Eglwys, Capel neu Adeilad Crefyddol
Yr Eglwys yng Nghymru
Os ydych yn penderfynu priodi mewn eglwys sy’n perthyn i’r Eglwys yng Nghymru, yna dylech gysylltu â ficer yr eglwys honno a fydd yn medru rhoi cyngor i chi ar y broses.
Yn gyffredinol, nid oes angen presenoldeb Cofrestrydd mewn priodasau sy’n cael eu cynnal mewn adeilad sy’n perthyn i’r Eglwys yng Nghymru.
- Cyn y gwasanaeth priodasol, bydd y ficer fel arfer yn trefnu bod gostegion priodasol yn cael eu darllen neu fod trwydded gyffredinol yn cael ei gyhoeddi. Bydd hyn yn dechrau’r broses i ganiatáu i’r briodas i fynd yn ei blaen.
Er hyn, mewn rhai sefyllfaoedd efallai bydd hysbysiad o briodas angen ei gyflwyno i’r swyddfa gofrestru yn lle, er enghraifft, os nad ydych chi neu eich partner yn wladolion perthnasol (h.y. rhywun nad yw’n Brydeinig, Gwyddelig a heb statws preswylwyr sefydlog neu cyn-sefydlog i ddinasyddion yr UE).
Capeli ac Adeiladau Crefyddol eraill
Os ydych yn priodi mewn capel neu adeilad crefyddol sydd â thrwydded priodas, gan hepgor yr Eglwys yng Nghymru, bydd angen i chi drefnu presenoldeb gweinidog ayyb er mwyn arwain y seremoni briodasol (mae hyn fel arfer yn cael ei wneud trwy’r capel neu’r adeilad crefyddol yr ydych wedi’i ddewis).
Yn ychwanegol, bydd angen Cofrestrydd yn bresennol er mwyn cofrestru priodas a gynhelir mewn capeli, adeiladau rhestredig ac eglwysi penodol yn gyfreithlon. Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch â ni am gyngor.
Er mwyn galluogi’r briodas i fynd yn ei blaen, bydd angen i chi a’ch partner i ymgymryd ag elfennau rhagarweiniol cyfreithiol trwy gyflwyno hysbysiad o briodas i’r swyddfa gofrestru.
Am arweiniad ar sut i drefnu eich gwasanaeth priodas ac i drefnu presenoldeb Cofrestrydd, ystyriwch y wybodaeth sy’n cael ei gynnwys yn ein cynllun cam wrth gam.