Canllaw i Dirfeddianwyr ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus
Mae gan Geredigion dros 2500km o Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy’n cael eu hystyried fel rhan o’r Rhwydwaith Priffyrdd Cyhoeddus ac yn cael eu gwarchod gan y gyfraith.
Mae’r Map a’r Datganiad Diffiniol, a gedwir gan Gyngor Sir Ceredigion, yn dystiolaeth bendant o fodolaeth Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Gellir anfon cais i weld y dogfennau hyn drwy Clic - Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Mae cynrychiolaeth ddigidol ar gael yma Map Hawliau Tramwy.
Mae'r cyfrifoldeb dros gynnal y rhwydwaith hwn yn cael ei rannu rhwng tirfeddianwyr a Thîm Hawliau Tramwy Cyngor Sir Ceredigion.
Mae'r hawliau tramwy hyn yn cynnwys:
Llwybr troed – mae gan y cyhoedd yr hawl i basio ar droed a gyda chymorth symudol os yw'n briodol.
Lwybr marchogaeth – mae gan y cyhoedd hawl tramwy ar droed, ar geffyl neu ar feic.
Cilffordd gyfyngedig – mae gan y cyhoedd Hawl Tramwy ar droed, ar geffyl neu feic ac mewn cerbyd nad yw'n cael ei yrru'n fecanyddol e.e. ceffyl a chart.
Cilffordd i bob traffig – mae gan y cyhoedd hawl tramwy ar droed, ar geffyl, ar feic, mewn cerbyd a dynnir gan geffyl neu gerbyd modur.
Caniateir cŵn (o dan reolaeth agos), cadeiriau gwthio a phramiau ar bob math o Hawl Tramwy Cyhoeddus gan eu bod yn cael eu hystyried yn gyfeilyddion arferol i ddefnyddiwr llwybr cyfreithlon.
Rhaid i unrhyw un sy'n defnyddio Hawliau Tramwy Cyhoeddus drin y tir y maent yn ei groesi â pharch a dilyn Y Côd Cefn Gwlad bob amser.
Mae gan dirfeddianwyr neu denantiaid tir lle mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus, ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau hygyrchedd mynediad i’r cyhoedd. Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus sydd wedi’u cyfeirnodi’n glir, eu cynnal yn dda ac yn hawdd i’w defnyddio, yn atal y cyhoedd rhag mynd ar goll a sicrhau eu bod yn cadw ar y llwybr cywir ac yn cadw’n ddiogel.
Cyfrifoldebau Cynnal a Chadw a Rennir
Gatiau a Chamfeydd
Mae angen gatiau er mwyn rheoli stoc ac mae’r cyfrifoldeb hwn ar y tirfeddiannwr. Dylent fod yn ddiogel, yn hawdd eu defnyddio ac yn addas i’w ddiben. Tirfeddianwyr sy’n gyfrifol am unrhyw anaf a achosir gan gatiau sydd heb eu cynnal mewn ardaloedd Hawliau Tramwy Cyhoeddus ar eu tir.
Mae angen caniatâd yr Awdurdod Lleol cyn gosod unrhyw gatiau ychwanegol ar draws Cawliau Tramwy Cyhoeddus, a dim ond o dan amgylchiadau penodol y gellir ei ganiatáu.
Fel ymrwymiad i ddarparu'r mynediad lleiaf cyfyngol, nid yw Cyngor Sir Ceredigion bellach yn cefnogi gosod camfeydd. Gall tirfeddianwyr osod camfeydd lle mai dyma a gofnodir yn y Datganiad Diffiniol.
Rhaid i gatiau a chamfeydd gydymffurfio â'r Safonau Prydeinig lleiaf sydd i'w gweld yma (Saesneg yn unig):
British Standard BS5709 for gaps gates and stiles - divio-media.org
Pontydd
Os mai dim ond at ddiben mynediad ar hyd Hawliau Tramwy Cyhoeddus, mae’n gyfrifoldeb Cyngor Sir Ceredigion. Lle mae pont ar gyfer mynediad cyhoeddus a phreifat, yna gall y Cyngor rannu rhywfaint o gyfrifoldeb gydag unrhyw ddefnyddiwr preifat.
