Atal Cwmpiadau
Wrth i ni fynd yn hŷn, mae risg o gael anaf difrifol yn cynyddu ond gall yr ofn o gwympo hefyd gyfyngu’r ffordd mae pobl yn byw eu bywydau.
Isod cewch wybodaeth am sut i leihau’r risg:
- gwisgwch esgidiau/sliperi sy’n ffitio’n dda ac sydd â gwadn da
- sicrhewch fod eich grisiau wedi eu goleuo’n dda a bod yna reiliau neu ganllaw grisiau
- symudwch rygiau neu defnyddiwch rygiau sydd â chefn di-slip yn unig
- trefnwch gelfi fel nad ydynt yn eich ffordd pan fyddwch yn cerdded
- ceisiwch gadw mannau lle rydych yn cerdded, yn enwedig grisiau, yn glir ac yn daclus
- defnyddiwch fat di-slip yn y bath neu’r gawod
- ystyriwch osod canllawiau ychwanegol ar y grisiau ac yn yr ystafell ymolchi
- cadwch bethau rydych yn eu defnyddio’n rheolaidd mewn mannau sy’n hawdd eu cyrraedd ac os oes rhaid i chi gyrraedd rhywbeth ar lefel uwch, defnyddiwch ysgol risiau gadarn
- cadwch olau wrth ymyl eich gwely er mwyn i chi fedru ei droi ymlaen os oes rhaid i chi godi yn ystod y nos
os oes gennych gymhorthion cerdded, sicrhewch fod y rwber (sydd ar waelod y cymhorthydd) mewn cyflwr da- gallwch gael rwber newydd heb orfod prynu cymhorthydd cerdded newydd - ystyriwch gael crogdlws sydd â larwm fel eich bod yn gallu galw am rywun os ydych yn cwympo. Os oes gennych un eisoes, sicrhewch eich bod yn ei wisgo ar bob adeg
Iechyd
- gwnewch yn siŵr eich bod yn cael prawf llygaid yn rheolaidd
- gwiriwch eich pwysedd gwaed gyda’ch Meddyg Teulu yn enwedig os ydych yn cwympo wrth i chi godi o’r gwely neu o gadair
- os ydych yn cael problemau gyda’ch symudedd, siaradwch â’ch Meddyg Teulu
- bwytewch yn iachus a gwnewch ymarfer corff yn rheolaidd. Mae gweithgareddau sy’n gwella cryfder ynghyd ag ymarferion cydbwysedd yn gallu eich helpu i oresgyn anystwythder os ydych yn dioddef o boen yn y cymalau
- profwch eich clyw – gall hylif yn eich clust achosi rhai problemau cydbwysedd
CONNECT Ceredigion
Rhaglen CONNECT gan Llesiant Delta yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac ar hyn o bryd ond yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro y mae ar gael. Mae'r Gwasanaeth ‘Connect’ yn darparu gwasanaeth teleofal a llinell bywyd. Nod y gwasanaeth yw darparu gwasanaeth cymorth cofleidiol i helpu unigolion i fyw'n annibynnol am fwy o amser a helpu i adnabod unrhyw faterion iechyd a lles posibl yn gynnar. Mae Llesiant Delta Wellbeing yn cynnig llinell bywyd sylfaen a gwasanaeth theleofal hefyd. Mae mwy o wybodaeth a sut i gysylltu ar y wefan Delta Connect.
Gwybodaeth Pellach
Mae gan y dolenni canlynol ragor o wybodaeth am atal cwympiadau, ac er bod rhai o’r gwefannau’n cael eu hanelu at bobl hŷn, gall y wybodaeth sy’n cael ei darparu fod yn berthnasol i bawb:
- Gall Gofal a Thrwsio - www.careandrepair.org.uk - ddarparu gwiriad diogelwch yn y cartref ar gyfer pobl dros 65 oed
- Mae gan Independent Age - www.independentage.org - wybodaeth ddefnyddiol ynghylch atal cwympiadau
- Dewisiadau GIG (NHS Choices) - www.nhs.uk
- Age UK - www.ageuk.org.uk
- Mae ROSPA - www.rospa.com - yn elusen sy’n ceisio atal damweiniau a cheir yma fideo a gwybodaeth am gwympiadau
Larymau Personol / Lifelines
Os ydych yn cwympo neu mewn risg o gwympo efallai buasech yn dymuno cael croglws gyda larwm. Bydd hyn yn rhoi ychydig o dawelwch meddwl i chi oherwydd os ydych yn cwympo ac yn methu codi, gallwch alw am gymorth.
Mae’r larwm yn fach a gallwch ei wisgo o gwmpas eich gwddf neu arddwrn.
Mae yna dâl am y gwasanaeth a gellir prynu/llogi larymau wrth y cwmnïau canlynol:
- Careline – 01558 824283
- Age Cymru Ceredigion – 0800 023 4783