Eco Hub Aber - Gwasanaethau am hanner pris
Gwasanaethau am hanner pris gyda Cherdyn Gofalwr Ceredigion
- Llogi e-feic (£25 am hanner diwrnod fel arfer)
- Llogi man gweithio/desg boeth (£12 am hanner diwrnod fel arfer)
- Ymaelodi ag Eco Hub Aber - gweler isod (£20 y mis fel arfer)
Er eich lles chi, beth am roi cynnig ar un o’n e-feiciau hybrid – y ffordd ddelfrydol o fwynhau’r awyr agored, gyda rhywfaint o hwb i’ch helpu i ddringo’r bryniau? Ewch am daith fer o amgylch eich bro, neu ewch am daith hirach i fwynhau byd natur ar hyd llwybr beicio cenedlaethol Llwybr Ystwyth.
Dewch i weithio mewn man gweithio naturiol, cyfeillgar a phroffesiynol gyda golygfa o’r môr - archebwch ddesg neu archebwch y man gweithio cyfan ar gyfer cyfarfodydd. Mae’r man gweithio wedi’i leoli yng nghanol y dref, ac mae Wi-Fi cyflym ar gael.
Os byddwch chi’n dewis ymaelodi, bydd hyn yn cynnwys e-feic am ddim am ddau hanner diwrnod, a desg boeth am ddim am ddau hanner diwrnod.
I archebu, llenwch y ffurflen “cysylltu” ar wefan ECO Hub Aber neu anfonwch e-bost atom ni yn ecohubaber@gmail.com gan roi “Cysylltu Gofalwyr” ym mhwnc yr e-bost.
Menter gymdeithasol leol sydd wedi’i lleoli yn yr Arcêd, 5 Stryd y Baddon, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2DN yw Eco Hub Aber. Rydym yn lle sy’n darparu syniadau, cymhelliad a chymorth ar gyfer eco-weithredoedd lleol. “Gweithredu heddiw i ffrwyno’r newid yn yr hinsawdd”.