreifftiau o'r meysydd y gallai cyfeirwyr yr ymddiriedir ynddynt fod yn gweithio ynddynt.
- Gwasanaeth Ysgol
- Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc
- Gwasanaeth Gofalwyr sy’n Oedolion
- Gofal Cymdeithasol neu wasanaethau eraill Cyngor Sir Ceredigion
- GIG/ Bwrdd Iechyd
- Sefydliad trydydd sector
- Gwasanaeth ieuenctid/ gwaith ieuenctid
Os yw'r Gofalwr Ifanc dan 14 oed, rhaid bod y cyfeiriwr yr ymddiriedir ynddynt yn sicrhau caniatâd rhiant/gwarcheidwad y Gofalwr Ifanc i gyflwyno'r cais.
Os yw'r Gofalwr Ifanc dros 14 oed, rhaid bod y cyfeiriwr yr ymddiriedir ynddynt yn sicrhau caniatâd y Gofalwr Ifanc i gyflwyno'r cais.
Bydd angen i chi lanlwytho llun o'r Gofalwr Ifanc i'w ddefnyddio ar y cerdyn. Darllenwch y canllawiau lluniau i gael gwybod mwy.
Beth yw diben y Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc?
Mae'r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc yn dangos bod deiliad y cerdyn yn Ofalwr Ifanc. Gallwch ddefnyddio'r cerdyn i ddangos bod gennych chi gyfrifoldebau gofalu.
Sut y bydd eich Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc yn edrych
Gallwch ddewis y ddelwedd sy’n cynnig cefndir i’r cerdyn o’r 6 ddelwedd a ddangosir yma neu gallwch anfon eich delwedd eich hun i’w defnyddio ar y cerdyn.
Canllawiau ar gyfer ffotograffau
A fyddech cystal â lanlwytho llun (ffoto o’r pen a’r ysgwyddau) o ansawdd da ohonoch eich hun i’w ddefnyddio ar y cerdyn. Gallwch ofyn i aelod o’r teulu neu ffrind i gymryd llun ar ffôn neu ddyfais arall. Ni ddylai maint eich llun fod dros 2MB os ydych yn ei lanlwytho ar-lein.
Os nad ydych yn gallu lanlwytho eich llun, anfonwch lun mewn neges e-bost at cysylltu@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch Cyngor Sir Ceredigion ar 01545 574200 i gael help wrth gyflwyno llun.
Dylai’r llun:
- fod yn llun lliw a dynnwyd yn ddiweddar
- bod o’r Gofalwr Ifanc yn unig (dim pobl arall nac anifeiliaid anwes)
- bod wedi cael ei gymryd yn erbyn cefndir golau
- dangos y Gofalwr Ifanc yn edrych ymlaen gyda’u pen a’u hysgwyddau yn y llun
- dangos wyneb llawn y Gofalwr Ifanc
- dangos y Gofalwr Ifanc yng nghanol y llun
- os yw’r Gofalwr Ifanc yn gwisgo sbectol, dylai ddangos eu llygaid yn glir, gan osgoi golau ar y lensys
Dylech fod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau canlynol.
Ni ddylai’r llun:
- ddangos y Gofalwr Ifanc yn gwisgo het neu orchudd pen oni bai bod hynny am resymau meddygol neu grefyddol
- dangos y Gofalwr Ifanc gyda llygaid coch ffotograffig
- dangos y Gofalwr Ifanc yn y pellter neu gyda phobl arall yn y golwg
- bod o ddelweddau amhriodol neu anweddus
- dangos y Gofalwr Ifanc gyda’u hymddangosiad wedi newid neu gyda hidlydd
- bod yn ddelwedd o rywun arall neu’n ddelweddau a warchodir gan hawlfraint
- ni ddylech gyflwyno llun yr ydych chi wedi ei olygu er mwyn newid eich ymddangosiad neu sy’n defnyddio hidlydd
- ni ddylech gyflwyno delwedd o rywun arall neu’n ddelweddau a warchodir gan hawlfraint
Fformat y ffeil
Dylai’r ddelwedd fod yn ffeil .jpg neu jpeg a dylai fod yn llai nag 2MB.
Buddion a Gostyngiadau y Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc
Mae'r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc yn rhywbeth newydd i Geredigion ac rydym yn gweithio gyda busnesau lleol a sefydliadau eraill er mwyn pennu'r buddion a'r gostyngiadau y bydd y Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc yn eu cynnig i chi.
Mae'r buddion a'r gostyngiadau a restrir isod ar gael i ddeiliaid y Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc ar hyn o bryd. Caiff y wybodaeth hon ei diweddaru pan fydd buddion neu ostyngiadau newydd ar gael.
Aelodaeth o'r gampfa AM DDIM
Gallwch ddefnyddio eich Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc i gael mynediad i'r holl gyfleusterau yn eich canolfan hamdden leol.
Mae eich cerdyn yn awr yn cynnig y canlynol am ddim i chi:
- Aelodaeth o'r gampfa
- Nofio
- Dosbarthiadau a gweithgareddau a gynhelir gan y Cyngor
Rhaid i chi ddangos eich cerdyn er mwyn gallu manteisio ar y cynigion hyn, felly cofiwch fynd ag ef gyda chi!
