Skip to main content

Ceredigion County Council website

Brig y Tudalen 

Beth yw Budd-dâl Tai?

Budd-dâl gan y llywodraeth yw Budd-dâl Tai sydd â'r nod o'ch helpu i dalu'ch rhent. Cyngor Sir Ceredigion sy'n gweinyddu'r cynllun i bobl sy'n byw yn ei ardal. Mae faint o fudd-dâl a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a faint o rent y mae'n rhaid i chi ei dalu.

Brig y Tudalen

Beth yw'r Lwfans Tai Lleol?

Lwfans tai safonol yw'r Lwfans Tai Lleol sy'n seiliedig ar lefelau rhenti mewn ardal benodol ac ar faint aelwyd y tenant, ac nid ar yr union rent y mae'r landlord yn ei godi am yr eiddo. Mae hynny'n golygu y bydd tenantiaid sy'n byw ar aelwydydd sy'n cwrdd â'r un meini prawf ac sy'n byw yn yr un ardal yn cael y Lwfans yn ôl yr un gyfradd – Gweld y cyfraddau presennol

Brig y Tudalen

Beth yw Gostyngiad Treth y Cyngor?

Budd-dâl gan y llywodraeth Cymraeg yw Gostyngiad Treth y Cyngor sydd â'r nod o'ch helpu i dalu'ch Treth Gyngor. Cyngor Sir Ceredigion sy'n gweinyddu'r cynllun i bobl sy'n atebol i dalu'r Dreth Gyngor ac sy'n byw yn ei ardal. Mae faint o fudd-dâl a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau a faint o Dreth Gyngor y mae'n rhaid i chi ei dalu.

Brig y Tudalen

A allwch ostwng fy Nhreth Gyngor mewn unrhyw fodd arall?

Gallwn. Yn ogystal â Gostyngiad Treth y Cyngor, gallwn leihau eich Treth Gyngor ar ffurf gostyngiadau, eithriadau a gostyngiadau i bobl sydd ag anableddau.

I gael mwy o wybodaeth, gweler y wefan Treth Gyngor.

Brig y Tudalen

A allaf hawlio Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol?

Gallwch wneud cais am yr uchod os byddwch ar incwm isel, yn ddiwaith, yn methu â gweithio oherwydd salwch, wedi ymddeol neu yn gofalu am rywun ac yr ydych yn cwrdd â phob un o'r amodau canlynol:

Brig y Tudalen

A allaf hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor?

Gallwch wneud cais am yr uchod os byddwch ar incwm isel, yn ddiwaith, yn methu â gweithio oherwydd salwch, wedi ymddeol neu yn gofalu am rywun ac yr ydych yn cwrdd â phob un o'r amodau canlynol:

Brig y Tudalen

Pwy na fydd, neu efallai na fydd yn medru, hawlio'r budd-daliadau/gostyngiadau hyn?

Ni fydd hawl gennych gael Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Nid ydych chi na'ch cymar (lle bo'n briodol) yn gyfrifol am dalu'r rhent a/neu'r Dreth Gyngor.
  • Mae gennych chi neu'ch cymar (lle bo'n briodol) gynilion a/neu fuddsoddiadau o dros £16,000.
  • Rydych yn talu rhent i berthynas agos sy'n byw yn yr un eiddo (yn achos Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Rydych yn rhentu eiddo yr oeddech chi (neu'ch cymar) yn berchen arno gynt (yn achos Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Rydych yn byw mewn cartref gofal, megis cartref nyrsio neu gartref i'r henoed (yn achos Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Rydych yn rhiant neu'n warcheidwad i blentyn eich landlord (yn achos Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Mae'n un o amodau'ch gwaith gan y landlord eich bod yn byw yn y cartref (yn achos Budd-dâl Tai a Lwfans Tai Lleol yn unig)
  • Rydych yn geisydd lloches, oni bai y rhoddwyd statws ffoadur neu ganiatâd amhenodol neu eithriadol (a elwir hefyd yn ganiatâd tyngarol neu ddewisol) i chi aros yn y Deyrnas Unedig. 
  • Fe'ch derbyniwyd i'r Deyrnas Unedig ar yr amod na fydd hawl gennych gael arian o gronfeydd cyhoeddus. Mae hynny'n golygu na chewch hawlio budd-daliadau yn y Deyrnas Unedig. 
  • Rydych yn fewnfudwr o dan nawdd ac rydych yn byw yma ers llai na phum mlynedd. 
  • Rydych yn y Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon neu y mae'ch caniatâd i aros wedi dirwyn i ben. 

Efallai na fydd hawl gennych gael Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Roeddech yn arfer byw gyda'ch landlord fel aelod o'r teulu, perthynas neu ffrind ac rydych yn talu rhent i'r person hwnnw bellach. 
  • Rydych yn byw mewn eiddo y mae urdd grefyddol yn ei gynnal ac rydych yn aelod o'r urdd grefyddol honno. 
  • Rydych yn rhentu oddi wrth ymddiriedolaeth ac rydych hefyd yn ymddiriedolwr neu'n fuddiolwr. 
  • Rydych yn rhentu'r eiddo oddi wrth gwmni ac rydych yn gyfarwyddwr neu'n gyflogai yn y cwmni. 
  • Roeddech yn arfer bod yn berchen ar yr eiddo yr ydych bellach yn ei rentu. 
  • Os ydych yn fyfyriwr - gweler 'Myfyrwyr' i gael mwy o wybodaeth am bwy a all wneud cais.
  • Rydych yn byw dros dro oddi cartref - gweler 'Absenoldeb Dros Dro' i gael mwy o wybodaeth

