Skip to main content

Ceredigion County Council website

Mae pob Diwrnod yn Cyfri

Drwy fod eich plentyn yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd ac ar amser byddwch yn helpu i sicrhau ei fod yn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion ac Ysgolion Ceredigion yn benderfynol o sicrhau fod pob plentyn yn cyflawni ei botensial llawn o ran dysgu a datblygu. Er mwyn i ddisgyblion wneud y mwyaf o'u haddysg mae'n hanfodol eu bod yn mynychu'n rheolaidd ac ar amser, bob diwrnod y mae'r ysgol ar agor, oni bai nad oes modd osgoi bod yn absennol.

Rydym yn cydnabod fod plant a phobl ifanc yn sâl o bryd i’w gilydd ac yn methu dod i'r ysgol, neu efallai fod argyfwng teuluol yn codi. Rydym hefyd yn cydnabod fod lles emosiynol eich plentyn yn bwysig iawn. Os ydych yn becso bod eich plentyn yn absennol yn rheolaidd o achos ei les emosiynol, cysylltwch â ni i gael cyngor a chymorth.

Cofiwch fod pob diwrnod yn cyfri!

Nid yw diwrnod bob hyn a hyn yn edrych fel llawer ond...

Prsenoldeb mewn un flwyddyn ysgol Diwrnodau a gollir Sesiynau a gollir Wythnosau a gollir Gwersi a gollir (5 gwers y dydd)
95% 9 diwrnod 18 sesiwn 1.4 wythnos 45 gwers
90% 19 diwrnod 38 sesiwn 3.4 wythnos 95 gwers
85% 29 diwrnod 58 sesiwn 5.4 wythnos 145 gwers
80% 36 diwrnod 72 seiswn 7.1 wythnos 180 gwers
75% 48 diwrnod 96 seiswn 9.3 wythnos 240 gwers
70% 57 diwrnod 114 seiswn 11.2 wythnos 285 gwers
65% 67 diwrnod 134 seiswn 13.2 wythnos 335 gwers

Mae amryw o resymau pam y dylai plant fynychu’r ysgol:

  • Dysgu sgiliau newydd
  • Gwneud cysylltiadau cymdeithasol a ffrindiau
  • Eu datblygu a'u paratoi ar gyfer dysgu drwy gydol eu bywydau
  • Bod yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • Dod yn unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Rhaid i blant gael addysg o’r tymor ysgol ar ôl eu pen-blwydd yn bump oed hyd at y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fyddant yn troi’n 16 oed. Mae’r rhan fwyaf o blant yng Nghymru yn cael eu haddysgu yn yr ysgol, ond mae rhai rhieni/gofalwyr yn dewis addysgu eu plant gartref.

Hoffem atgoffa rhieni/gofalwyr mor bwysig yw sicrhau fod pob plentyn yn mynychu’r ysgol ar amser. Bydd disgyblion sy’n cyrraedd ar ôl i gofrestr yr ysgol gau yn cael eu cofnodi fel hyn:

  • L – hwyr, a chyn i’r gofrestr gau - pan fydd eich plentyn ychydig funudau yn hwyr; neu
  • U – hwyr, ar ôl i’r gofrestr gau - mae hyn yn cyfri fel absenoldeb anawdurdodedig (absenoldeb heb ganiatâd)

Mae cyrraedd yr ysgol yn hwyr nid yn unig yn amharu ar addysg yr un sy'n hwyr ond hefyd ar y disgyblion hynny sydd eisoes yn yr ysgol. Mae cyrraedd 5 munud yn hwyr bob dydd yn gallu arwain at golli 3½ o ddiwrnodau llawn dros y flwyddyn. Mae cyrraedd 30 munud yn hwyr bob dydd yn gallu arwain at golli bron i 21 o ddiwrnodau llawn dros y flwyddyn!

Mae bod ar amser:

  • yn rhoi dechreuad da i ddiwrnod eich plentyn ac yn rhoi eich plentyn mewn ffordd gadarnhaol o feddwl er mwyn gwneud y mwyaf o’r addysg
  • yn gosod patrymau cadarnhaol ar gyfer y dyfodol
  • yn arwain at bresenoldeb da
  • yn arwain at gyflawni mwy
  • yn arwain at ddeall bod yr ysgol yn bwysig a bod addysg yn werthfawr
  • yn helpu eich plentyn i ddatblygu cyfrifoldeb drosto’i hun a thros eraill
  • yn helpu eich plentyn i wneud ffrindiau a chadw ffrindiau
  • yn dod â manteision; mae'n arwain at lwyddiant a hunanhyder

Os bydd eich plentyn yn absennol, cysylltwch â’i ysgol drwy e-bost neu dros y ffôn gan adael y manylion canlynol:

  • Enw'r disgybl
  • Pa flwyddyn
  • Natur y salwch/rheswm dros yr absenoldeb
  • Dyddiad y disgwylir iddo/iddi ddychwelyd
  • Enw a pherthynas y cysylltwr â'r disgybl

Rhaid i chi gysylltu â'r ysgol cyn gynted â phosib yn y bore ar bob diwrnod o absenoldeb. Os na fydd yr ysgol yn clywed gennych, byddant yn ffonio neu'n tecstio ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb. Yn achos cyfnod hir o absenoldeb, mae’n bosib y bydd yr ysgol yn cysylltu â'r Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg i wirio lles y plentyn.

