Cardiau Gofalwyr Ceredigion
Mae Cerdyn Gofalwr Ceredigion yn gerdyn adnabod sy’n cael ei ddarparu gan Gyngor Sir Ceredigion i ofalwyr di-dâl 18 oed neu hŷn sydd wedi’u cofrestru gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr. Mae Cerdyn Gofalwr Ifanc ar gael i’r rheiny sy’n ofalwyr ac o dan 18 mlwydd oed. Mae’r cerdyn hwn yn dyst bod yr unigolyn yn ofalwr cyfrifol sy’n gofalu am rywun.
Ar gyfer pwy mae’r cardiau hyn?
Mae’r cerdyn ar gyfer gofalwyr di-dâl - pobl sy’n gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu sy’n methu ymdopi ar eu pen eu hunain oherwydd anabledd, salwch neu broblemau cam-drin sylweddau. Rhaid i’r gofalwr neu’r person y maent yn gofalu amdanynt fod yn byw yng Ngheredigion.
Nid yw’r cardiau hyn ar gyfer gweithwyr gofal sy’n derbyn tâl.
Beth yw diben y cerdyn hwn?
Mae’r Cerdyn Gofalwr yn eich cynorthwyo i ddangos fod gan ddeiliaid y cerdyn gyfrifoldebau gofal ac mae’n rhoi mynediad i ofalwyr at rai gostyngiadau a gwasanaethau yng Ngheredigion.
Sut gallaf gael cerdyn?
Gallwch gyflwyno cais am Gerdyn Gofalwr drwy lenwi’r ffurflen ar-lein ac uwch-lwytho llun ar gyfer y cerdyn. Os oes angen cymorth arnoch i wneud cais neu’n methu cael mynediad at y we, cysylltwch â ni am gymorth drwy ffonio 01545 574200 neu drwy e-bost cysylltu@ceredigion.gov.uk.
Pryd fyddaf yn derbyn fy ngherdyn?
Ar ôl cyflwyno cais, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhad. Dylai’r cerdyn eich cyrraedd drwy’r post o fewn 21 diwrnod gwaith.