Safleoedd Ymgeisiol
Yn dilyn cyhoeddi'r Cytundeb Cyflawni, galw am safleoedd ymgeisiol (CS) yw'r cam ffurfiol cyntaf o baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Mae hyn yn galluogi pob parti i gyflwyno safleoedd posibl i'w cynnwys yn y cynllun i'r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl). Mater i'r ACLl wedyn fydd asesu pob safle a phenderfynu os ydynt yn addas i'w cynnwys yn y cynllun ai peidio.