Ffioedd a Thaliadau Mynwentydd
Bydd y ffioedd a'r taliadau'n gymwys os yw'r sawl sydd i'w gladdu, neu'r sawl y rhoddir iddo'r hawl, neu os oedd yn union cyn ei farw, yn preswylio yn Sir Geredigion, neu yn achos plentyn marw-anedig, os yw neu os oedd un o'r rhieni'n preswylio yn y Sir hon adeg y claddu.
Fel arall caiff y ffioedd a'r taliadau eu cynyddu gan 50% (nid yw hyn yn berthnasol i daliadau cloddio bedd).
Gwasanaeth | Manylion | Taliadau |
---|---|---|
Claddedigaeth mewn bedd cromennog | £1,390.00* | |
Claddedigaeth heblaw bedd sengl neu ddwbl | Pris ar gais | |
Hawl neilltuol i gladdedigaeth | £1,390.00* | |
Hawl neilltuol i gladdedigaeth | Claddu llwch yng Nghefn Llan | £695.00* |
Cloddio beddi | Claddedigaeth gyntaf | £1,180.00* |
Claddedigaeth ddilynol | £1,180.00* | |
Gweddillion a amlosgwyd | £500.00* | |
Cost ychwanegol ar gyfer angladdau a gynhelir y tu allan i oriau gwaith arferol | £545.00 | |
Yr hawl i godi cofebion a cherrig coffa | Carreg Goffa neu Groes heb fod yn fwy na 1.200m mewn uchder ar feddau a heb fod yn fwy na 0.600m mewn uchder ar blotiau lle ceir gweddillion sydd wedi’u hamlosgi. Nodir: Adran D (Llwch), Mynwent Cefn Llan. Ni fydd maint y garreg yn fwy na sylfaen o 600 x 600mm gyda charreg arysgrif 460mm x 460mm wedi ei gosod arni. | £320.00* |
Arysgrif ychwanegol fesul carreg goffa (ffi weinyddol) | £80.00 | |
|
||
Cyflenwi copi dyblyg o weithred | £37.50 | |
Trosglwyddo gweithred sydd eisoes yn bod | £37.50 | |
Ymestyn hawl claddu neilltuedig ar ôl i'r weithred wreiddiol ddod i ben (30 mlynedd ychwanegol) | £37.50 | |
O 23/11/2017, yn unol â'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidogion Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru, a Chofnod Cabinet C121 o 06/03/2018, ni fydd y Cyngor yn codi ffioedd safonol mwyach (*) ar gyfer Claddedigaethau Plant ac Amlosgi ar gyfer rhywun dan 18 oed (yn cynnwys gweddillion marw-anedig a ffetws). |