Dalier sylw mai canllawiau yn unig yw'r uchod. Mae'r rheoliadau am gymhwysedd a 'Phobl o Dramor' yn gymhleth iawn a gallwch gysylltu â ni ar 01970 633252 neu ein hebostio ar revenues@ceredigion.gov.uk i wirio a gyddech yn gymwys i hawlio budd-dâl. Fel arall, gallwch ddadlwytho a chwblhau Ffurflen Gais fel y gall yr Awdurdod Lleol benderfynu yn swyddogol a oes hawl gennych i fudd-dâl.

Brig y Tudalen

A allaf gael budd-dâl cyn i mi symud i gartref newydd?

Os oes yn rhaid i chi dalu rhent am gyfnod rhwng y dyddiad pan ddechreuodd eich tenantiaeth a'r union ddyddiad y symudoch i'r cartref newydd, efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-dâl ar gyfer y cyfnod hwnnw. Serch hynny, rhaid i un o'r rhesymau canlynol fod yn gyfrifol am yr oedi cyn symud i mewn :

  1. 1. Ni allwch symud i mewn i'r cartref newydd tan y gwneir newidiadau i gwrdd ag anghenion rhywun yn eich teulu sy'n anabl
  2. 2. Rydych yn disgwyl taliad o'r gronfa gymdeithasol oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau ac mae plentyn 5 oed neu lai gennych, neu yr ydych yn benisynwr neu yn cael incwm anabledd
  3. 3. Roeddech mewn ysbyty, cartref gofal neu ofal preswyl pan ddechreuoch rentu'r eiddo

Os byddwch yn cwrdd ag amod 2 neu 3, dim ond os nad ydych yn cael budd-dâl gogyfer â dim un llety arall y byddwch yn gymwys i gael budd-dâl cyn i chi feddiannu'r cartref newydd.

Daliwch sylw hefyd mai dim ond ar ôl i chi symud i mewn i'r cartref newydd y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i unrhyw fudd-dâl a delir cyn meddiannu'r cartref.

Brig y Tudalen

Sut y gallaf hawlio'r budd-daliadau/gostyngiadau hyn?

Os buoch yn hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, gallwch hefyd wneud cais am Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor ar yr un pryd a bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon hyn atom.

Os nad ydych yn hawlio un o fudd-daliadau uchod yr Adran Gwaith a Phensiynau neu os nad oes hawl gennych iddynt, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais yr Awdurdod Lleol a rhoi tystiolaeth ddogfennol fel y nodir yn yr adran Pa wybodaeth y mae ei hangen arnoch i gyfrifo fy mudd-dâl/ngostyngiad? .

Gallwch llenwi a ddatgan ffurflen gais ar lein, lawrlwytho Ffurflen Cais Budd-Talidau o'r dudalen Ffurflenni y Gallwch Lawrlwytho. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Awdurdod Lleol trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk, neu ffonio 01970 633252 neu drwy ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt a bydd ffurflen yn cael ei hanfon atoch. Gallwch hefyd ymweld ag un o'n Swyddfeydd Ardal Lleol i gasglu ffurflen.

Gallwch ddychwelyd y ffurflen wedi ei chwblhau trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk neu ei phostio at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt neu ewch â hi i'ch Swyddfa Ardal Leol.

Mae'n bwysig eich bod yn cwblhau ac yn dychwelyd y ffurflen gais atom cyn gynted ag y bo modd. Os na fydd yr holl dystiolaeth ddogfennol y gofynasom amdani gennych ar unwaith, dylech ei dychwelyd atom o hyd, gan nodi naill ai ar y ffurflen neu ar ddarn o bapur ar wahân pryd y darperir gweddill y wybodaeth. Os byddwch yn oedi cyn anfon y ffurflen atom, gallech golli budd-dâl/gostyngiad.

Mae'n dra phwysig eich bod yn cwblhau pob adran o'r ffurflen ac yn ticio pob un o'r blychau ateb. Os na fydd y ffurflen wedi'i chwblhau yn gywir, bydd yn rhaid i ni ei dychwelyd atoch a bydd oedi cyn talu'ch cais.

Brig y Tudalen

A allaf hawlio'r budd-daliadau/gostyngiadau hyn os byddaf yn gweithio?

Gallwch hawlio'r budd-daliadau/gostyngiadau hyn os byddwch yn gweithio ac ar incwm isel.

Bydd angen i chi ddangos dogfennau a fydd yn cadarnhau eich enillion - gweler 'Rhestr Wirio Tystiolaeth Gefnogol' i gael rhestr lawn o'r dogfennau y gellir eu darparu i gefnogi eich cais.

Brig y Tudalen

A allaf hawlio'r budd-daliadau/gostyngiadau hyn os byddaf yn hunangyflogedig?

Gallwch hawlio'r budd-daliadau/gostyngiadau hyn os byddwch yn hunangyflogedig ac ar incwm isel.

Bydd angen i chi ddangos dogfennau a fydd yn cadarnhau eich incwm hunangyflogedig - gweler 'Rhestr Wirio Tystiolaeth Gefnogol' i gael rhestr lawn o'r dogfennau y gellir eu darparu i gefnogi eich cais.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os bydd yn rhaid i mi dalu am ofal plant?

Mae ceisiadau am Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor yn cynnwys cymorth i rieni sydd â chostau gofal plant.

Gellir tynnu costau gofal plant hyd at derfyn benodol oddi ar eich enillion, eich Credyd Treth Gwaith neu Blant pan fyddwn yn cyfrifo'ch hawl. Gallai hynny gynyddu cyfanswm y budd-dâl/gostyngiad y mae hawl gennych iddo.

Gallwch hawlio costau gofal plant os byddwch yn unig riant a'ch:

  • Bod yn gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy; neu
  • Eich bod ar wyliau mamaolaeth neu fabwysiadu ac yn cael Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mabwysiadu neu Famolaeth Statudol.

Gall parau wneud cais yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Rydych ill dau yn gweithio 16 awr neu fwy'r wythnos
  • Mae un ohonoch yn gweithio 16 awr neu fwy'r wythnos ac mae'r llall yn anabl neu'n sâl, neu
  • Mae un ohonoch yn gweithio 16 awr neu fwy'r wythnos ac mae'r llall ar wyliau mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu ac yn cael Tâl Mamolaeth, Tadolaeth neu Fabwysiadu Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Gymhorthdal Incwm oherwydd gwyliau tadolaeth

Rhaid i'r plentyn/plant fod o dan 15 oed (o dan 16 oed os byddant yn anabl) a rhaid mai'r canlynol sy'n darparu'r gofal plant :

  • Gwarchodwr plant cofrestredig
  • Cylch chwarae neu feithrinfa gofrestredig
  • Cynllun y tu allan i'r oriau arferol gan ddarparwr cymeradwy
  • Clwb neu gynllun y tu allan i oriau'r ysgol sy'n cael ei gynnal gan yr ysgol neu'r Awdurdod Lleol ar gyfer plentyn 8 oed neu drosodd.

Mae'r swm uchaf o ofal plant a ganateir fel a ganlyn:

  • £175.00 yr wythnos ar gyfer 1 plentyn
  • £300.00 yr wythnos ar gyfer 2 neu fwy o blant.

Brig y Tudalen 

Pa wybodaeth y mae ei hangen arnoch i gyfrifo fy mudd-dâl/ngostyngiad?

Mae'n bwysig y telir yr hawl cywir i'n cwsmeriaid ac y darganfyddir ac yr atalir twyll a chamgymeriadau cyn gynted ag y bo modd. Mae hynny'n dibynnu arnom ni, sef ein bod :

  • yn casglu'r wybodaeth a'r dystiolaeth briodol i gefnogi ceisiadau; ac
  • yn gwneud gwiriadau unwaith y telir eich hawl.

Mae hefyd yn dibynnu arnoch chithau, sef eich bod yn rhoi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich amgylchiadau yn newid. Os na fyddwch yn dweud wrthom am y newidiadau hynny, efallai na fyddwch yn cael arian y mae hawl gennych iddo neu efallai y byddwch yn cael gormod o fudd-dâl/gostyngiad.

Yn ogystal â chwblhau ffurflen gais, bydd yn rhaid i chi ddarparu'r canlynol ar eich cyfer chi a'ch cymar (lle bo'n briodol):

  • Tystiolaeth o Fodd Adnabod
  • Tystiolaeth o'r Cyfeiriad
  • Tystiolaeth o'r rhif yswiriant gwladol
  • Tystiolaeth o gyfalaf, cynilion a buddsoddiadau
  • Tystiolaeth o enillion
  • Tystiolaeth o incwm arall
  • Tystiolaeth o fudd-daliadau, lwfansau neu bensiynau
  • Tystiolaeth o denantiaeth a rhent preifat
  • Tystiolaeth o arian arall a delir

Gweler 'Rhestr Wirio Tystiolaeth Gefnogol' i gael rhestr lawn o'r dogfennau y gellir eu darparu i gefnogi eich cais.

Dim ond dogfennau gwreiddiol y gellir eu derbyn, ac nid llungopïau.

Os nad oes gennych yr holl dystiolaeth a'r holl wybodaeth y mae eu hangen arnom i gefnogi'ch cais, peidiwch ag oedi cyn anfon eich ffurflen atom. Dylid cyflwyno pob tystiolaeth yn gefn i'r cais cyn gynted ag sy'n bosibl er mwyn inni fedru ystyried yr hawliad; fodd bynnag, bydd angen cyflwyno'r wybodaeth honno o fewn mis ar ôl cyflwyno eich ffurflen hawlio.

Brig y Tudalen

A yw faint o gyfalaf sydd gennyf yn cael effaith ar fy hawl?

Bydd eich hawl yn dibynnu ar faint o gyfalaf sydd gennych chi a'ch cymar (lle bo'n briodol).

  • Os bydd cyfalaf ar y cyd gennych chi a'ch cymar (lle bo'n briodol) sy'n fwy na £16,000, ni fyddwch fel arfer yn medru cael Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor
  • Gallwch chi a'ch cymar (lle bo'n briodol) feddu ar gyfalaf ar y cyd o £6,000 cyn y bydd yn cael effaith ar eich hawl
  • Os ydych chi a'ch cymar (lle bo'n briodol) heb cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, ystyrir incwm o £1 ym mhob £250 (neu ran o £250) rhwng £6,000 a £16,000 wrth gyfrifo'ch hawl. Gelwir 'incwm tariff' ar hyn.

