Llanerchaeron - Mynediad am ddim (£9 i oedolion a £4.50 i blant fel arfer)
Dewch i ddarganfod fila Sioraidd gain Llanerchaeron, ynghyd â gardd furiog, buarth fferm, llyn a thir parc gwyllt. Ac yntau wedi’i gynllunio gan y pensaer enwog, John Nash, yn y 1790au, nid yw’r tŷ wedi newid fawr ddim ers dros ddwy ganrif.
- Ewch i grwydro cwrt y gweision
- Ewch am dro hamddenol o amgylch yr ardd â mur o frics coch o’i hamgylch, y llyn addurniadol, a’r parcdir gwyllt
- Ewch i’r buarth traddodiadol i gwrdd ag anifeiliaid fferm, gan gynnwys cobiau Cymreig, moch cynhenid, dofednod a gwyddau
Rhaid i chi ddangos Cerdyn Gofalwr neu Gerdyn Gofalwr Ifanc Ceredigion i gael mynediad am ddim i Lanerchaeron.
I gael mwy o wybodaeth am Lanerchaeron, gan gynnwys yr oriau agor, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Genedlaethol.