Skip to main content

Ceredigion County Council website

Bwrw golwg: Adfywio’r Promenâd

Sut olwg fydd arno? 

Dym argraff artist o'r promenâd wedi'i adfywio. Mwy o luniau i ddilyn. 

Pryd fydd y prosiect ar waith?

Dyma linell amser o gerrig milltir allweddol y prosiect:

  • Hydref 2024: Gwaith adeiladu yn dechrau
  • Hydref 2024 - Chwefror 2025: Teras Y Ro Fawr hyd at Gyffordd Tan-y-Cae
  • Ionawr 2025 – Haf 2025: Cyffordd Tan-y-Cae hyd at Heol y Wig
  • Tachwedd 2024 – Haf 2025: Gosod goleuadau stryd o’r Ro Fawr hyd at Heol y Wig. I’w gosod fesul cam yn dilyn y prif waith
  • Gaeaf 2024/25: Lanterni a bracedi golau’r stryd i’w ailosod o Graig-glais hyd at Heol y Wig
  • Gaeaf 2024/25: Gosod Pontydd Troed ger y Castell

Beth am barcio?

Wrth i’r gwaith ddechrau mae trigolion ac ymwelwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio meysydd parcio Talu ac Arddangos Aberystwyth a welir yma ac ystyried y dewisiadau o ran Tocynnau Tymor a welir yma.

Atebion Parcio at y dyfodol

Fel rhan o'r cynllun hirdymor bydd mwy o leoedd parcio ar gael mewn mannau eraill yn y dref. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn wrth i'r datblygiad fynd rhagddo.

Diweddariadau

23.12.24 Mae Rhan 1 o’r prosiect wedi'i gwblhau, gyda wyneb newydd wedi’i osod ar hyd y Ro Fawr a Chyffordd Heol y De ar 19/12/24. Agorwyd y ffordd a'r llwybrau troed ar hyd y promenâd i'r cyhoedd ar 20/12/24, gan gyflawni’r nod o gwblhau cyn y Nadolig. Bydd y tasgau sy’n weddill, gan gynnwys arwyneb effaith coblau’r byrddau arafu, ail-osod bolardiau, a gosod dodrefn stryd, yn cael yn cael eu gwneud yn nes ymlaen. Mae gwaith ar y ramp newydd o Stryd y Cei i fynedfa’r ffordd ger ardal y llwybr wrth ymyl yr harbwr mewnol hefyd yn dod yn ei flaen dda, gyda'r wal ataliol bron â’i gorffen.

Gwaith ar y gweill ar gyfer y Flwyddyn Newydd: Rhwng 6 Ionawr a 2 Chwefror, bydd y ffordd yn cael ei chau o Gyffordd Heol y De ger yr ‘Hut’ i Heol y Brenin ar y Promenâd Newydd. Bydd hyn er mwyn lledaenu’r promenâd, ailadeiladu’r heol, a gwella mynediad cerddwyr i'r Castell. Bydd gwaith Cam 2 ar y wal a'r ramp yn parhau, ynghyd â gwaith paratoi ar gyfer gosod wyneb newydd wedi'i amserlenni ar gyfer canol mis Ionawr.

 

#
#
#
#
#
#

 

16.12.24 Caewyd heol y Ro Fawr er mwyn gosod wyneb ffordd orffenedig, a rhagwelir y bydd y gwaith heblaw am yr wyneb coblau ger cyffordd Heol y De yn cael ei gwblhau erbyn 20 Rhagfyr. Gosodwyd systemau draenio newydd, i fynd i'r afael â dŵr wyneb a nodwyd yn ddiweddar o ganlyniad i Storm Darragh ac ar achlysuron cyn hynny. Gellir gweld y lle croesi canolog bellach gyda’r rampiau wedi'u gosod, a bydd ramp newydd yn cael ei gosod yn lle’r stepiau i ardal bicnic y castell a fydd yn gwella hygyrchedd o gaban 'The Hut'. Mae gwaith cerrig a phafin o amgylch y potiau planhigion newydd yn dod yn eu blaen, tra bod Cam 2 sef tyllu ar gyfer ramp newydd ger ardal y llwybr wrth ymyl yr harbwr mewnol wedi cychwyn, a'r sylfeini wedi'u gosod ar gyfer wal isel i gynnal y ramp.

Ymhlith y gwaith a ddaw cyn bo hir fydd gwaith adeiladu ffordd parataol ar hyd Y Ro Fawr a ger Heol y De yn parhau, ar gyfer gosod y wyneb ffordd orffenedig.

Bydd Gwaith adeiladu’r wal a ramp Cam 2 yn parhau hefyd.

 

#
#
#
#
#
#
#
#

 

27.11.24 Mae cynllun newydd cyffordd Tan y Cae bellach wedi ei wneud a gosodwyd y sylfeini ar gyfer blychau’r planhigion. Cwblhawyd y croesfannau a’r palmentydd ar hyd y Ro Fawr ac mae lanterni a bracedi addurniadol y goleuadau stryd rhwng Trwyn y Castell a Heol y Wig wedi eu gosod. Mae’r arbrawf o chwistrellu’r slabiau presennol â dŵr wedi llwyddo i gydweddu’r hen ddeunydd a’r newydd gan gynnig golwg ddi-dor ar hyd y promenâd.

