Skip to main content

Ceredigion County Council website

Rheilffordd y Graig, Aberystwyth - Teithio am ddim

Ar ben gogleddol promenâd Aberystwyth, mae Craig Glais yn codi’n ddramatig o’r môr. O’r copa, ceir golygfeydd trawiadol di-dor dros y dref a Bae Ceredigion. Ar ddiwrnod clir, gallwch weld 26 copa ar hyd a lled rhan helaeth o Gymru.

Y ffordd fwyaf hamddenol o fwynhau’r olygfa odidog hon yw drwy deithio ar drên ar reilffordd halio drydan hiraf Prydain. Mae’r rheilffordd wedi bod yn cludo ymwelwyr ers iddi agor yn 1896.

O 1 Ebrill 2023, cewch deithio am ddim ar hyd Rheilffordd y Graig drwy ddangos Cerdyn Gofalwr a Cherdyn Gofalwr Ifanc Ceredigion.

I gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys oriau agor Rheilffordd y Graig ewch i wefan Rheilffordd y Graig.