Prawf o rôl gofalu wrth ofyn am frechiadau am ddim rhag y ffliw
Mae Gofalwyr Ifanc yn gymwys i gael brechiad am ddim rhag y ffliw. Gellir defnyddio'r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc fel prawf o'ch rôl gofalu er mwyn hawlio'ch brechiadau am ddim rhag y ffliw. Gallwch ofyn i'ch meddygfa am eich brechiad am ddim rhag y ffliw neu eich fferyllfa leol (nid yw pob fferyllfa yn cynnig brechiadau rhag y ffliw).
Sesiynau hyfforddiant am ddim gyda Dysgu Bro
Mae Dysgu Bro yn darparu amrediad o gyfleoedd dysgu i oedolion a phobl ifanc 16 oed a throsodd megis cyrsiau i wella sgiliau TG a sgiliau digidol i gyrsiau ffordd o fyw a chreadigol. Bydd sesiwn hyfforddiant gyntaf unrhyw gwrs hyfforddiant Dysgu Bro ar gael yn rhad ac am ddim i ddeiliaid y Cerdyn Gofal. Am ragor o wybodaeth am gyrsiau hyfforddiant, trowch at www.dysgubro.org.uk neu ffoniwch 01970 633540.
Cyn gwneud cais am Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc, darllenwch yr amodau a thelerau a’r canllawiau ynghylch lluniau isod.
- Rhoddir y Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc i Ofalwyr di-dâl sy’n 18 oed neu’n iau ac sy’n byw yng Ngheredigion, neu sy’n helpu i ofalu am rywun sy’n byw yng Ngheredigion.
- Mae’r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc ar gael i aelodau’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Ifanc.
- Os nad yw’r cais am gerdyn Gofalwr Ifanc wedi cael ei gyflwyno gan gyfeiriwr yr ymddiriedir ynddynt, efallai y bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn i’r ymgeisydd /deiliad cerdyn Gofalwr Ifanc (pan fo hynny’n briodol) neu riant/gwarcheidwad i ddarparu gwybodaeth neu dystiolaeth o rôl gofalu y Gofalwr Ifanc, megis llythyr gan feddyg, ysgol neu dystiolaeth ategol briodol arall.
- Mae’r Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc yn ddilys am 2 flynedd o’r dyddiad pan gaiff ei gyhoeddi. Y rhiant/ gwarcheidwad neu’r Gofalwr Ifanc sy’n gyfrifol am wneud cais i Dîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol i adnewyddu’r cerdyn. Gall cyfeiriwr yr ymddiriedir ynddynt wneud cais i Gyngor Sir Ceredigion hefyd i adnewyddu’r cerdyn ar ran y Gofalwr Ifanc.
- Bydd defnyddio’r cerdyn yn rhwym i’r amodau a thelerau hyn.
- Os bydd rôl gofalu Gofalwr Ifanc wedi dod i ben, rhaid i’r rhiant/ gwarcheidwad neu’r Gofalwr Ifanc hysbysu Cyngor Sir Ceredigion o’r newid. Gall y Gofalwr Ifanc barhau i ddefnyddio’r cerdyn am 3 mis pellach, yna bydd yn rhaid dychwelyd y cerdyn i Gyngor Sir Ceredigion.
- Mae Cardiau Gofalwr Ifanc yn cynnwys cofnod adnabod ffotograffig, cyfeirnod a dyddiad dod i ben. Defnyddir y Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc at ddibenion adnabod a dylai gael ei ddefnyddio gan ddeiliad y cerdyn ar y cyd ag unrhyw ostyngiad neu wasanaeth a gynigir yn unig.
- Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cadw’r hawl i newid ymddangosiad ac amodau’r Cerdyn Gofalwr Ifanc, neu i derfynu cynllun y Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc ar unrhyw adeg.
- Os bydd y Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc yn mynd ar goll, ffoniwch Cyngor Sir Ceredigion ar 01545 574200 a bydd modd rhoi cerdyn newydd. Efallai y codir tâl bach am gyhoeddi cerdyn newydd.
- Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cadw’r hawl i newid amodau a thelerau’r cytundeb hwn ar unrhyw adeg. Os byddwn yn gwneud hynny, byddwn yn eich hysbysu yn ysgrifenedig o leiaf 30 diwrnod cyn gwneud unrhyw newidiadau o’r fath, gan nodi manylion y newidiadau a wnaethpwyd.
Os hoffwch adnewyddu eich Cerdyn Gofalwr anfonwch e-bost i cysylltu@ceredigion.gov.uk. Nodwch rif adnabod y Cerdyn Gofalwyr a bydd angen i chi roi gwybod i ni os yw eich manylion, h.y. cyfeiriad neu rif cyswllt, wedi newid ers i’ch cerdyn gael ei gyhoeddi diwethaf.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch
Gallwch gysylltu â Thîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol Ceredigion gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a nodir isod am ragor o wybodaeth:
Ffôn: 01545 574200
E-bost: cysylltu@ceredigion.gov.uk