Mae cyfalaf yn cynnwys arian parod, cyfrifon cyfredol, cyfrifon eraill mewn banc/cymdeithas adeiladu/swyddfa bost, ymddiriedolaethau unedol, ISA, tystysgrifau cynilion cenedlaethol, stociau, cyfrandaliadau, bondiau premiwm ac eiddo (heblaw am y cartref yr ydych yn byw ynddo) neu dir yr ydych yn berchen arno.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os bydd pobl eraill yn byw gyda mi?

Efallai y bydd gostyngiad yn eich budd-dâl/gostyngiad os bydd rhywun 18 oed neu drosodd (ac eithrio'ch cymar) yn byw gyda chi, er enghraifft mab, merch, ffrind neu berthynas.

Gelwir 'annibynyddion' ar y bobl hynny a gallai swm penodol a fydd yn dibynnu ar eu hincwm a'u hamgylchiadau ostwng eich hawl wythnosol ar gyfer pob un o'r annibynyddion sy'n byw yn eich cartref.

I gael golwg ar lefel bresennol y didyniadau a phryd y mae didyniad yn berthnasol, gweler 'Annibynyddion'.

Brig y Tudalen

Os bydd cymar gennyf, a fydd yn rhaid i'r ddau ohonom gwblhau ffurflen gais?

Na fydd – Dim ond un ffurflen gais y bydd yn rhaid i chi ei chwblhau a fydd yn eich cynnwys chi, eich cymar ac unrhywun arall sy'n preswylio yn eich cartref.

Brig y Tudalen

Os bydd fy nghymar yn gweithio ond nad wyf i'n gweithio, a fyddaf yn medru gwneud cais drostof fy hun?

Na fyddwch. Bydd yn rhaid i chi wneud cais ar y cyd am fudd-dâl/ostyngiad a fydd yn datgan manylion llawn eich cymar ynghyd â'ch cyd-incwm, cyfalaf a chynilion.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd pan ddaw fy nghais i law?

Byddwn yn gwirio'r ffurflen gais a'r dystiolaeth ddogfennol a ddarparoch.

Os bydd angen gwybodaeth ychwanegol arnom, byddwn yn gysylltu a chi. Bydd yn rhaid rhoi'r wybodaeth i ni cyn pen un mis calendr neu efallai na fyddwn yn medru eich talu.

Brig y Tudalen

Faint o amser y bydd yn ei gymryd i asesu fy hawl i fudd-dâl/ostyngiad?

Anelwn i wneud penderfyniad am eich cais cyn pen 14 diwrnod i'r dyddiad pan ddaw'r holl wybodaeth angenrheidiol i law.

Brig y Tudalen

A fydd y Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol yn cwrdd â'r rhent llawn y bydd yn rhaid i mi ei dalu i'm landlord preifat?

Efallai na fydd Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol yn cwrdd â'ch rhent llawn a felly byddwch yn gyfrifol am unrhyw ddiffyg rhwng y budd-dâl a ddyfarnwyd a'r union rent y mae'ch landlord yn ei godi arnoch.

Yn gyntaf, byddwn yn edrych i weld a fydd eich cais yn cael ei ystyried o dan reoliadau Budd-dâl Tai neu'r Lwfans Tai Lleol.

Dilynwch y ddolen Lwfans Tai Lleol i wirio a fyddwch yn cael eich ystyried o dan y cynllun hwnnw a gwirio lwfansau wythnosol presennol y Lwfans Tai Lleol.

Os byddwch yn rhentu oddi wrth landlord preifat (nid yw hynny'n cynnwys tenantiaethau Cymdeithasau Tai) ac nad ydych yn gymwys o dan gynllun y Lwfans Tai Lleol, bydd yn rhaid i ni ofyn i'r Gwasanaeth Rhenti a yw'r rhent a dalwch yn un rhesymol.

Brig y Tudalen

Beth yw'r Gwasanaeth Rhenti?

Mae'r Gwasanaeth Rhenti yn annibynnol oddi wrth yr Awdurdod Lleol a byddant yn rhoi gwerthusiad i ni o rent eich llety a defnyddir hynny i asesu eich cais am Fudd-dâl Tai. Y Gwasanaeth Rhenti sydd hefyd yn pennu cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol.

Penderfynu ar Fudd-dâl Tai

Wrth wneud penderfyniad, bydd y Swyddog Rhenti yn ystyried:

  • Lefel y rhent
  • Rhent eiddo tebyg yn y cyffiniau
  • Nifer yr ystafelloedd
  • Oedran a nifer y bobl sy'n byw yn yr eiddo o dan asesiad

Bydd y penderfyniad fel arfer yn berthnasol i'ch cais am 12 mis oni bai bod newid sylweddol i'r eiddo neu i nifer y bobl sy'n gynwysiedig ar yr aelwyd.

Achosion o Lwfans Tai Lleol

Bydd penderfyniad ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol yn dibynnu ar y canlynol:

  • Ble yr ydych yn byw
  • Oedran a nifer y bobl sy'n byw ar eich aelwyd

Cyfradd uchaf y Lwfans Tai Lleol o ran eich hawliad chi yw'r gyfradd ym mis Ebrill y flwyddyn ariannol yr hawliwch chi h.y. bydd cyfraddau Lwfans Tai Lleol Ebrill 2019 yn gymwys ar gyfer hawliadau a wneir neu yr ystyrir eu bod wedi eu gwneud yn ystod y cyfnod 01.04.2019 hyd 31.03.2020.

Gweler Lwfans Tai Lleol os bydd y rhent y mae'ch landlord yn ei godi yn is/uwch na chyfradd y Lwfans Tai Lleol.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os byddaf o dan 35 oed?

Mae rheolau'r Llywodraeth yn cyfyngu ar faint o Fudd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol y gall pobl sengl o dan 35 nad oes plant yn byw gyda nhw ei hawlio. Byddwch yn gallu hawlio Cyfradd Llety a Rennir (SAR) yn unig i'ch helpu chi gyda'r rhent.

Cewch eich eithrio rhag Cyfradd Llety a Rennir o dan yr amgylchiadau isod:-

  • Os ydych o dan 22 oed ac yr oeddech yn arfer bod yng ngofal y Gwasanaethau Cymdeithasol,
  • Mae gennych chi ofalwr dibreswyl sy'n aros gyda chi yn rheolaidd er mwyn gofalu amdanoch chi,
  • Mae gennych hawl i gael y Premiwm Anabledd Difrifol wedi ei gynnwys wrth gyfrif eich budd-dal oherwydd eich bod chi'n cael cyfradd ganol neu uchaf elfen ofal Lwfans Byw'r Anabl, yr elfen o'r Taliad Annibyniaeth Bersonol sy'n ymwneud â Bywyd Beunyddiol neu Daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Yr ydych rhwng 25 a 35 oed ac yr ydych chi wedi treulio o leiaf 3 mis mewn hostel arbennig ar gyfer y digartref,
  • Yr ydych yn gyn-droseddwr sy'n peri risg i'r cyhoedd

Brig y Tudalen

A allaf ddarganfod faint yw swm uchaf y Budd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol y bydd hawl gennyf ei gael cyn i mi symud i lety newydd?

Gallwch. Mae'r Lwfans Tai Lleol yn seiliedig ar nifer yr ystafelloedd y mae eu hangen arnoch chi a'ch teulu (lle bo'n briodol) a'r ardal lle yr ydych yn byw. Er mwyn darganfod ym mha ardal y mae'r eiddo y dymunwch ei rentu, gwnewch wiriad uniongyrchol gyda'r Gwasanaeth Rhenti drwy fewnbynnu'ch côd post ar eu gwefan, sef LHA Direct.

Caiff cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol eu hadolygu'n flynyddol ddechrau mis Ebrill bob blwyddyn oni fydd newid yn eich amgylchiadau a fydd yn effeithio ar nifer yr ystafelloedd gwely a ddefnyddir i gyfrifo'r Lwfans Tai Lleol, er enghraifft, os bydd rhywun yn symud i mewn neu allan o'ch eiddo chi.

Unwaith y byddwch chi wedi penderfynu faint o ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch chi a'ch teulu chi (os yw hynny'n gymwys) gallwch – weld cyfraddau cyfredol Ceredigion.

Yn achos tenantiaethau nad yw'r Lwfans Tai Lleol yn effeithio arnynt, gallwch ddarganfod faint o'r rhent y byddwn yn ei ddefnyddio i gyfrifo'ch Budd-dâl Tai cyn i chi benderfynu meddiannu'ch eiddo. Gallwch wneud hynny drwy gwblhau ffurflen penderfyniad cyn-denantiaeth.

Gallwch gysylltu â ni ar 01970 633252,ein hebostio ar revenues@ceredigion.gov.uk neu alw heibio i un o'n Swyddfeydd Lleol i ofyn am ffurflen penderfyniad cyn-denantiaeth.

Daliwch sylw bod ffigyrau wythnosol y penderfyniad cyn-denantiaeth / cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol yn rhoi'r budd-dâl uchaf y gellid ei dalu. Bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen gais a darparu'r holl dystiolaeth gefnogol er mwyn i'r Awdurdod Lleol fedru cyfrifo'ch hawl wythnosol.

Brig y Tudalen

Faint o Fudd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor y byddaf yn ei gael?

Asesir lefel y Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor drwy gymharu'ch incwm chi a'ch cymar (lle bo'n briodol) â'ch Swm Perthnasol. Swm safonol yw'r Swm Perthnasol a bennir gan y llywodraeth (DU a Chymru) yn flynyddol a hwnnw yw'r swm y mae ei angen arnoch yn ôl y gyfraith i gwrdd â chostau bywyd beunyddiol.

Os byddwch chi neu'ch cymar (lle bo'n briodol) yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yng nghyswllt incwm), mae swm y budd-dâl wythnosol a gewch fel arfer fel a ganlyn :

  • Hyd at uchafswm cyfradd y Lwfans Tai Lleol neu asesiad y Gwasanaeth Rhentiar
  • Eich atebolrwydd cymwys wythnosol o ran rhent os ydych yn denant Cymdeithas Dai (DS os bydd eich rhent yn cynnwys taliadau am wasanaethau h.y. ardrethi dwr, gwres etc, didynnir y rheini oddi ar eich rhent wythnosol gan na all Budd-dâl Tai gwrdd â'r taliadau hynny). Hefyd ar ôl 01.04.2013 gallai cwsmeriaid sydd o oedran gweithio sy'n rhentu gan un o'r Cymdeithasau Tai cofrestredig weld gostyngiad yn eu Budd-dal Tai uchaf os ystyrir eu bod yn tanfeddiannu'r eiddo – gweler "Meini Prawf sy'n ymwneud â Budd-daliadau a Maint" am fwy o wybodaeth
  • Eich atebolrwydd wythnosol i gwrdd â'r Dreth Gyngor

Dyma'r swm uchaf y gallwn ei dalu. Serch hynny, gallech gael llai na'r swm uchaf os oes annibynyddion yn rhannu'ch cartref.

Os nad ydych chi neu'ch cymar (lle bo'n briodol) yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm) neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yng nghyswllt incwm), byddwn yn cymharu'ch incwm wythnosol ac unrhyw incwm tariff sy'n deillio o gyfalaf/cynilion â'ch Swm Perthnasol.

Rydym yn defnyddio symiau a bennir yn flynyddol gan y llywodraeth (DU a Chymru) o'r enw lwfansau personol a phremiymau i gyfrifo faint o arian y mae ei angen arnoch chi a'ch aelwyd i fyw. Eich Swm Perthnasol yw cyfanswm y lwfansau personol a'r premiymau.

Bydd lwfans personol yn dibynnu ar:

  • Eich oedran;
  • A ydych yn sengl neu a oes cymar gennych;
  • Sawl plentyn sy'n dibynnu arnoch a'u hoedrannau.

Ychwanegir premiymau at eich lwfansau personol i gydnabod anghenion:

  • Teuluoedd;
  • Pobl Anabl;
  • Gofalwyr.

Os yw'ch incwm wythnosol yn llai na'ch Swm Perthnasol, neu'r un faint ag ef, byddwn yn talu'r budd-dâl/gostyngiad uchaf (gweler uchod), namyn symiau ar gyfer annibynyddion sy'n byw gyda chi.

Yn achos Budd-dâl Tai neu Lwfans Tai Lleol, os bydd eich incwm wythnosol yn uwch na'ch Swm Perthnasol, byddwn yn tynnu 65c oddi ar eich budd-dâl uchaf (gweler uchod) am bob £1 o'ch incwm sydd dros eich Swm Perthnasol.

Yn achos Gostyngiad Treth y Cyngor – os bydd eich incwm wythnosol yn uwch na'ch Swm Perthnasol, byddwn yn tynnu 20c oddi ar eich gostyngiad uchaf (gweler uchod) am bob £1 o'ch incwm sydd dros eich Swm Perthnasol.

Brig y Tudalen

A oes isafswm budd-dâl/gostyngiad sy'n daladwy?

Isafswm y Budd-dâl Tai neu'r Lwfans Tai Lleol sy'n daladwy yw 50c yr wythnos.

Nid oes isafswm Gostyngiad Treth y Cyngor sy'n daladwy yn wythnosol.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os byddaf yn fyfyriwr?

Ni all y rhan fwyaf o fyfyrwyr llawn amser hawlio Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor oherwydd bod y llywodraeth yn disgwyl iddynt ddefnyddio arian arall megis eu grant, benthyciad myfyrwyr neu gronfyedd mynediad i dalu eu rhent.

Er dibenion Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor, diffinnir myfyriwr yn unrhyw berson sy'n mynychu neu yn ymgymryd â chwrs astudio mewn sefydliad addysgiadol ac sy'n astudio yn y sefydliad hwnnw am fwy na 16 awr yr wythnos. Os nad ydych yn sicr ai myfyriwr llawn amser neu ran amser ydych, cysylltwch â'ch Coleg neu'ch prifysgol a fydd yn medru rhoi cyngor i chi.

Gweler Myfyrwyr i gael mwy o wybodaeth am bwy a all wneud cais.

Brig y Tudalen

Sut y telir fy mudd-dâl/ngostyngiad?

Os ydych yn denant preifat sy'n gymwys i gael Budd-dâl Tai ers cyn 7 Ebrill 2008 neu'n denant Cymdeithas Dai sy'n gymwys i gael Budd-dâl Tai, byddwn yn talu lwfans rhent i chi. Fel arfer, telir y lwfans rhent i chi bob pythefnos mewn ôl-daliadau; serch hynny, gallwn ei dalu i'ch Cymdeithas Dai neu i'ch landlord. Gwneir taliadau uniongyrchol o'ch lwfans rhent i'r Gymdeithas Dai neu'ch landlord unwaith bob pedair wythnos ar ffurf ôl-daliadau.

Os ydych yn denant preifat sy'n gymwys i gael Lwfans Tai Lleol ers 7 Ebrill 2008, bydd yn rhaid i ni dalu hyn i chi oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Dim ond mewn amgylchiadau penodol y gallwn wneud taliadau i'ch landlord a datblygom gyfres o feini prawf sy'n ein helpu i wneud penderfyniadau ar yr achosion hynny; sef ein Polisi Mesurau Diogelwch.

Os ydych chi wedi cael llety gan y Tîm Llety Argyfwng ac/neu'r Tîm Digartrefedd ac yr ydych chi'n gymwys i gael Budd-dal Tai yr ydym yn talu ad-daliad rhent wythnosol i chi. Caiff yr ad-daliad rhent ei dalu'n syth i'ch cyfrif rhent ac mae'n lleihau'r rhent wythnosol y byddwch yn ei dalu.

