Gwarchodfa Natur Cilgerran
Roedd Cyngor Sir Ceredigion yn ffodus i dderbyn £50,000 o gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Cynnal y Cardi, sy’n ceisio cefnogi datblygiad economaidd Ceredigion, ac £20,000 gan Raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur sef cynllun a fwriadwyd i alluogi ardaloedd o amddifadedd i wella ac adfer byd natur ar drothwy’r drws.
Mae’r cyllid wedi ein galluogi i adnewyddu’r hen lwybr pren sydd wedi pydru, trwy Warchodfa Natur Cilgerran, cartref Corsydd Teifi sef un o’r safleoedd gwlyptir gorau yng Nghymru, a gosod llwybr pren mynediad aml-ddefnyddiwr diogel wedi’i wneud o blastig wedi’i ailgylchu yn ei le.
Mae Corsydd Teifi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC) ac yn cynnig y cyfle i weld cyfoeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys glas y dorlan, dyfrgwn, byffalo dŵr, gïach, y gylfinir, gwiberod a math o was y neidr. Gellir dod o hyd i amrywiaeth o gynefinoedd yma hefyd gan gynnwys tir pori agored, gwrychoedd coediog, banciau llaid llanw a thrai, a thir cors.
Mae’r gwelliannau i’r llwybr pren yn cynnig cyfle i bobl fynd allan i archwilio byd natur mewn modd mwy diogel a hygyrch.
Gellir mwynhau’r llwybr pren fel rhan o daith gylchol fer (2.9KM/1.8 milltir) drwy’r corsydd, gan roi cyfleoedd i ymweld â rhai o’r cuddfannau niferus ar hyd y ffordd a gweld rhywfaint o fywyd gwyllt.