Gofal Preswyl/Nyrsio
Mae ystod eang o gartrefi gofal preswyl ar gael yn y Sir ac y mae rhai ohonynt yn arbenigo mewn cyflyrau penodol. Byddant yn medru darparu’r gofal sydd ei hangen arnoch yn ddyddiol yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol a theithiau allan. Mae Cartrefi Nyrsio’n debyg ond y maen’t hefyd yn darparu gofal nyrsio 24 awr os bydd ei angen arnoch.
Bydd yn ofynnol i bob cartref gofal yng Nghymru gael eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mi allwch chwilio ar eu gwefan am ddarparwyr cofrestredig mewn ardal benodol gan hefyd gael golwg ar yr adroddiadau arolygu ar gyfer y cartrefi.
Mae hyd yn oed meddwl am symud i mewn yn gartref gofal yn brofiad brawychus felly mae’n dra phwysig eich bod yn cael gymaint o wybodaeth â phosib. Bydd Age Cymru Ceredigion yn medru darparu cyngor i bobl sy’n 55 oed a throsodd a hoffai dalu am eu hunain (gelwir pobl o’r fath yn bobl sy’n hunan ariannu). Cysylltwch â hwy ar 01970 615151 neu 01239 615777.
Mae gan Independent Age rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol ar yr hyn y dylech ei ystyried pan fyddwch chi’n dewis cartref gofal: www.independentage.org
Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd yn medru cynorthwyo â chael gafael ar ofal cartref ar eich cyfer os byddwch chi’n gofyn am asesiad o’ch anghenion a’n bod yn cytuno fod eich anghenion yn ddilys ar gyfer gofal preswyl a gofal nyrsio.
Os ydych o’r farn fod o bosib angen asesiad o’ch anghenion, ffoniwch Porth Gofal ar 01545 574000.
Bydd yr hyn y bydd o bosib angen i chi ei dalu ar gyfer gofal preswyl neu ofal nyrsio yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol. Os bydd gennych gynilon sy’n llai na £50,000 (effeithiol o Ebril 2019) mae’n bosib y bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn medru eich cynorthwyo gyda thalu am eich gofal fodd bynnag bydd yn rhaid eich bod wedi derbyn asesiad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n cadarnhau eich bod yn gymwys am ofal preswyl neu ofal nyrsio.
Os cewch eich asesu i fod yn gymwys, byddwch yn cael cynnig asesiad ariannol fydd yn ystyried eich incwm, cynilon ac asedau eraill a byddant o gymorth i ni benderfynu faint fydd angen i chi gyfrannu tuag at gost eich gofal. Os byddwch chi’n penderfynu peidio â darparu eich manylion ariannol bydd angen i chi dalu am gost llawn eich gofal.
Os ydych chi eisoes wedi mynd i ofal preswyl neu ofal nyrsio ac yn hunan ariannu eich gofal, hynny yw, yn talu eich holl ffioedd eich hunain ac y mae eich cynilon erbyn nawr yn llai na £50,000 (effeithiol o Ebril 2019), neu’n agosáu at hynny mi allwch ofyn am asesiad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i weld a yw’n bosib i ni gynorthwyo gyda’ch ffioedd.
Gallwch gael mwy o wybodaeth ar y gwasanaethau a’r ffioedd yn ein dogfennau Codi Tâl am Ofal a Chymorth Preswyl a Taliadau Gofal Seibiant/Tymor Byr ar gyfer y Flwyddyn 2024/25.
Codi Tâl am Ofal Preswyl / Nyrsio
Er nad oes tâl am asesiad mae’n bosib y bydd tâl am rai o’r gwasanaethau a ddarperir gennym i oedolion.
Os cewch eich asesu’n gymwys byddwch yn cael cynnig asesiad ariannol fydd yn edrych ar eich incwm, cynilon ac asedau eraill gan fod o gymorth i ni benderfynu faint fydd angen i chi gyfrannu tuag at gost y gofal. Os byddwch chi’n penderfynu peidio â darparu eich manylion ariannol bydd angen i chi dalu am gost lawn eich gofal fodd bynnag, ar gyfer gwasanaethau megis gofal cartref, yr uchafswm i’w dalu (o Ebrill 2020) yw £100 yr wythnos.
Gallwch gael mwy o wybodaeth ar y gwasanaethau a’r ffioedd yn ein dogfennau Codi Tâl am Ofal a Chymorth Amhreswyl a Taliadau Gofal Seibiant/Tymor Byr ar gyfer y Flwyddyn 2024/2025.
Trosglwyddwyd Cartref Gofal Hafan y Waun i berchnogaeth Cyngor Sir Ceredigion ar 01 Tachwedd 2023.
Daw hyn yn dilyn penderfyniad MHA yn gynharach yn 2023 i dynnu'n ôl o redeg y cartref.
Bydd y Cyngor yn sicrhau parhad gweithrediadau cartref i breswylwyr a staff fel ei gilydd.
Mae’n well gan nifer o bobl barhau yn eu cartrefi eu hunain mor hir â phosib ac y mae nifer o wasanaethau ar gael o fewn y gymuned i gynorthwyo â hyn. Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalennau Cefnogaeth yn y Cartref.
Fodd bynnag i rai bobl mae’n bosib na fyddant yn medru parhau i fyw yn ddiogel yn eu cartref ac mae’n bosib yr hoffent ystyried opsiynau eraill.
Opsiynau Tai
Llety Gwarchod –Byngalos a fflatiau annibynnol a adeiladwyd yn briodol at y pwrpas lle bydd chymorth ar gael os bydd problem yn codi. Mae llety o’r fath ar gael ar draws Ceredigion ac fe’u lluniwyd yn benodol ar gyfer pobl hŷn (fel arfer 55 oed a throsodd).
Tai Gofal Ychwanegol – yn debyg i lety gwarchod fodd bynnag maent hefyd yn medru darparu gofalwyr ar y safle i gynorthwyo â gofal personol felly os yw eich anghenion yn newid yn y dyfodol mae’n bosib na fydd angen i chi symud cartref. Isafswm oedran yw 55 oed fodd bynnag os cewch eich asesu bod angen gwasanaethau gofal arnoch (er enghraifft cymorth gyda golchi neu wisgo) bydd yn rhaid i chi fod yn 45 oed neu’n hŷn. Ar hyn o bryd mae un lleoliad sy’n darparu Tai Gofal Ychwanegol yng Ngheredigion sef Maes Mwldan yn Aberteifi. Mae mwy o wybodaeth ar y wefan Tai Teulu.
I archwilio'r holl Opsiynau Tai yng Ngheredigion cliciwch ar y ddolen isod: