Apwyntiad Fforwm Mynediad Lleol 2022-2025
Sefydlwyd Fforwm Mynediad Lleol Ceredigion yn 2002, yn unol â gofynion Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
Mae’r Fforwm wedi dod i ddiwedd ei gyfnod tair blynedd cyfredol, ac mae trefniadau ar waith i benodi Fforwm ‘newydd’. Bydd yr aelodaeth yn para am gyfnod o dair blynedd o ddyddiad cyfarfod cyntaf y Fforwm newydd. Gall y Fforwm gynnwys rhwng 12 a 22 o aelodau.
Swyddogaeth y Fforwm yw cynghori’r awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill sy’n gweithredu swyddogaethau’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy ynglŷn â darparu gwell mynediad i’r cyhoedd at dir yn yr ardal ar gyfer hamdden awyr agored a mwynhau’r ardal. O dan y gyfraith, mae’n rhaid bod y cyrff hynny’n rhoi sylw i gyngor perthnasol y mae’r Fforwm yn ei roi.
Mae rheoliadau Llywodraeth Cymru’n rheoli gweithrediad y Fforwm, gan gynnwys:
- Sefydlu’r Fforwm
- Gweinyddu’r Fforwm
- Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd
- Sefydlu is-bwyllgor o’r Fforwm
- Terfynu aelodaeth
- Cynnal cyfarfodydd y Fforwm
- Adroddiadau Blynyddol
- Hysbysu ynghylch penodiadau i’r Fforwm.
Swyddogaeth y Fforwm
Mae’r Fforwm yn rhoi cyngor ynglŷn ag agweddau ar fynediad cyhoeddus yn yr ardal, gan gynnwys hawliau tramwy cyhoeddus a’r hawl i fynediad at gefn gwlad agored a thir comin cofrestredig. Bydd y Fforwm yn ystyried pob math o fynediad, gan gynnwys marchogaeth ceffylau, beicio, gyrru oddi ar y ffordd a mynediad i gerddwyr.
Ceir rhai materion y mae’n rhaid ymgynghori â’r Fforwm Mynediad Lleol yn eu cylch yn statudol. Mae’r rheiny’n cynnwys:
- Gwneud is-ddeddfau mewn perthynas â thir mynediad;
- Penodi wardeiniaid ar gyfer tir mynediad;
- Llunio neu adolygu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy; a
- Ceisiadau am eithriadau neu gyfyngiadau hirdymor ar dir mynediad-i-fynediad.
Yn ogystal â chynghori’r Cyngor ar faterion a gaiff ei gyfeirio ato, mae Fforwm Mynediad Lleol, yn yr un modd â Fforymau eraill yng Nghymru, yn cael ei annog i osod ei agenda ei hunan o fewn y cylch gorchwyl cyffredinol a bennir yn y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy. Cyflwynir y rhaglen waith yn adroddiad blynyddol y Fforwm. Bydd y rhaglen waith flynyddol yn amrywio o un flwyddyn i’r llall, a’r Fforwm yn bennaf sy’n penderfynu ar ei gynnwys. Er enghraifft, cyflwynir rhaglen waith y Fforwm ar gyfer 2017-18 yn yr Atodiad.
Ceir rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd Fforwm Mynediad Lleol Ceredigion a’i Adroddiadau Blynyddol, ar tudalen Fforwm Mynediad Lleol.
Meini Prawf ar gyfer Dethol
Isod ceir rhestr o feini prawf a ddefnyddir wrth arfarnu ceisiadau. Ni fydd yn rhaid i ymgeiswyr fodloni pob un o’r meini prawf i gael eu dethol.
Mae’n hanfodol y bydd Aelod o’r Fforwm:
- Yn ymroi i swyddogaeth y Fforwm Mynediad Lleol, hynny yw, rhoi cyngor ar wella mynediad i’r cyhoedd at dir yn yr ardal ar gyfer hamdden awyr agored a mwynhau’r ardal;
- Yn fodlon ac yn medru chwarae rhan gyflawn ymhob agwedd ar waith y Fforwm – efallai na fydd pobl nad ydynt ond yn fodlon cynrychioli buddiant penodol a chul yn aelodau addas.
- Yn fodlon cymryd rhan yng ngwaith is-bwyllgorau’r Fforwm.
Mae’n ddymunol y bydd Aelod o’r Fforwm:
- Yn meddu ar brofiad helaeth o faterion sydd a wnelont â mynediad yn yr ardal;
- Yn byw yn ardal y Fforwm, yn arbennig o gyfarwydd â’r ardal honno neu gyda buddiannau eraill sy’n berthnasol i’r ardal;
- Yn medru meithrin cyswllt gydag amrywiaeth helaeth o sefydliadau ac unigolion, gyda’r nod o ledaenu’r gair am waith y Fforwm.
- Yn medru dod i bob cyfarfod o’r Fforwm (ni chaniateir dirprwyon).
Ni roddir tâl i aelodau o’r Fforwm, ond byddant yn medru hawlio treuliau rhesymol gan gynnwys costau gofal ar gyfer plant a dibynyddion sy’n oedrannus neu’n anabl.
Yn dilyn ceisiadau
Mi fydd yr Awdurdod yn gwneud arolwg o bob cais cyn gwneud penderfyniad i apwyntio aelodau newydd yn seiliedig ar gofynion Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad(Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001. Mae’n bosib bydd angen i ddarpar aelodau fynychu cyfweliadau yn seiliedig ar nifer a safon y ceisiadau a dderbyniwyd.
Mi wneith yr Awdurdod gysylltu a pob ymgeisydd llwyddiannus yn dilyn yr arolwg. Mi wenwn ymdrechi i gysylltu ag ymgeiswyr aflwyddiannus hefyd ond bydd hyn seiliedig ar nifer y ceisiadau a dderbyniwyd.