Skip to main content

Ceredigion County Council website

Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi

Mae Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi yn cynnig pris mynediad rhatach i ddeiliaid Cerdyn Gofalwyr Oedolion a Cherdyn Gofalwyr Ifanc.

Mae Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi yn fferm deuluol sydd â rhywbeth i'r teulu cyfan ei fwynhau. Gallwch weld a bwydo'r anifeiliaid fferm cyfeillgar, mynd am dro ar hyd y clogwyn i fwynhau'r golygfeydd godidog a'r bywyd gwyllt, neu fanteisio ar yr ardal chwarae awyr agored.

Gallwch ddod o hyd i'r oriau agor, prisiau tocynnau rhatach a'r holl delerau ac amodau ar wefan Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi. Sylwch fod pris mynediad i ofalwyr yr un fath â'r cyfraddau mynediad ar gyfer oedolion anabl a phlant . I dderbyn y gostyngiad hwn, mae'n rhaid i chi gyflwyno eich Cerdyn Gofalwr Ceredigion.