Ymhlith y gwaith a ddaw cyn bo hir fydd adeiladu blychau newydd i blanhigion a dechrau ar y gwaith maen, gosod llinellau ar hyd y cyrbiau wrth The Hut, a pharatoi sail y palmant newydd. Bydd y gwaith o osod goleuadau stryd yn parhau ar hyd y Ro Fawr. Mae’r gwaith o baratoi ar gyfer Cam 2 yn bwrw iddi, a bydd y gwaith o osod ramp isel rhwng Ffordd y Cei a’r ffordd fynediad i’r maes parcio yn dechrau ar 25 Tachwedd.  

 

#
#
#
#
#
#

 

14.11.2024 Mae’r gwaith ar y cyrbiau ac o ran lledu’r heol bron wedi'i gwblhau ar y Ro Fawr. Mae colofnau newydd y goleuadau stryd bellach wedi'u gosod a goleuadau LED dros dro wedi cael eu trosglwyddo o'r hen golofnau. Mae gwaith wedi dechrau ger The Hut ar gyffordd Tan y Cae i osod llinellau newydd wrth y cyrbiau a chael gwared ar yr ynys draffig, ac mae’r gwaith yn bwrw ymlaen yn dda diolch i’r tywydd ffafriol.

Rhoddwyd caniatâd gan CADW parthed yr Heneb Gofrestredig, ac mae modd nawr dyfarnu contract newydd ar gyfer dwy bompren y Castell. Bydd dyluniad y ddwy bompren newydd yn debyg iawn i’r pontydd pren presennol. Mae’r llinellau wrth gyrbiau cyffordd Tan y Cae / Y Ro Fawr ar eu newydd wedd a bellach ar waith, ac mae slabiau, goleuadau a sylfeini ar gyfer blychau’r planhigion i ddod ger y Ro Fawr. Hefyd mae’r darnau sy’n ymwthio i’r heol ar hyd y Ro Fawr ar fin cael eu cwblhau.

 

#
#
#
#
#
#

 

04.11.2024 Mae’r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo’n dda ar brosiect Promenâd Aberystwyth. Mae’r mynediad concrit i ramp yr RNLI gyferbyn â Ffordd y Cei wedi cael ei gwblhau. Mae’r gwaith draenio, y pibelli trydan, a’r sylfeini ar gyfer colofnau newydd y goleuadau stryd wedi dechrau. Mae’r cyrbiau ar hyd ymyl yr heol newydd yn mynd rhagddynt yn dda ac mae’r droedffordd rhwng Ffordd y Cei a’r Ro Fawr wedi’i pharatoi ar gyfer ei hadfer. Bydd y cyrbiau yn cael eu hintegreiddio yn y llwybrau presennol.
 
Mae’r gwaith o osod y palmant rhwng Ffordd y Cei a’r Ro Fawr yn agosáu at y diwedd ac mae’r promenâd lletach yn dod yn amlwg gan argoeli lle gwell ar y cyd ar gyfer cerddwyr a beicwyr. Mae’r cyrbiau ar hyd y Ro Fawr yn parhau yn ôl yr amserlen ac mae’r gwaith o osod colofnau’r goleuadau stryd, ynghyd â bracedi addurniadol o Heol y Wig i Drwyn y Castell, wedi ei gwblhau. Rydym yn disgwyl am lanterni newydd ar gyfer y rhain a’r disgwyl yw y daw nhw’n hwyrach eleni. Hefyd bydd y gwaith ar y systemau draenio, y pibelli, a’r sylfeini ar gyfer y goleuadau stryd yn parhau drwy gydol yr wythnos.

 

#
#
#
#
#
#

 

16.10.24: Dechreuodd y gwaith ar Bromenâd Aberystwyth ar 9 Hydref 2024. Mae Tregaron Trading Services Ltd (TTS) wedi sefydlu cyfleusterau lles ac ardal storio ger Y Ro Fawr a Heol Minafon. Canolbwyntiodd y gwaith adeiladu cychwynnol ar osod cyrbau rhwng Stryd y Cei a Y Ro Fawr, ac mae amlinelliad y mannau parcio newydd i'w gweld erbyn hyn. Mae gwaith rheoli traffig a rhwystrau wedi cael eu gosod ar gyfer y gwelliannau sydd ar ddod i'r cyrb a'r droedffordd. Yr wythnos nesaf, bydd gwaith cyrb a throedffordd yn parhau, a bydd paratoadau ar gyfer gosod goleuadau stryd newydd yn dechrau.

 

#
#
#
#
#

Rhoddir diweddariadau rheolaidd ynglŷn â hynt y prosiect ar y dudalen hon.

Os hoffech gael eich hysbysu pan fydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru, anfonwch eich manylion cyswllt at PromAber@ceredigion.gov.uk i'w hychwanegu at ein rhestr bostio.