Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc

Mae Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc yn gerdyn adnabod sy’n cynnwys llun sy’n cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Ceredigion ar gyfer gofalwyr ifanc sydd o dan 18 mlwydd oed ac wedi cofrestru gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Ifanc. Mae’r cerdyn hwn yn dyst eich bod yn ofalwr ifanc a bod gennych gyfrifoldebau gofal. Mae’r cerdyn yn rhad ac am ddim ac yn ddilys am 2 flynedd. Os ydych yn 18 neu’n hŷn, gallwch gyflwyno cais am Gerdyn Gofalwr.

Sut i wneud cais am Gerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc?

Os ydych yn ofalwr ifanc, gallwch wneud cais trwy lenwi’r ffurflen gais ar-lein. Bydd angen i chi uwch-lwytho llun o’ch hunan. Os ydych o dan 14 mlwydd oed, bydd angen i ni gysylltu â rhiant neu warchodwr i gael caniatâd.

Os ydych yn cynorthwyo gofalwr ifanc (fel rhiant neu weithiwr cymorth), gallwch wneud casi are u rhan trwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

Ffurflen gais Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifanc

Ble gallaf ei ddefnyddio?

Rhestr o Fuddion a Gostyngiadau

Gallwch ddewis llun cefndir ar gyfer eich cerdyn o’r dewis sydd ar gael neu ddanfon llun cefndir eich hun. 

Bydd y cerdyn hefyd yn cynnwys llun ohonoch chi.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn uwch-lwytho llun clir (pen ac ysgwyddau) o’ch hunan. Gallwch ofyn i rywun dynnu eich llun ar ffôn symudol neu ddyfais arall. Dylai’r llun fod yn un diweddar, yn llun lliw ac yn cynnwys chi yn unig (dim person arall nac anifeiliaid anwes). Dylai ddangos eich wyneb yn llawn a gwnewch yn siŵr bod y cefndir yn blaen.

  • Mae Cerdyn Adnabod Gofalwr Ifan car gyfer gofalwyr di-dâl dan 18 oed sy’n byw yng Ngheredigion neu’n gofalu am rywun sy’n byw yng Ngheredigion
  • Rhai di chi fod yn aelod o’r Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Ifanc er mwyn gwneud cais. Gallwch ymuno wrth wneud cais am y cerdyn
  • Mae’r cerdyn yn ddilys am ddwy flynedd a dylech chi neu oedolyn dibynadwy wneud cais i adnewyddu pan fydd yn dod i ben
  • Os na fyddwch yn ofalwr mwyach, dylech roi gwybod i’r Cyngor. Gallwch barhau i ddefnyddio’r cerdyn am dri mis cyn ei ddychwelyd
  • Os byddwch yn colli'ch cerdyn, gallwch ofyn am rywun arall drwy gysylltu â'r Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol ar 01545 574200 neu e-bostio cysylltu@ceredigion.gov.uk

Angen mwy o help?

Am fwy o wybodaeth, gallwch gysylltu â'r Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol ar 01545 574200 neu e-bostio cysylltu@ceredigion.gov.uk.