Skip to main content

Ceredigion County Council website

Seedlings Retreats and Holidays – gostyngiad o 10%

Wedi’i sefydlu gan Jen Bailey-Hobbs, hyfforddwraig gwaith anadlu ryngwladol, arbenigwraig dŵr oer, ac athrawes yoga yin meddylgar, mae Seedlings Retreats and Holidays yn Aberaeron yn darparu noddfa i ymlacio ac i adfywio ynddi.

Gyda phrofiadau gwaith anadlu, myfyrio, yoga yin a baddonau iâ o dan arweiniad arbenigol, yn ogystal ag encilion moethus, mae Seedlings yn lle delfrydol i ymlacio ac i adennill eich nerth.

Mae Seedlings Retreats and Holidays yn darparu gostyngiad o 10% i ofalwyr di-dâl Ceredigion oddi ar bris pob sesiwn llesiant, llety, encilion a gwasanaethau ffotograffiaeth. I hawlio’r cynnig hwn, defnyddiwch y cod 'carers10%' a dangoswch Gerdyn Gofalwr Ceredigion.

I gael mwy o wybodaeth, dilynwch Seedlings Retreats and Holidays:

I archebu neu i wneud ymholiadau ewch i wefan Seedlings Retreat and Holidays neu ffoniwch 07884007525.