Byddwn yn talu eich Gostyngiad Treth y Cyngor yn uniongyrchol i'ch cyfrif Treth Gyngor a byddwn yn anfon bil Treth Gyngor newydd atoch i roi gwybod i chi faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu.

Brig y Tudalen

Pryd y bydd fy mudd-dâl/ngostyngiad yn dechrau?

Os byddwch yn gymwys i gael Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol, byddwn fel arfer yn talu'ch budd-dâl o'r Dydd Llun ar ôl i chi ofyn i ni am ffurflen gais (cyn belled ag y dychwelwch y ffurflen gais cyn pen un mis calendr i gysylltu â ni).

Os ydych chi'n gymwys i gael Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor, fel rheol byddem yn rhoddi'r gostyngiad i chi o'r dyddiad y gofynnoch chi am ffurflen gais (os dychwelwch chi'r ffurflen gais o fewn mis ar ôl cysylltu â ni).

Pan fyddwch yn gwneud cais am Fudd-dâl Tai/Lwfans Tai Lleol a/neu Gostyngiad Treth y Cyngor dros y ffôn drwy'r Ganolfan Byd Gwaith, byddwn yn trin dyddiad eich cais fel yr un dyddiad â'r dyddiad pan gysylltoch â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Os rhoddir Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i chi, bydd pob un o'r budd-daliadau yn dwyn yr un dyddiad gwneud cais.

Brig y Tudalen

A oes modd ôl-ddyddio fy mudd-dâl/ngostyngiad?

Os ydych chi a'ch cymar (lle bo'n briodol) heb cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn y Wladwriaeth, y fan bellaf y gallwn ol-dyddio eich cais yw:

  • 1 mis ar rhan Budd-dal Tai neu Lwfans Tai Lleol
  • 3 mis ar rhan Gostyngiad Treth y Cyngor

a hynny o'r dyddiad y gofynnwch iddo gael ei ôl-ddyddio, cyn belled ag y medrwch ddangos :

  • Bod 'achos da' gennych am beidio â gwneud eich cais ynghynt
  • Na allech wneud cais gydol y cyfnod yr ydych yn dymuno i'ch hawl gael ei ôl-ddyddio ar ei gyfer

Rhaid gwneud cais ysgrifenedig am ôl-ddyddiad.

Gweler Ôl-ddyddio i gael mwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

Am ba hyd y telir budd-dâl/gostyngiad?

Telir budd-dâl/gostyngiad tra bo'r hawl iddo yn parhau. O bryd i'w gilydd, bydd angen i ni gadarnhau manylion eich cais a byddwn yn cysylltu â chi pan fydd hynny'n angenrheidiol neu efallai y byddwn yn trefnu ymweliad.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os byddaf yn anghytuno â'ch penderfyniad?

Pan fyddwn wedi penderfynu ar eich cais, byddwn yn anfon llythyr swyddogol atoch i'ch hysbysu. Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi am yr holl fanylion a ddefnyddiom i gyfrifo'ch hawl ac mae'n bwysig eich bod yn gwirio bod y wybodaeth yn gywir.

AR GYFER BUDD-DAL TAI NEU'R LWFANS TAI LLEOL:

Os ydych chi am gael gwybod mwy am y penderfyniad neu os ydych chi'n credu ei fod yn anghywir, dylech chi gysylltu â ni o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr neu efallai na allwn ni ystyried unrhyw angydfod.

Gallwch naill ai ofyn am esboniad neu :

  • ofyn yn ysgrifenedig am 'Ddatganiad Rheswm' ysgrifenedig
  • gofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto – 'Cwestiyna'r Penderfyniad'. Rhaid gwneud hynny yn ysgrifenedig. Os gellir newid y penderfyniad, anfonwn benderfyniad newydd atoch. Os na fedrwn newid y penderfyniad, byddwn yn dweud paham wrthoch. Os byddwch yn dal i anghytuno, bydd un mis gennych i apelio a hynny yn cychwyn o ddyddiad y penderfyniad newydd
  • 'Apelio' yn erbyn y penderfyniad – yn ysgrifenedig yn unig y gellir gwneud hyn. Os apeliwch yn erbyn y penderfyniad, cyfeirir eich apêl at y Tribiwnlys Annibynnolsydd o dan weinyddiaeth y Gwasanaeth Tribiwnlys.

AR GYFER GOSTYNGIADAU TRETH Y CYNGOR

Os oes arnoch chi angen mwy o fanylion ynghylch unrhyw fater sydd wedi ei osod yn yr hysbysiad neu'r rhesymau dros y penderfyniad gallwch chi wneud cais o fewn un mis wedi dyddiad y llythyr am 'Ddatganiad Ysgrifenedig o'r Rhesymau'.

Os ydych chi'n anghytuno â'r penderfyniad gallwch ofewn un mis wedi dyddiad y lythyr gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor yn nodi'n glir y mater(ion) yr ydych chi'n anfodlon arno a'r rhesymau. Byddwn yn ystyried y mater(ion) sydd ynglŷn â'ch hysbysiad chi a rhoddwn wybod i chi'n ysgrifenedig o'n penderfyniad ni gyda rhesymau. Yn dilyn y llythyr hwnnw os byddwch chi'n dal yn anfodlon bydd gennych chi 2 fis i apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Sylwer, gallwch chi apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru os na fyddwn ni wedi rhoi gwybod i chi ynghylch ein penderfyniad o fewn 2 fis ar ôl i chi gyflwyno 'hysbysiad ysgrifenedig' i'r Cyngor.

