Sesiynau hyfforddiant am ddim gyda Dysgu Bro
Mae Dysgu Bro yn darparu amrediad o gyfleoedd dysgu i oedolion megis cyrsiau i wella sgiliau TG a sgiliau digidol i gyrsiau ffordd o fyw a chreadigol.
Bydd sesiwn gyntaf o unrhyw gwrs hyfforddiant wythnosol Dysgu Bro ar gael yn rhad ac am ddim i ddeiliad y Cerdyn Gofal. Am ragor o wybodaeth am gyrsiau hyfforddiant, trowch at tudalen Dysgu Bro Ceredigion neu ffoniwch 01970 633540.