Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cynnig Gofal Plant i Gymru

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr yr wythnos o Ddarpariaeth Dysgu Sylfaen (addysg gynnar) a gofal plant wedi ei ariannu ar gyfer rhieni cymwys sydd mewn gwaith ag sydd â phlant 3 & 4 oed, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn.

Mae'r 30 awr yn cynnwys:

  • o leiaf 10 awr o addysg gynnar yr wythnos
  • hyd at 20 awr yr wythnos o ofal plant

Rhannir yr oriau yn ddibynnol ar y lleoliad rydych  yn derbyn y ddarparaieth Dysgu Sylfaen.

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn ariannu Gofal Plant yn unig. Ni allwch wneud cais am oriau Dysgu Sylfaen  trwy'r cais hwn.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o leoliadau ar gael ar ein tudalen Gofal Plant.

Nid yw'n ofynnol i rieni fanteisio ar yr addysg gynnar sydd ar gael iddynt er mwyn defnyddio'r Cynnig Gofal Plant.  Fodd bynnag, bydd nifer yr oriau a fydd ar gael iddynt yn cynnwys yr oriau hyn, p'un a ydynt yn manteisio arnynt ai peidio.

Cewch ragor o fanylion ynghylch sut i wneud cais am le addysg gynnar yng Ngheredigion ar ein tudalen Addysg Feithrin ar gyfer plant 3-4 oed (Cyfnod Sylfaen).

Mwy o wybodaeth am y Cynnig Gofal Plant.

Mae’r Cynnig Gofal Plant yn agored i unrhyw deulu sy’n byw yng Nghymru, ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwyster canlynol:

  • Mae eich plentyn yn 3-4 oed
  • Rhaid i rieni /cyplau sy'n cyd-fyw fod yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant mewn teulu dau riant, neu'r unig riant mewn teulu rhiant unigol
  • Rhaid i chi ennill isafswm wythnosol sydd gyfwerth ag 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol
  • Neu fod yn derbyn budd-daliadau penodol, ar yr amod bod y rhiant arall yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd (gweler eithriadau isod)
  • Ennill llai nag uchafswm £100,000 y flwyddyn fesul rhiant

Os oes gennych chi bartner sy'n byw gyda chi, mae'n rhaid iddyn nhw hefyd fodloni'r meini prawf.

Mae rhai eithriadau cymhwysedd yn berthnasol.

Gwiriwch os ydych yn gymwys am Gynnig Gofal Plant Cymru

Ni allwn gadarnhau a ydych yn gymwys nes ein bod wedi derbyn a phrosesu eich cais gorffenedig.

Gallwch wneud cais am y Cynnig y term y mae eich plentyn yn troi'n dair am gyllid i ddechrau'r tymor canlynol. Bydd ceisiadau yn agor 75 diwrnod cyn diwrnod cyntaf y tymor.

Os byddwch yn dechrau defnyddio gofal plant cyn i’ch cais cael ei gymeradwyo , chi sydd yn gyfrifol am dalu amdano. Ni chaiff cyllid y Cynnig ei ôl-ddyddio i dalu am unrhyw ofal plant a ddefnyddiwyd cyn i’ch cais gael ei gymeradwyo.

Bydd yr arian yn cychwyn pan fydd eich cais wedi'i gymeradwyo ac rydych wedi sefydlu cytundeb gofal plant gyda'ch darparwr ac mae'r cytundeb hwn wedi ei dderbyn.

Mae gwybodaeth am sut i baratoi i wneud cais yma Cael 30 awr o ofal plant ar gyfer plant 3 a 4 oed | LLYW.CYMRU.

Gall plant cymwys dderbyn hyd at 30 awr o ofal plant yn ystod gwyliau'r ysgol.

Mae tair wythnos o wyliau ysgol yn cael eu rhoi i bob plentyn ar ddechrau pob tymor Ysgol ac mae'n rhaid eu defnyddio mewn blociau wythnosol. 

Ni ellir trosglwyddo oriau heb eu defnyddio o un wythnos i'r llall; fodd bynnag, gellir cario wythnosau sydd heb eu defnyddio i'r tymor nesaf cyhyd ag y bydd y plentyn yn parhau i fod yn gymwys.

Mae nifer yr wythnosau gwyliau a ddyfernir i chi yn y flwyddyn academaidd yna yn dibynnu ar nifer y tymhorau ysgol rydych chi'n derbyn y Cynnig Gofal Plant.

Mae 4 wythnos gwyliau ym mhob blwyddyn academaidd na fydd yn cael ei ariannu gan y Cynnig.

Os ydych chi'n dal i fod yn gymwys ar gyfer y cynnig yn y flwyddyn ysgol newydd, bydd dyraniad newydd  gwyliau yn dechrau.

Mae plentyn yn gymwys i gael cyllid yn ystod gwyliau'r ysgol tan fis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn 4 oed.

Rhaid i chi ofyn am arian yn ystod gwyliau'r ysgol wrth sefydlu cytundeb.

I wneud cais am y Cynnig Gofal Plant, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar-lein. 

Gwiriwch pa ddogfennau y bydd angen i chi wneud cais.

Gwneud Cais Am y Cynnig Gofal Plant

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod eich cais, cysylltwch â ni.

Dros y ffôn: 03000 628628
Drwy e-bost: gofalplant@ceredigion.gov.uk

Gwybodaeth i Ddarparwyr Gofal Plant a sut i gofrestru eich lleoliad