The Magic of Life Butterfly House
Tŷ trofannol dan do ynghanol Cwm Rheidol yw ‘The Magic of Life Butterfly House’.
Cyfle i fentro i fyd y gloÿnnod byw trofannol gyda gloÿnnod byw mwyaf a mwyaf lliwgar y goedwig law yn hedfan yn rhydd o’ch cwmpas. Mae gennym hefyd bryfed anferth, pysgod a chwrel i’w gweld. Rydym yn elusen bioamrywiaeth cofrestredig sy’n cael ei rhedeg gan fiolegwyr. Mae’r lle yn addas i gadeiriau olwyn ac mae croeso i gŵn!
Cyfraddau rhatach ar gael i ddeiliaid cardiau Gofalwyr i Oedolion a Gofalwyr Ifanc.