Skip to main content

Ceredigion County Council website

Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn £50,000 gan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer 2018/19 (a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a weinyddir gan Gyngor Gweinyddu Gwirfoddol Cymru) i wneud gwelliannau yng nghyffiniau Bryngaer Pen Dinas yn Aberystwyth.

Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i helpu i gael mwy o fynediad i safle o bwysigrwydd hanesyddol (Bryngaer Pen Dinas, Gwarchodfa Natur Leol a Heneb Gofrestredig) a darparu gwell cyswllt i’r Llwybrau Beicio Ystwyth/Rheidol, Llwybr Arfordir Ceredigion a Chymru a chyfleusterau ac atyniadau lleol eraill. Bydd gwella lled ac arwyneb y llwybrau yn hwyluso mynediad i drawstoriad ehangach o bobl leol ac ymwelwyr ac yn targedu’r rhwystrau presennol at gefn gwlad.

Yn rhan o’r prosiect, yr ydym yn bwriadu ymgysylltu â thrigolion lleol er mwyn iddynt fod yn rhan o’r gwaith a fydd yn cael ei wneud; gall hyn gynnwys gwirfoddoli amser i helpu â gwaith ymarferol neu drwy ddarparu syniadau ynglŷn â sut y gellir gwella’r safle ymhellach; am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r prosiect neu ynglŷn â sut y gallwch chi gymryd rhan, anfonwch e-bost at clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881 a gofynnwch i siarad ag aelod o’r tîm.