Cefnogaeth Teuluol
Mae ein Swyddog Rhianta a’n Gweithwyr Teuluoedd hyfedr yn gweithio ochr yn ochr â rhieni a gofalwyr i greu teuluoedd mwy cydnerth. Rydym yn gwneud hyn drwy gynorthwyo rhieni i wella eu lles eu hunain ac i ddysgu sgiliau newydd.
Rydym yn llunio ac yn strwythuro cynlluniau gweithredu gyda theuluoedd gan ddefnyddio dull Arwyddion Diogelwch sy’n helpu i nodi atebion posibl yn hytrach na chanolbwyntio ar broblemau. Mae hyn yn cynorthwyo aelodau'r teulu i nodi'r camau gweithredu a fydd yn eu galluogi i gyflawni eu nodau nhw a'u gweithredu.
Gall y gwasanaethau a ddarperir gennym ni helpu oedolion â threfn y dydd, darparu hyfforddiant iddyn nhw o ran technegau rhianta cadarnhaol, a’u helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol a chymunedol.
Mae ein Swyddog Rhianta a’n Gweithwyr Cefnogaeth i Deuluoedd yn cydweithio’n agos gyda’r Tîm o Amgylch y Teulu. Yn ogystal â’n grwpiau a’n cyrsiau, mae cymorth un i un ar gael i deuluoedd yn yr ardal.
Ein Cyrsiau Ni
- Paratoi i fod yn rhieni - rhaglen cyn geni a gyflwynir ochr yn ochr â bydwragedd.
- Croeso i’r byd - Grŵp wyth wythnos i rieni sy’n disgwyl babi yw’r rhaglen Croeso i’r Byd. Bydd rhieni’n mynd i’r sesiynau grŵp o oddeutu wythnos 26 o’u beichiogrwydd. Ymhlith y testunau a drafodir, mae empathi a sylw cariadus, datblygiad ymennydd babanod, dewisiadau bwyta iach, bwydo ar y fron, gofalu am fabanod, rheoli straen a theimladau anodd, hybu hunan-barch a hunanhyder, a pherthynas y pâr.
- Tylino Babanod - Mae tylino babanod yn cynorthwyo rhieni i greu cwlwm agosrwydd â’u babi, yn cysuro’r babi, ac yn helpu’r babi i gysgu’n well, ymhlith llawer o fuddion eraill. Cwrs i rieni babanod rhwng wyth wythnos a saith mis oed.
- Y Blynyddoedd Rhyfeddol - Babanod a Phlant Bach - Rhaglen wyth wythnos yw hon. Mae’n gyfle i rieni rannu eu profiadau a’u syniadau ag eraill, gan ddysgu mwy ar yr un pryd, a’r cyfan mewn amgylchedd cefnogol.
- GroBrain - Babanod a Phlant Bach - Mae cyrsiau GroBrain yn para pedair wythnos. Yn ystod y cyrsiau hyn, rydym yn trin a thrafod pwysigrwydd creu cwlwm agosrwydd, datblygiad yr ymennydd, ymlyniad, a chyfathrebu.
- Y Rhaglen Feithrin (Y Ganolfan Iechyd Emosiynol) - Rhaglen sy’n para deg wythnos yw hon. Ei nod yw gwella iechyd emosiynol rhieni a phlant. Mae’n cynorthwyo oedolion i ddeall ac i reoli eu teimladau a’u hymddygiad, ac i fod yn fwy cadarnhaol ac anogol yn eu perthynas â’u plant a’i gilydd.
- Rhaglen Meithrin Rhieni i rieni plant ag anabledd neu anghenion dysgu ychwanegol - Mae’r Rhaglen Meithrin Rhieni i rieni plant ag anabledd wedi’i theilwra ar gyfer rhieni plant rhwng tair ac un ar ddeg oed. Mae’r rhaglen sy’n para deg wythnos yn rhannu syniadau a strategaethau i helpu i gynorthwyo plant pan fydd eu hemosiynau yn eu llethu, yn egluro pam fod plant yn ymddwyn fel y maen nhw, ac yn darparu cymorth gan rieni sydd mewn sefyllfaoedd tebyg ac sydd wedi cael profiadau tebyg.
