Skip to main content

Ceredigion County Council website

Fferm Denmark – gostyngiad o 10% oddi ar bris gweithdy diwrnod

Mae Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark yn warchodfa natur 40 erw â chyfoeth o fywyd gwyllt. Mae croeso i bawb sy’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored ac ym myd natur fynd yno am ddim.

Mae Fferm Denmark hefyd yn cynnal gweithdai diwrnod sy’n amrywio o blethu basgedi a pheintio byd natur i eplesu a gwneud siocled.

Gall deiliaid Cerdyn Gofalwr a Cherdyn Gofalwr Ifanc Ceredigion gael gostyngiad o 10% oddi ar bris llawn detholiad o weithdai diwrnod. Ewch i wefan Fferm Denmark i gael mwy o fanylion, neu ffoniwch 01570 493358 yn ystod oriau swyddfa.

Sylwch: Mae’r cynnig hwn yn ddibynnol ar argaeledd ac ar delerau ac amodau lleol. Bydd rhaid i oedolyn fynd gydag unrhyw un o dan 18 oed, a bydd angen i chi ddangos eich Cerdyn Gofalwr a/neu Gerdyn Gofalwr Ifanc pan fyddwch chi’n cyrraedd.