Gweler Apeliadau i gael mwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os bydd fy amgylchiadau yn newid?

Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi roi gwybod i ni os bydd unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a ddefnyddiom i benderfynu ar faint o Fudd-dâl, Lwfans Tai Lleol, a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor y mae hawl gennych ei gael.

Mae'n bwysig iawn dweud wrthom ar unwaith. Dylech gysylltu â ni hyd yn oed os ydych yn dal i ddisgwyl clywed oddi wrthom am eich cais a hyd yn oed os dywedoch wrth rywun arall, er enghraifft, yr Adran Gwaith a Phenisynau neu'ch landlord.

Os na fyddwch yn dweud wrthom, gallai maint eich budd-dâl/gostyngiad fod yn anghywir. Efallai na fyddwn yn talu digon i chi a ni chewch yr arian y mae hawl gennych iddo neu efallai y fyddwn yn gordalu ac y bydd rhaid i chi ei ad-dalu yn ddiweddarach.

I gael gwybodaeth lawn am y modd o ddweud wrthom am newidiadau yn eich amgylchiadau a pha newidiadau y mae'n rhaid i chi eu hysbysu, gweler 'Newid Amgylchiadau'.

Brig y Tudalen

A allaf hawlio budd-dâl ar ddau gartref?

Telir budd-dâl fel arfer yn unig ar gyfer y cartref lle yr ydych yn byw ar hyn o bryd ac yn talu rhent. Serch hynny, mae yna rai amgylchiadau lle y gallech gael cymorth ar gyfer dau gartref:

I gael mwy o wybodaeth, gweler 'Hawlio Budd-dâl ar Ddau Gartref?'

Brig y Tudalen

Beth sy'n digwydd os byddaf oddi cartref dros dro?

Dim ond tra bôch yn preswylio yn yr eiddo y telir Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor fel arfer. Serch hynny, efallai y gellid talu budd-dâl/gostyngiad o hyd tra bôch oddi cartref dros dro mewn rhai amgylchiadau.

I gael mwy o wybodaeth, gweler Absenoldeb Dros Dro.

Brig y Tudalen

Os byddaf yn dechrau gweithio, beth fydd yn rhaid i mi ei wneud?

Os buoch yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Budd-dâl Analluogrwydd neu Lwfans Anabledd Difrifol a bod y rhain yn dod i ben oherwydd eich bod yn dechrau gweithio neu fod eich oriau neu'ch enillion o'ch gwaith presennol yn cynyddu, efallai y bydd hawl gennych gael taliadau estynedig/gostyngiad estynedig. 

Efallai y bydd hawl gennych hefyd gael Budd-dâl Tai, Lwfans Tai Lleol a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor ar ôl i chi ddechrau gweithio os byddwch ar incwm isel. Os nad yw'r nifer angenrheidiol o slipiau cyflog gennych i gefnogi'ch cais, gallwch ofyn i'ch cyflogwr roi amcangyfrif o'ch enillion gros, eich didyniadau treth a'ch didyniadau yswiriant gwladol i alluogi ystyried dros dro eich hawl i fudd-dâl. Wedyn, gallwch anfon manylion eich union enillion atom pan fyddant wedi dod i law. Gweler 'Rhestr Wirio Tystiolaeth Gefnogol' i gael mwy o wybodaeth.

Hefyd, bydd angen i chi gwblhau ffurflen Newid Amgylchiadau a rhoi tystiolaeth ddogfennol o'ch holl incwm wythnosol arall, eich cyfalaf a'ch cynilion.

Gallwch lawrlwytho Ffurflen Newid Amgylchiadau o'r dudalen Ffurflenni y Gallwch Lawrlwytho. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Awdurdod Lleol trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk, neu ffonio 01970 633252 neu drwy ysgrifennu at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt a bydd ffurflen yn cael ei hanfon atoch. Gallwch hefyd ymweld ag un o'n Swyddfeydd Ardal Lleol i gasglu ffurflen.

Gallwch ddychwelyd y ffurflen wedi ei chwblhau trwy e-bostio revenues@ceredigion.gov.uk neu ei phostio at yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad a nodir ar y dudalen Rhestr Gyswllt neu ewch â hi i'ch Swyddfa Ardal Leol.

Brig y Tudalen

A allaf gael cymorth ychwanegol i dalu fy rhent?

Os ydych yn cael Budd-dâl Tai neu Lwfans Tai Lleol, ond yn dal i'w chael yn anodd talu gweddill eich rhent, efallai y bydd hawl gennych gael taliad ychwanegol i'ch helpu i oresgyn y diffyg. Taliad Tai Dewisol yw hynny.

Ystyrir pob cais am Daliad Tai Dewisol yn ôl rhinweddau unigol yr achos. Gwneir taliadau os gallwch ddangos eich bod yn dioddef caledwch ariannol neu fod rhyw amgylchiadau arbennig eraill sy'n peri anhawster i chi dalu'ch rhent.

Gweler Taliad Tai Dewisol i gael mwy o wybodaeth.

Brig y Tudalen