Skip to main content

Ceredigion County Council website

Asesiad o'r Angen - Plant

Sut dylid gofyn am asesiad

Ffoniwch Porth Gofal ar 01545 574000.

Ysgrifennwch at ni ar Porth Gofal, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn Crescent, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE

Pan fyddwn yn derbyn cais am gefnogaeth neu wybodaeth fod plentyn angen cymorth bydd angen i ni wedyn gwblhau asesiad.

Oni bai eich bod dros 16 oed neu nad chi yw’r rhiant/gwarcheidwad sy’n cysylltu â ni am gymorth, bydd yn rhaid i ni dderbyn caniatâd bod y sawl dan sylw yn eich enwebu i siarad ar eu rhan (eirioli ar eu rhan) cyn eich bod yn ein ffonio oni bai fod pryderon sylweddol y gall y plentyn fod mewn risg neu eisoes wedi dioddef niwed sylweddol.

Bydd yr asesiad yn edrych ar amgylchiadau neu anghenion eich plentyn, gan hefyd edrych ar eich cryfderau fel teulu/rhiant (er enghraifft, beth sy’n gweithio’n dda), a pha gefnogaeth sydd eisoes ar gael i chi, pa ganlyniadau yr hoffech eu gweld a pha rwystrau a / neu bryderon sydd gennyf i gyflawni’r canlyniadau hynny yn ogystal â pha gymorth y credwch y byddai o fantais i chi. Fel arfer gwneir yr asesiad yn eich cartref a bydd yn cynnwys gweithiwr cymdeithasol yn siarad â chi fel teulu a’ch plentyn ar ei ben ei hun.

Ein nod yw gweithio gyda chi er mwyn sicrhau ein bod yn medru cyflawni anghenion eich plentyn yn briodol. Weithiau y bydd hyn yn cynnwys eich cyfeirio at asiantaethau / sefydliadau eraill o fewn y gymuned fydd o bosib mewn gwell sefyllfa i gyflawni anghenion eich plentyn. Oni bai fod gan eich plentyn a’ch teulu lefel uchel o anghenion cefnogaeth bydd y cymorth a ddarperir i chi am gyfnod byr yn unig.

Mae hefyd ystod eang o sefydliadau statudol a gwirfoddol yng Ngheredigion sy’n darparu cefnogaeth i blant. Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd hefyd yn darparu ystod eang o wybodaeth ar y gweithgareddau a’r adnoddau sydd ar gael i deuluoedd yn lleol ac yn genedlaethol.

Gwybodaeth Ddefnyddiol Arall