Adroddiad Adolygu
Mae Cynlluniau Datblygu Lleol cyfoes yn rhan hanfodol o system gynllunio seiliedig ar gynllun ac er mwyn asesu'n rheolaidd ac yn gynhwysfawr a yw'r cynllun yn parhau'n gyfoes mae'n rhaid i'r Cyngor gynnal adolygiad llawn o'r CDLl mabwysiedig ar gyfnodau heb fod yn hwy na 4 mlynedd o'r dyddiad mabwysiadu. O ganlyniad, cafodd adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol mabwysiedig Ceredigion ei gychwyn ar 31ain Hydref 2016 ar ôl y trydydd Adroddiad Monitro Blynyddol (AMR).
Roedd yr Adroddiad Adolygu yn ystyried ac yn nodi'r meysydd hynny o'r CDLl sy'n perfformio'n dda ac yn cyflawni, a'r meysydd hynny lle bydd angen gwneud newidiadau. Roedd hefyd yn nodi'r gofynion ar gyfer CDLl Diwygiedig ac yn argymell y dylid adolygu'r Cynllun.
Ystyriwyd cynnwys yr Adroddiad Adolygu a Chytundeb Cyflwyno'r Cynllun Amnewid fel a ganlyn:
- 1af Medi 2017 Gweithdy Pob Aelod
- 20fed Medi 2017 - Pwyllgor Trosolwg a Craffu Cymunedau Ffyniannus
- 17eg Hydref 2017 - Cabinet
- 26ain Hydref 2017 – Cyngor
Cyn cael ei ymgynghori ar rhwng 2ail Tachwedd, 2017 a 13eg Rhagfyr, 2017.
Cyflwynwyd yr ymatebion i’r ymgynghoriad i’r Cabinet (23ain Ionawr 2018) a’r Cyngor (24ain Ionawr 2018) i’w hystyried a’u cymeradwyo i’w cyflwyno i Weinidogion Cymru (1af Mawrth 2018).