Skip to main content

Ceredigion County Council website

Pa wastraff fydd yn cael ei dderbyn yn y Safleoedd Gwastraff Cartref

Derbyn

  • Caniau
  • Cardbord
  • Gwastraff cartref cyffredinol na ellir ei ailgylchu (gweler Nodyn 1)
  • Poteli a jariau gwydr
  • Gwydr plât
  • Gwastraff gardd
  • Paent a thoddyddion
  • Olew gwastraff (llysiau a mwynau)
  • Papur
  • Plastigau
  • Metel sgrap
  • Tecstilau (gan gynnwys dillad, esgidiau, duvets a chlustogau)
  • Eitemau trydanol gan gynnwys offer cartref (gweler Nodyn 2)
  • Matresi (gweler Nodyn 3)
  • Batris (asid plwm a chell sych)
  • Tiwbiau fflwroleuol a bylbiau
  • Ffonau symudol
  • Cetris argraffydd
  • Dodrefn

Cyfyngedig

  • Asbestos – wedi'i gyfyngu i 2 ddalen neu'r cyfwerth y flwyddyn (mae gofynion penodol yn berthnasol gweler Nodyn 4)
  • Gwastraff DIY – wedi'i gyfyngu i 5 sach rwbel/ adeiladwyr (uchafswm 20kg yr un) o bridd, rwbel neu wastraff DIY y flwyddyn
  • Bwrdd plastr – 2 ddalen y flwyddyn
  • Gosodiadau a ffitiadau'r cartref wedi'u cyfyngu i un eitem (e.e. un sinc, un cwpwrdd cegin, un ffrâm ffenestr, un drws, un stôr-wresogydd ac ati)
  • Gwastraff o glirio tŷ (cysylltwch â ni am gyngor)
  • Pren wedi'i gyfyngu i wastraff gardd prennaidd, dodrefn pren, darnau bach o osodiadau a ffitiadau, un sied ardd fach (cysylltwch â ni am gyngor)

Ddim yn cael ei dderbyn

  • Gwastraff masnach/busnes gan gynnwys gwastraff adeiladwyr (gweler Nodyn 3)
  • Ceir/carafanau a rhannau ceir/carafanau a cherbydau diwedd oes
  • Silindrau nwy a diffoddwyr tân
  • Teiars
  • Nifer fawr o osodiadau a ffitiadau cartref
  • Tai allan (siediau mawr, tai gwydr, bynceri)
  • Gwastraff amaethyddol
  • Gwastraff anifeiliaid anwes
  • Gwastraff bwyd (cysylltwch â ni am gyngor)

Nodiadau:

  1. Rydym yn cadw'r hawl i wirio cynnwys gwastraff sydd mewn sachau du/sachau sbwriel. Rhaid didoli eitemau y gellir eu hailgylchu i'r cynhwysydd priodol ar y safle.
  2. Mae angen llenwi Ffurflen Ymwadiad Amonia ar gyfer oergelloedd amonia.
  3. Mae gwastraff masnach yn golygu unrhyw wastraff a gynhyrchir o ganlyniad i unrhyw weithgaredd masnachol, e.e. dodrefn a matresi (1 fesul cartref) o eiddo rhent wedi'i ddodrefnu, gwastraff swyddfa, gwastraff o fusnesau yn y cartref, gwastraff o lety hunanarlwyo, gwastraff gardd wedi'i gynhyrchu gan wasanaethau garddio am dâl.
  4. I gael arweiniad ar ddelio ag asbestos, ewch i'r A-Y o wastraff.