Ffensio
Rhaid i dirfeddianwyr a deiliaid sicrhau nad yw ffensys yn rhwystro na chyfyngu mynediad i Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Nid yw gwifren bigog yn dderbyniol ar neu ger Hawliau Tramwy Cyhoeddus ac ni ddylid byth ei osod ar byst sy'n ffurfio rhan o gatiau na chamfeydd. Mae tirfeddianwyr a deiliaid tir yn atebol am ddifrod neu anaf a achosir gan wifren bigog a ddefnyddir yn amhriodol ar neu ger Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
Mae ffensys trydan, p'un a ydynt wedi'u trydanu ai peidio, yn ddarostyngedig i'r un rheolau â'r holl ffensys eraill. Rhaid arddangos arwyddion rhybudd clir yn rheolaidd ar ei hyd. Mae angen awdurdodiad gan y Cyngor i osod ffens drydan ar draws Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Pan fydd hyn yn cael ei ganiatáu, dylid gosod man pasio addas ar gyfer diogelwch y cyhoedd gydag arwyddion rhybudd clir yn cael eu harddangos.
Os bydd angen ffens newydd a fydd yn croesi Hawliau Tramwy Cyhoeddus rhaid diogelu mynediad cyhoeddus bob amser.
Lled y Llwybr
Nid oes lled safonol ar gyfer unrhyw Hawliau Tramwy Cyhoeddus eithrio'r hyn a gofnodwyd yn y Datganiad Diffiniol. Os yw Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn dilyn llwybr neu lôn ddiffiniedig, tybir bod yr hawl yn ymestyn i'r lled llawn.
Lle na ellir diffinio lled Hawliau Tramwy Cyhoeddus gan yr un o'r uchod, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn anelu at gynnal o leiaf y lled hwn:
- Ar draws cae: llwybr troed – 2.5m, llwybr marchogaeth 3.5m, cilffordd 4.5m
- Llwybr ymyl cae: llwybr troed - 2.5m, llwybr marchogaeth 3.5m, cilffordd 4.5m
Arwynebau’r Llwybr
Mae'r rhan fwyaf o dir Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn croesi tir preifat, fodd bynnag mae'r wyneb wedi'i 'freinio' o fewn y Cyngor Sir. Mae hyn yn golygu y bydd y Cyngor yn gyfrifol am gynnal wyneb Hawliau Tramwy Cyhoeddus i safon addas ar gyfer eu defnydd arfaethedig.
Pan fydd Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn rhannu llwybr gyda hawliau preifat megis llwybr mynediad i eiddo, bydd y Cyngor yn cynnal yr wyneb i fod yn addas ar gyfer hawl y cyhoedd.
Mae'n drosedd tarfu ar wyneb Hawliau Tramwy Cyhoeddus, heblaw aredig, heb awdurdod gan y Cyngor. Os bwriedir aredig arwyneb Hawliau Tramwy Cyhoeddus sy'n croesi cae, yna mae'n rhaid ei adfer i arwyneb cadarn, llyfn o fewn 14 diwrnod. Rhaid hefyd cadw llinell Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn glir o unrhyw gnydau sy'n tyfu i atal rhwystr.
Gwrychoedd, Coed a Llystyfiant
Mae’r tirfeddiannwr neu’r meddiannydd yn gyfrifol am dorri twf ochrau ac uwchben yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus er mwyn atal meddiant llystyfiant a rhwystr ar y llwybrau. Mae’r Cyngor yn gyfrifol am dorri llystyfiant arwyneb.
Perchennog y tir/meddiannydd sy'n gyfrifol am goed a changhennau sydd wedi cwympo a rhaid eu clirio'n brydlon er mwyn peidio â bod yn rhwystr.
Mwy o Wybodaeth
Mae mwy o wybodaeth am Hawliau Tramwy Cyhoeddus, pwy all eu defnyddio a phwy sy'n gyfrifol am eu cynnal a chadw, ar gael yma:
Hawliau Tramwy Cyhoeddus - LLYW.CYMRU
Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng Nghymru - Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae NFU, UAC, CLA a TFA hefyd yn cynhyrchu canllawiau ac yn darparu gwybodaeth i'w haelodau.