Cenarth
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gyhoeddi fod y gwaith o osod llwybr pren pwrpasol ar hyd Afon Teifi yng Nghenarth wedi gwblhau.
Ariannwyd y cynllun drwy rhaglen gyfalaf y Cyngor a grant gan gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru. Derbyniwyd rhodd hefyd gan Gyngor Cymuned Beulah.
Mae gwella lled ac arwyneb y llwybr wedi cynyddu mynediad i groestoriad ehangach o drigolion ac ymwelwyr ac mae’n dyst i ymrwymiad y Cyngor i dargedu cael gwared ar rwystrau i gael mynediad i gefn gwlad a chymhwyso’r egwyddorion mynediad lleiaf cyfyngol.
Mae gwirfoddolwyr lleol wedi bod yn allweddol i lwyddiant y prosiect yn y broses adeiladu gychwynnol ac wrth helpu i gynnal y llwybr pren er mwynhad cenedlaethau’r dyfodol.
Gellir hefyd gwneud rhoddion tuag at reoli a datblygu’r llwybr pren yn y dyfodol ar-lein ar y tudalen Taliad Ar-lein.