Skip to main content

Ceredigion County Council website

O dan y Rheoliadau Cynefinoedd, mae'n ofynnol i'r Cyngor asesu a fydd y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig yn debygol o gael effaith sylweddol ar gyfanrwydd unrhyw Safle Ewropeaidd boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, ar ben ei hun, neu drwy gyfuniad o gynlluniau a phrosiectau eraill. Yr enw ar hyn yw Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

Rhaid cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd y Cynllun Datblygu Lleol ochr yn ochr, ond ar wahân i'r Asesiad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol, a bydd canfyddiadau bob proses yn llywio bob asesiad. Dylid cynnal yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd drwy gydol y broses o baratoi'r CDLl.