Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cysylltwyr Cymunedol

Beth mae Cysylltwyr Cymunedol yn ei wneud?

Mae Cysylltwyr Cymunedol yno i ddarparu cymorth cynnar i unrhyw un sy’n byw yng Ngheredigion. Gallai hyn ddod ar ffurf gwybodaeth, cyngor a chymorth i’ch cysylltu â’r cymorth sydd ar gael yn eich cymuned. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac mae Cysylltwyr Cymunedol yn cwmpasu’r sir gyfan.

Sut gall y Cysylltwyr Cymunedol eich helpu chi?

  • Eich cysylltu a’ch cyfeirio at wasanaethau a sefydliadau a all eich cefnogi
  • Darparu gwybodaeth a’ch rhoi mewn cysylltiad â grwpiau lleol
  • Eich cysylltu â chefnogaeth i wella eich iechyd a’ch lles
  • Cynorthwyo gyda cheisiadau Bathodyn Glas a Thocynnau Bws (Cardiau Teithio Consesiynol)

Sut i gysylltu â Chysylltydd Cymunedol

Map o ardaloedd i ddod yn fuan!

  • Sarah Kendall, Gogledd (Borth, Eglwys Fach, Llanfarian, Pontrhydygroes)
  • Sam Henly, Gogledd Orllewin (Aberystwyth, Waunfawr, Llanbadarn Fawr, Penparcau)
  • Diane Williams, Canolbarth y Gogledd (Tregaron, Llanon, Llanddewi Brefi, Llanrhystud)
  • Enfys James, De Orllewin (Cei Newydd, Mydroilyn, Aberarth, Caerwedros)
  • Sian Salcombe, De Dwyrain (Llangybi, Adpar, Felinfach,Llandysul)
  • Carys Owens, De (Plwmp, Cardigan, Aberporth, Cwmcou)

Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys y trefi a'r pentrefi a enwir, yn ogystal â’r ardaloedd rhyngddynt.

Cysylltwch â Clic Ceredigion ar 01545 574200, clic@ceredigion.gov.uk heu defnyddiwch y Ffurflen Ymholiad Cyffredinol i siarad â Chysylltydd Cymunedol yn eich ardal chi.

Bathodyn Glas

Bathodyn Glas

Bathodyn Glas
Ceredigion Oed-Gyfeillgar

Ceredigion Oed-Gyfeillgar

Ceredigion Oed-Gyfeillgar
Cymorth i Ofalwyr

Cymorth i Ofalwyr

Cymorth i Ofalwyr
Dewis Cymru

Dewis Cymru

Dewis Cymru
Treth y Cyngor

Treth y Cyngor

Treth y Cyngor

Sylwer: Gall Cysylltwyr Cymunedol gyfeirio at gymorth ariannol ond nid ydynt yn cwblhau ffurflenni ariannol.