Cerdyn Gofalwr i Oedolion
Cais am Gerdyn Gofalwr:
Uwch-lwythwch lun clir o’ch pen a’ch ysgwyddau i’w ddefnyddio ar eich Cerdyn Gofalwr. Gallwch ofyn i rywun dynnu’r llun trwy ddefnyddio ffôn neu gamera. Ni ddylai’r llun fod yn fwy na 2MB wrth ei uwch-lwytho ar-lein.
Os nad ydych yn medru uwch-lwytho’r llun, gallwch ei e-bostio at cysylltu@ceredigion.gov.uk neu ffonio Cyngor Sir Ceredigion ar 01545 574200 am gymorth.
Gallwch hefyd ddanfon eich llun drwy’r post. Ysgrifennwch eich enw a’ch dyddiad geni ar gefn y llun a’i ddanfon at y cyfeiriad sydd ar ddiwedd y ffurflen.
Dylai eich llun:
- fod yn llun lliw, diweddar
- gynnwys chi yn unig (dim pobl arall nac anifeiliaid anwes)
- gael cefndir clir
- ddangos blaen eich wyneb gyda’ch pen a’ch ysgwyddau yn y golwg
- ddangos eich wyneb llawn yn glir
- sicrhau eich bod yn ganolog
- os ydych yn gwisgo sbectol, gwnewch yn siŵr bod eich llygaid yn weledol ac nad oes cysgod yn y lens
Dylid osgoi’r canlynol:
- Peidiwch gwisgo het na gorchudd pen heblaw ei fod am resymau meddygol neu grefyddol
- Peidiwch cyflwyno llun gyda llygad goch
- Peidiwch cyflwyno llun sydd wedi’i gymryd o bellter neu sy’n cynnwys pobl eraill yn y cefndir
- Peidiwch cyflwyno lluniau anaddas neu sydd wedi’u haddasu (dim hidlydd (filter))
- Peidiwch defnyddio llun rhywun arall neu lun sydd a hawlfraint
Ffurf y Ddogfen
Dylai’r llun fod ar ffurf ffeil .jpg neu .jpeg a dim mwy na 2MB.
- Mae’r cerdyn ar gyfer gofalwyr di-dâl sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sy’n byw neu sy’n gofalu am rywun yng Ngheredigion
- Rhaid i chi fod yn aelod o’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr er mwyn gwneud cais
- Weithiau efallai, bydd gofyn i chi brofi eich bod yn ofalwr, er enghraifft trwy ddangos Lwfans Gofalwr neu lythyr wrth eich meddyg teulu
- Mae'r cerdyn yn ddilys am ddwy flynedd, ac mae angen i chi wneud cais am adnewyddiad cyn iddo ddod i ben
- Os na fyddwch yn ofalwr mwyach, dylech ddweud wrth y cyngor, ac ar ôl tri mis, mae'n rhaid i chi ddychwelyd y cerdynGellir disodli cardiau coll trwy gysylltu â'r Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol ar 01545 574200 neu cysylltu@ceredigion.gov.uk
Oes rhai i mi gael Cerdyn Gofalwr?
Na, mae’n ddewisol.
A yw'r cerdyn hwn yn disodli'r Cerdyn Argyfwng Gofalwyr?
Na, nid ar hyn o bryd, ond gall hyn newid yn y dyfodol.
Oes angen i mi fyw gyda'r person rwy'n gofalu amdano?
Na, ond mae'n rhaid i chi neu'r person rydych yn gofalu amdano fyw yng Ngheredigion.
Oes angen i mi fod yn aelod o'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr?
Oes, gallwch ymuno pan fyddwch yn gwneud cais am y cerdyn.
Oes modd i mi wneud cais heb Lwfans Gofalwr?
Oes, nid oes angen i chi dderbyn Lwfans Gofalwr i wneud cais.
Ydy’r Cerdyn Gofalwr yn rhad ac am ddim?
Ydy, mae'n rhad ac am ddim.
Rwy'n byw ar ffin Ceredigion, yn Sir Gaerfyrddin neu Sir Benfro ac felly hefyd y person rwy'n gofalu amdano ond rydym yn defnyddio gwasanaethau a siopa yng Ngheredigion. A allaf wneud cais am Gerdyn Gofalwyr?
Na, mae'n rhaid i chi neu'r person rydych yn gofalu amdano fyw yng Ngheredigion. Mae'r cyngor yn gweithio gyda siroedd eraill i gynnig manteision tebyg ar draws y rhanbarth.
Beth os nad wyf yn gofalu mwyach?
Mae'n rhaid i chi ddweud wrth y cyngor, a gallwch gadw'r cerdyn am dri mis arall cyn ei ddychwelyd.
Gall nifer o ofalwyr mewn un teulu rannu cerdyn?
Na, mae'n rhaid i bob gofalwr wneud cais am eu cerdyn eu hunain.
Am ba hyd y mae'r cerdyn yn ddilys?
Mae'r cerdyn yn ddilys am ddwy flynedd. Gellir ei adnewyddu drwy gysylltu â'r Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol ar 01545 574200 neu cysylltu@ceredigion.gov.uk.
Angen mwy o wybodaeth?
Cysylltwch â'r Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol ar 01545 574200 neu e-bostiwch cysylltu@ceredigion.gov.uk ar gyfer unrhyw gwestiynau pellach.