Ceredigion Oed-Gyfeillgar
Daeth yr ymgyrch hwn i ben ar 20 Mawrth 2026.
Diolch am gymryd yr amser i rannu eich meddyliau ar sut y gallwn wneud Ceredigion yn lle gwell i dyfu'n hŷn. Rydym nawr yn edrych ar yr holl ymatebion, a bydd eich adborth yn chwarae rhan bwysig wrth lunio ein Cynllun Gweithredu Oed-gyfeillgar.
Dros yr haf, byddwn yn cynnal gweithdai gyda grwpiau a sefydliadau allweddol i helpu i ddatblygu'r Cynllun ymhellach.
Rydym yn disgwyl rhannu'r Cynllun Oed-gyfeillgar terfynol gyda'r Cabinet yn yr hydref. Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo, byddwn yn ei gyhoeddi ar ein gwefan ac yn dechrau ei roi ar waith.
Ymgyrch gwreiddiol
Hoffem gael eich barn am yr hyn a fyddai’n gwneud Ceredigion yn lle gwell i heneiddio.
Bydd yr adborth a gasglwn yn helpu i lunio Cynllun Gweithredu Ceredigion Oed-gyfeillgar a llywio ein blaenoriaethau yn y dyfodol ar draws cymunedau, gwasanaethau a lleoedd.
Darllenwch mwy am Ceredigion Oed-gyfeillgar ar ein wefan: Ceredigion Oed-Gyfeillgar
Sut i gymryd rhan
Cwblhewch yr arolwg ar-lein: Holiadur Ceredigion Oed Gyfeillgar – Holiadur Ceredigion Oed Gyfeillgar
Lawrlwythwch gopi papur: Holiadur Ceredigion Oed Gyfeillgar (MS Word)
Lawrlwythwch fersiwn print bras: Holiadur Ceredigion Oed Gyfeillgar Print Bras (MS Word)
Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570 881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.
Gallwch hefyd ofyn am gopi papur o’ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol drwy ffonio ni ar 01545 570 881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.
Dychwelwch gopïau papur i’ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol, neu i:
Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA