Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ymgynghoriad ar gynllun amddiffyn yr arfordir Aberystwyth 

Ymgynghoriad ar-lein: Dechrau: 27/08/2024 Diwedd: 08/10/2024

Digwyddiad Ymgysylltu Personol – Bandstand Aberystwyth
2il Medi 12:00 – 20:00 a 3ydd Medi 2024 10:00 – 17:00

Beth sydd yn yr Ymgynghoriad?

Mae AtkinsRealis wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Ceredigion i ddatblygu strwythurau amddiffyn yr arfordir a fydd yn lleddfu problemau’r llifogydd arfordirol ar hyd Glan Môr Aberystwyth.

Yn 2018, cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu i adeiladu wal 1m o uchder y tu ôl i’r promenâd, fodd bynnag dangosodd astudiaethau pellach fod hyn yn rhannol effeithiol yn unig o ran lleihau effaith tonnau’n torri drosodd. Gwrthodwyd opsiynau i adeiladu waliau uwch ar y sail y byddent yn annerbyniol o uchel ac yn achosi ymwthiad gweledol. Roedd ateb ar gyfer strwythur amddiffyn rhag llifogydd ar y traeth yn mynd i fod yn angenrheidiol i leihau uchder tonnau. Amlygodd astudiaethau pellach y byddai datrysiad morglawdd ynghyd ag adfer y traeth a grwynau creigiog yn effeithiol i amddiffyn Glan-y-Môr. Mewn lleoliadau eraill, bydd waliau llifogydd eilaidd ar y promenâd yn cael eu cadw a'u hychwanegu. Bydd wal gynnal y graig yn cael ei gosod o flaen y morglawdd yn Rhodfa Fuddug yn ogystal â gwaith cryfhau a diogelu i forglawdd presennol y promenâd.

Mae deunydd yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn yn amlinellu'r problemau hanesyddol o ran llifogydd sy'n gysylltiedig â Glan Môr Aberystwyth a'r problemau tebygol yn y dyfodol o ganlyniad i gynnydd yn lefel y môr a’r newid yn yr hinsawdd.

Yr hyn y byddwn ei angen gennych chi yw adborth ar y cynigion a amlinellir yn y cyflwyniad hwn. Er mwyn rhoi adborth ar y cynllun hwn, gweler y ddolen isod i holiadur gyda chwestiynau penodol.

Os hoffech drafod y cynigion gyda ni, mae digwyddiad ymgysylltu personol yn cael ei gynnal ar 2il a 3ydd Medi yn y Bandstand.

Cefndir y cynllun a’r Angen amdano

Mae llifogydd yn broblem heddiw ac mae’r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â’r llifogydd arfordirol a achosir gan y tonnau sy’n dod i mewn, a thonnau’n gorlifo dros y promenâd, sy’n arwain at yr angen i glirio cerrig mân yn rheolaidd oddi ar y promenâd a difrod i'r morglawdd a'r eiddo sydd ar ochr arall y promenâd.

Llifogydd yn y dyfodol:

Dros amser, bydd y newid yn yr hinsawdd yn cynyddu lefelau dŵr llonydd tua 1m ac ynghyd â rhagor o stormydd mae hyn yn golygu:

  • Mae tua 460 eiddo mewn perygl o lifogydd ymhen 100 mlynedd os bydd storm 1 mewn 200 mlynedd a’r morglawdd yn methu
  • Mae wal bresennol y promenâd yn rhoi safon isel iawn o amddiffyniad o 1 mewn 1 rhag tonnau'n torri drosodd

Pam fod angen y cynllun:

  • Mae tua 200 o eiddo mewn perygl o lifogydd heddiw pe bai storm 1 mewn 200 mlynedd yn digwydd oherwydd tonnau'n torri drosodd yn unig a chan dybio bod y morglawdd yn aros yn gyfan
  • Lleihau perygl llifogydd i eiddo masnachol a phreswyl ar hyd y promenâd ac yn y dref
  • Lleihau'r risg o ddifrod i'r Promenâd a'r morglawdd
  • Rhoi amddiffyniad rhag y cynnydd a ragwelir yn lefel y môr/y newid yn yr hinsawdd
  • Cynnal yr amddiffynfeydd a lleihau effeithiau erydu arfordirol
  • Darparu cynllun cynaliadwy i ddiwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol

Rhaglen Prosiect Targed

  • Awst/Medi 2024 - Ymgynghoriad cyhoeddus
  • Tachwedd 2024 - Cyflwyno Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru
    2025 Cynnal arolygon o’r safle, Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, Paratoi Dyluniadau Manwl
    Cyflwyno’r cais cynllunio wedi'i dargedu ar gyfer diwedd 2025
    Cyhoeddi a gwahodd tendrau ar gyfer y Gwaith
  • Tachwedd 2025 - Cyflwyno Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru
    2026Dyfarnu’r Contract a Dechrau Adeiladu

Cwblhau'r arolwg

Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys fideo digidol o'r cynigion, ynghyd â arolwg a fydd yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.

Arolwg

Cynllun - Amddiffyn yr Arfordir Aberystwyth

Atebwch erbyn 08/10/2024

Os oes angen copi papur arnoch i'w bostio atoch neu os oes ei angen arnoch mewn fformat arall, e-bostiwch neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar clic@ceredigion.gov.uk neu 01545 570881.

Fel arall, bydd copïau papur ar gael yn nigwyddiad yr ymgynghoriad yn y bandstand lle byddwch yn gallu gweld y fideo digidol ar sgrin fawr.