Cynllun Cefnogi Clwydi
Os ydych yn mwynhau cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion ac os hoffech gefnogi’r gwaith caled sydd ynghlwm gyda chynnal a chadw llwybr a thirlun byd-enwog, gallwch helpu drwy gyfrannu at ein cynllun Cefnogi Clwydi.
Mae yna 200 eitem o gelfi unigol megis gatiau, pontydd, arwyddbyst ar hyd Llwybr Arfodir Ceredigion; cysylltwch â’r Tîm Llwybrau Cyhoeddus i drafod eich dewis le (gweler manylion cyswllt ar y gwaelod).
Bydd pob eitem yn cynnwys plac wedi ei bersonoli, sy’n rhoi’r opsiwn i chi gyfrannu er cof am rywun annwyl, fel rhodd i rywun arbennig, drwy gyfrwng eich cwmni/sefydliad neu hyd yn oed yn eich enw eich hun.
Manylion allweddol am y cynllun:
- Mae cost cyfranu yn gallu dibynu ar yr eitem a’i leoliad. Isod ceir gwybodaeth ynghylch cost gwahanol eitemau:
- Gatiau - £250
- Arwyddbyst (pyst pren yn unig) - £600
- Pontydd - £1000
- Bydd y cyfraniad am gyfnod o 10 mlynedd
- Fel rhan o’r cyfraniad, cynigir plac wedi ei bersonoli a bydd yr Awdurdod Lleol yn gosod y plac hwnnw ar yr eitem unigol. Mae’r plac pres yn mesur tua 6x2 modfedd. Os caiff yr eitem ei adnewyddu yn ystod y cyfnod o 10 mlynedd, caiff y plac ei roi ar yr eitem newydd
- Ar ddiwedd y cyfnod o10 mlynedd, bydd rhywun yn cysylltu gyda’r cyfranwyr i weld a ydynt am barhau gyda’r cyfraniad am gyfnod o 10 mlynedd arall
- Fel rheol dim ond un plac gaiff ei roi ar bob eitem o gelfi a chaiff ei osod ar yr eitem yn dilyn trafodaethau rhwng yr unigolyn/busnes/sefydliad a’r Awdurdod Lleol (gwelwch telerau ac amdodau)
- Bydd yr incwm a gynhyrchir gan y cynllun ‘Rhoi Gât’ yn cefnogi’r broses o gynnal a chadw’r Llwybr anhygoel hwn ar hyd yr arfordir yn ogystal â rhwydwaith ehangach
- Gellir rhoi’r geiriau isod ar y placiau:
- ‘Cyflwynedig i (ychwanegwch enw)'
- ‘Rhoddwyd gan (ychwanegwch enw)’
- Gellir gweld rhestr lawn o'r telerau ac amodau ar y ffurflen gais
Os hoffech ‘Roi Gât’ lawrlwythwch y ffurflen gais ac wedi i chi ei llenwi, dychwelwch hi at clic@ceredigion.gov.uk.
Fel arall gallwch ei dychwelyd drwy’r post at Yr Arfordir a Chefn Gwlad, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA.
Taliadau
Mae yna nifer o ffyrdd y gellwch dalu; arian parod, siec, cardiau credyd/debyd. Trafodwch hyn o flaen llaw gydag aelod o’r tîm i gadarnhau pa ddull yw’r mwyaf cyfleus i chi.
Meinciau
Ein hamcan cyffredinol yw cael cyn lleied o gelfi â phosibl ar hyd Llwybr yr Arfordir a lleoli meinicau yn y llefydd mwyaf addas yn unig. Dros y blynyddoedd, rydym wedi cael ceisiadau niferus i osod meinciau mewn llefydd poblogaidd ar hyd y llwybr, mae llif cyson y ceisiadau yn golygu i ni orfod gwrthod rhai yn y gorffennol. Er mwyn osgoi siom, awgrymwn fod y sawl sydd am gofio am anwyliaid yn ystyried ein cynllun ‘rhoi gât’ fel dewis arall posibl yn hytrach na rhoi meinciau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Am fwy o wybodaeth am y cynllun ‘Rhoi Gât’ cysylltwch â’r Tîm Arfordir a Chefn Gwlad drwy ffonio 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.