Ceredigion Actif - Aelodaeth o'r gampfa am ddim
Mae gofalwyr di-dâl yng Ngheredigion yn cael mynediad diderfyn ac am ddim i gyfleusterau hamdden a weithredir gan Gyngor Sir Ceredigion.
Byddwch yn gallu manteisio ar:
- Ystafell Ffitrwydd
- Nofio (nawr yn cynnwys Llandysul, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan a Phlascrug)
- Dosbarthiadau Ffitrwydd
- Chwarae Meddal (Plascrug yn unig)
Rhaid i chi ddangos eich Cerdyn Gofalwr yn y ganolfan hamdden er mwyn gallu manteisio ar y buddion hyn.
Sylwch: mae cyfyngiadau oedran yn berthnasol i rywfaint o'r offer, y dosbarthiadau a'r cyfleusterau yn y canolfannau hamdden, holwch staff y ganolfan hamdden os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am hyn.