Skip to main content

Ceredigion County Council website

Budd-daliadau

Cyfrifiannell Hawl

Mae ein Cyfrifiannell Budd-dal yn amcangyfrif eich hawl i Fudd-dal Tai a Gostyngiad Treth y Cyngor ar unwaith yn seiliedig ar eich amgylchiadau. Bydd yn cymryd dim ond ychydig o funudau i gwblhau ac i roi wybod i ch a ydych yn debygol o fod ym gymwys cyn i chi lenwi ein Ffurflen Gais.

Dechreuwch y cyfrifiad yma

Hunanwasanaeth - Cyswllt

Mae cyswllt yn galluogi i drigolion gael mynediad at eu cyfrifon Treth Gyngor, Ardrethi (Busnes) Annomestig neu Fudd-dâl Tai/Gostyngiad Treth y Gyngor ar lein drwy gyfrwng gwefan Cyngor Sir Ceredigion.

Gall defnyddwyr cofrestredig gael mynediad at eu cyfrif personol neu fanylion eu ceisiadau. Hefyd, gall landlordiaid y telir Budd-dâl Tai iddynt yn uniongyrchol gael mynediad at fanylion y taliadau hynny.

Cyswllt

Bilio Electronig (e-Filio)

Rydym wedi cyflwyno Bilio Electronig - ddull mwy effeithlon a chyfleus i chi dderbyn eich biliau ac mae hefyd yn cwtogi ein costau argraffu a phostio.

Cofrestrwch ar gyfer e-Filio

Noder mai dim ond y deiliaid cyfrif y mae gennym eu cyfeiriadau e-bost fydd yn derbyn biliau trwy e-bost. Mewn achos ble mae mwy nag un deilydd i’r cyfrif, mae’n rhaid i bob person ddarparu eu cyfeiriadau e-bost ar wahân neu fe fydd bil papur yn cael ei ddarparu.

Gwasanaethau Eraill

Dewch o hyd i wasanaethau lleol eraill a allai fod o gymorth i chi:

Dewis Cymru