Rhaid i ni bwysleisio nad yw'r sefyllfa wedi newid o ran gwyliau yn ystod y tymor ac na ddylai rhieni ddisgwyl y byddai’r ysgol yn cytuno, fel rheol, i gais am wyliau teuluol yn ystod y tymor.

Wrth ystyried cais am wyliau yn ystod y tymor mae'r canlynol yn cael eu hystyried:

  • Hanes eich plentyn o ran presenoldeb
  • A oes gwyliau wedi eu cymryd eisoes yn ystod y flwyddyn ysgol
  • Pa gyfnod addysgol y mae eich plentyn arno
  • Yr adeg o'r flwyddyn (arholiadau ac ati)
  • Natur y daith (amgylchiadau eithriadol)

Efallai y bydd adegau pan na fydd ysgol eich plentyn yn cytuno i’r absenoldeb, hyd yn oed mewn amgylchiadau eithriadol.

Os oes gan rieni blant mewn mwy nag un ysgol, rhaid gwneud cais ar wahân i bob ysgol. Bydd Pennaeth pob ysgol yn gwneud ei benderfyniad ei hun ar sail y ffactorau sy’n ymwneud â’r plentyn sydd yn ei ysgol.

Os byddwch yn mynd â'ch plentyn ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol heb ganiatâd y pennaeth, bydd hyn yn cael ei gofnodi fel absenoldeb anawdurdodedig (absenoldeb heb ganiatâd). Gellir gofyn i’r ysgol am ffurflen i wneud cais am wyliau.

  • Gall rhieni dderbyn llythyr oddi wrth yr ysgol yn eu hysbysu o bresenoldeb eu plentyn a nifer y diwrnodau a gollwyd
  • Os bydd presenoldeb yn parhau i fod yn bryder gall yr ysgol wahodd y rhieni i mewn am gyfarfod a gellir gwahodd y Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg neu asiantaethau perthnasol eraill hefyd
  • Yn dilyn y cyfarfod, os bydd presenoldeb eich plentyn yn parhau i fod yn bryder gall yr ysgol gyfeirio’r mater i’r Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg
  • Eich cyfrifoldeb cyfreithiol chi yw sicrhau fod eich plentyn yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd ac os bydd yn absennol o'r ysgol heb reswm da, gall hyn arwain at gyflwyno hysbysiad o gosb benodedig neu erlyn. Mae bod yn absennol o'r ysgol yn rheolaidd yn effeithio ar batrwm dysgu’r plentyn a gall effeithio'n ddifrifol ar ei addysg

Os bydd y ganran presenoldeb o gwmpas neu o dan 90% caiff disgybl ei ddiffinio fel un sy’n absennol yn gyson.

Dydd Llun Dydd Mawrth Dydd Mercher Dydd Iau Dydd Gwener
            X      

Mae presenoldeb o 90% yn golygu bod y disgybl yn:

  • Colli hanner diwrnod bob wythnos
  • Colli dros bedair wythnos o ysgol mewn blwyddyn
  • Colli hanner blwyddyn ysgol dros gyfnod o bum mlynedd

Rydym yn cydnabod fod sefyllfa pawb yn wahanol. Os ydych yn teimlo fod sefyllfaoedd yn eich bywyd chi neu ym mywyd eich plentyn sy’n rhwystr rhag mynychu’r ysgol ar amser, gallwch gael cyngor a chymorth oddi wrth eich ysgol neu’r Awdurdod Lleol. Rydyn ni i gyd yma i’ch helpu a’ch cefnogi.

Mae gennych rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu’ch plentyn/plant i ddatblygu patrymau iach o ran presenoldeb:

  • Sefydlu patrymau rheolaidd ar gyfer mynd i’r gwely ac yn y bore
  • Trefnu apwyntiadau meddygol a deintyddol ar ôl ysgol neu yn ystod y gwyliau
  • Osgoi cymryd gwyliau yn ystod y tymor
  • Anfon y plant i'r ysgol bob dydd oni bai eu bod yn sâl
  • Gwneud yn siŵr eich bod ar amser
  • Canmol a gwobrwyo presenoldeb da – hyd yn oed llwyddiannau bychain e.e. cyrraedd yn brydlon
  • Gwybod beth yw trefn arferol y diwrnod ysgol er mwyn osgoi problemau e.e. a yw’r cit ymarfer corff gyda nhw?
  • Os oes problem, siaradwch yn dawel gyda'ch plentyn a gwrandewch ar yr esboniad
  • Os ydych yn becso am bresenoldeb eich plentyn, siaradwch â'r ysgol cyn gynted ag y bo modd. Efallai y gallwn eich helpu a’ch cefnogi chi a’ch plentyn. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun