Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 11/09/2022
Cafodd yr ymateb i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan y Cynghorwyr yn y cyfarfod Cabinet ar 04/10/2022
Adroddiad- Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi Siarad Gwrando a Gweithio Gydan Gilydd.pdf
PENDERFYNIAD:
Cymeradwyo’r Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi – ‘Siarad, Gwrando a Gweithio Gyda’n Gilydd’ yn amodol ar gynnwys sicrhau yr ymgysylltir â Chynghorau Cymuned
Mae’r Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi wedi’i gyhoeddi ar ein wefan
Ymgynghoriad Gwreiddiol
Mae angen i ni siarad â phobl sy'n byw neu'n gweithio yng Ngheredigion am yr hyn a wnawn ni i chi.
Bydd pawb sy'n byw neu'n gweithio yma yn defnyddio rhai o wasanaethau’r cyngor, gan gynnwys y bobl sy'n gweithio i'r cyngor. Gallai'r rhain fod yn ffyrdd, ysgolion, llyfrgelloedd neu gasgliadau biniau. Pan fyddwn yn gwneud newidiadau i'r ffordd rydym yn gwneud pethau, mae angen i ni sicrhau eich bod yn gwybod am y newidiadau hyn ac nad ydynt yn cael effaith wael arnoch.
Rydym wedi diweddaru ein Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi; bydd hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn siarad â phawb ac yn y ffordd orau.
Roeddem eisiau gofyn i chi beth rydych chi'n ei feddwl am ein dull o siarad â chi.
Gellir gweld manylion eich ymatebion yn Atodiad B adroddiad Cabinet uchod.