Skip to main content

Ceredigion County Council website

Pan fydd rhieni’n gwahanu, gall fod anawsterau wrth drefnu cyswllt / ymweliadau gyda’r rhiant nad yw’n byw yn y cartref bellach.

Y ffordd hawsaf yw i’r ddau riant ddod i drefniant mewn modd cyfeillgar.

Mae’r canllaw canlynol sef “Survival Guide for Sorting Out Arrangements for your Children” yn ganllaw defnyddiol i rieni ar bob cam o reoli cyswllt ac mae’n cynnwys adran am Ddelio â Phroblemau Cyffredin.

Gallai hwn eich helpu i adolygu’r trefniadau cyswllt presennol er mwyn canfod ffyrdd o ddatrys problemau heb orfod talu costau cyfreithiol.

Os nad ydy hyn yn bosib neu os nad ydych yn medru cytuno, dylech gysylltu â chyfreithiwr a allai ddod i drefniant ar eich rhan. Os na fydd hyn yn gweithio, gall eich cyfreithiwr eich cynghori i wneud cais am Orchymyn Cyswllt ffurfiol trwy’r Llysoedd.

Hefyd, gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Llysoedd heb ddefnyddio cyfreithiwr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar www.gov.uk.

Beth os oes gennyf bryderon ynghylch ymweliadau cyswllt fy mhlentyn?

Mae diogelwch eich plentyn yn hollbwysig felly os oes gennych bryderon ynghylch diogelwch neu les eich plentyn yn ystod ymweliad cyswllt yna mae’n rhaid i chi ddefnyddio eich barn eich hun i benderfynu os ydych yn eu hanfon i’r ymweliad neu beidio.

Os oes gorchymyn llys ffurfiol yn ei le yna bydd yn rhaid i chi gael cyngor cyfreithiol a allai gynnwys gofyn i’r Gorchymyn Llys gael ei adolygu.

Beth os oes yna orchymyn llys ac mae fy mhlentyn yn gwrthod mynd ar yr ymweliad?

Mae ymchwil yn dangos bod tua deg y cant o’r achosion lle caiff cyswllt ei dorri’n digwydd oherwydd bod y plentyn yn gwrthod unrhyw gyswllt pellach. (Trinder et al Prifysgol Exeter / Sefydliad Nuffield Gorffennaf 2013).

Yn yr achos hwn efallai buasai’n ddefnyddiol i’r rhieni ystyried pam nad yw’r plentyn eisiau mynd ac efallai archwilio eich perthynas â nhw gan gynnwys gofyn am gyngor a chefnogaeth am fagu plant.

Gwasanaethau Cymdeithasol

Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol eich cynorthwyo gydag ymweliadau cyswllt os ydy’ch plentyn dan ofal yr Awdurdod Lleol ar hyn o bryd yn unig. Os felly, bydd angen i chi drefnu eich ymweliadau trwy weithiwr cymdeithasol eich plentyn.

Yn yr holl achosion eraill, os oes gennych bryderon difrifol am ddiogelwch eich plentyn, ewch i edrych ar ein hadran am Ddiogelu Plant.