Adolygiad o Ddatganiad o Bolisi Gamblo
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben 20 Rhagfyr 2024.
Cafodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn ei ystyried gan Gynghorwyr yn cyfarfod y Cyngor llawn ar 20 Mawrth 2025.
Gallwch ddarllen adroddiad y swyddog, ymatebion i'r ymgynghoriad a'r Asesiad Effaith Integredig drwy glicio ar y ddolen isod (eitem 6).
Cyngor Sir Ceredigion Agenda Cyngor ar Dydd Iau, 20fed Mawrth, 2025, 10.00 am
Yn dilyn trafodaeth, penderfynwyd yn unfrydol bod y Cyngor yn:
- dilyn yr argymhelliad a wnaethpwyd gan Cabinet i gadw’r penderfyniad “Dim Casinos” yr Awdurdod a bod y penderfyniad yn cael ei gofnodi a’i ychwanegu at y polisi terfynol;
- cymeradwyo'r Datganiad Polisi Gamblo diwygiedig fel y Datganiad o Bolisi Gamblo ar gyfer Ceredigion am y cyfnod 2025-2028;
- cymeradwyo'r argymhelliad gan y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2025 bod taflen yn cael ei hanfon at wahanol Glybiau Chwaraeon yng Ngheredigion, yn tynnu sylw at y materion sy'n codi o ran Gamblo, i'w dosbarthu i'w defnyddwyr.
Ymgynghoriad Gwreiddiol
Mae'n rhaid i'r Awdurdod adolygu ei Ddatganiad o Bolisi Gamblo bob tair blynedd yn gyfreithiol. Cyhoeddwyd yr adolygiad diwethaf ym mis Ionawr 2022.
Mae drafft o'r Polisi diwygiedig bellach ar gael ar gyfer ymgynghori.
Gellir gweld y mân newidiadau arfaethedig fel newidiadau wedi'u holrhain a'u hamlygu mewn coch yn y ddogfen polisi drafft.
Cliciwch ar y ddolen i ddarllen y ddogfen bolisi ddrafft – Datganiad Drafft o Bolisi Gamblo Ceredigion
Sut i gymryd rhan
Cwblhewch ein harolwg ar-lein - Arolwg_Datganiad Drafft o Bolisi Gamblo Ceredigion
Lawrlwythwch gopi o'r arolwg – Arolwg_Datganiad Drafft o Bolisi Gamblo Ceredigion
Gallwch hefyd ofyn am gopi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol, drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom: clic@ceredigion.gov.uk
Dychwelwch gopïau papur i'ch llyfrgell leol neu i Drwyddedu, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymgynghoriad, neu os oes angen copi arnoch o'r Datganiad Drafft Polisi Gamblo a'r arolwg mewn fformat hygyrch gwahanol, ffoniwch ni ar 01545 570881 neu e-bostiwch publicprotection@ceredigion.gov.uk