- Rhaglen Awtistiaeth - Mae’r Rhaglen Awtistiaeth yn para deg wythnos ac yn cael ei darparu’n rhithiol drwy sesiynau dwy awr. Lluniwyd y rhaglen hon i gefnogi rhieni/gofalwyr plant sydd ar restr aros y Tîm Niwroddatblygiadol, sy’n aros am asesiad Awtistiaeth neu sydd eisoes wedi cael diagnosis Awtistiaeth.
- Rhaglen ADHD - Gweithdy i rieni sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cael ei gynnal ochr yn ochr â Judith Thomas, Nyrs Arbenigol ADHD Pediatrig, a’r Tîm Rhianta a Chefnogaeth i Deuluoedd, yw hwn. Mae’n datblygu dealltwriaeth o’r Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), yr hyn y bydd diagnosis ADHD yn ei olygu i rieni a phlant, a strategaethau i fynd i’r afael â rhai o’r ymddygiadau cyffredin. I fodloni meini prawf y grŵp, rhaid bod gan rai sy’n dilyn y rhaglen hon blentyn sydd wedi cael diagnosis ADHD yn ddiweddar neu blentyn sy’n aros i gael diagnosis ADHD.
- Rhaglen SPACE - Ymyrraeth mewn grŵp, yn seiliedig ar dystiolaeth yw’r rhaglen ‘SPACE’, sydd wedi profi i fod yn effeithiol wrth gefnogi rhieni/gofalwyr, plant a phobl ifanc i ymdopi â heriau wrth gael eu magu mewn byd sy’n newid yn barhaus ac sy’n llawn straen. Mae'n cefnogi rhieni i ddeall yr heriau o fagu plant yn well trwy ddull sy'n seiliedig ar gryfderau cadarnhaol. Gan ddefnyddio egwyddorion sy'n ystyriol o drawma, mae'r rhaglen yn helpu rhieni i ddeall pam mae plant yn ymddwyn fel y maent yn ei wneud er mwyn lleihau risgiau; cryfhau gallu rhianta; datblygu ac adeiladu gwytnwch a chynnal newid cadarnhaol.
- Grwpiau Talking Teens - Yn seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf i’r glasoed, ac yn gydnaws ag egwyddorion y Rhaglen Meithrin Rhieni, mae’r grwpiau’n rhoi darlun cadarnhaol o ddatblygiad pobl ifanc yn eu harddegau, ac yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng aelodau’r teulu, cyfathrebu, negodi, penderfynu, a strategaethau i leihau gwrthdaro.
- Diogelwch ar-lein a chwarae gêmau ar-lein - Sesiwn ar-lein sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn meithrin dealltwriaeth o’r risgiau sydd ynghlwm wrth chwarae gêmau ar-lein a defnyddio’r rhyngrwyd yw’r weminar hon. Rydym yn tynnu sylw at gyfyngiadau oedran a dulliau cyfathrebu. Mae hwn yn weithdy i rieni/gofalwyr plant a phobl ifanc, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol.
- Cadw-ch plentyn mewn cof - Rhaglen pedair sesiwn yw hon, sy'n defnyddio gwybodaeth ac ymchwil am effaith gwrthdaro rhwng rhieni ar deuluoedd ac yn darparu strategaethau ar gyfer cynnal a lleihau gwrthdaro rhwng rhieni o fewn teuluoedd.
Rydym yn sicrhau bod yr wybodaeth gywir ddiweddaraf ar gael bob amser i sicrhau bod modd i deuluoedd wneud dewisiadau gwybodus a’u bod yn gwybod am yr holl wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw.
Ewch i'n Hysbysfwrdd Rhianta a Chefnogaeth i Deuluoedd i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau a grwpiau yn eich ardal chi. Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar dudalen Facebook Teuluoedd Ceredigion neu wefan Dewis Cymru.