Gwarchodfeydd Natur Lleol a Safleoedd Bywyd Gwyllt
Mae tri warchodfa natur leol yng Ngheredigion, y tri ohonynt yn Aberystwyth - Coed y Cwm, Pen Dinas a Thanybwlch a Pharc Natur Penglais. Dynodwyd y safleoedd hyn oherwydd eu gwerth o safbwynt eu bywyd gwyllt a'u gwerth cymunedol ac addysgol.
Gwarchodfa Natur Leol Coed y Cwm
Mae hon yn safle hynafol rhannol naturiol a fu'n rhan o hen stad Plas Cynfelin. Fe'i prynwyd gan yr hen Gyngor Dosbarth yn 1948 oddi wrth y Gweinidog o Cyflenwad am £3000. Dynodwyd y safle fel Gwarchodfa Natur Leol yn 2010. Ym mhob twll a chornel o'r goedwig yma mae amrywiaeth eang o rywogaethau'n ffynnu. Yn benodol, yn hen ardal y cware a weithiwyd diwethaf yn y 1950. Mae hwn yn darparu nifer o feicro gynefinnoedd gwahanol gyda'i glogwyni creigiog a phantiau cysgodol.
Mae taflen teithiau tywys ar gael o Ganolfannau Croeso.
Gwarchodfa Natur Leol Pen Dinas a Thanybwlch
Dyma warchodfa natur leol sy'n cynnwys rhywbeth i bawb. Mae'n cynnwys hen gaer, dolydd, afon, traeth, llethrau prysgoed ac esgair o gerrig mân, hen drac rheilffordd a hyd yn oed safle tirlenwi nas defnyddir mwyach!



Mae bryngaer Pen Dinas sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Haearn rhwng 300CC a 43OC yng nghanol y safle hwn. Y fryngaer a'r cynefinoedd sy'n ei hamgylchynu yw'r ail warchodfa natur leol (cafodd ei dynodi yn 1999). Mae modd cael mynediad i'r safle o Aberystwyth drwy ddilyn nifer o lwybrau troed ac mae yna faes parcio car yn y lanfa gerrig. Mae Llwybr Ystwyth yn mynd drwy'r safle.
Mae taflen teithiau tywys ar gael o Ganolfan Groeso Aberystwyth. Mae paneli gwybodaeth ar y safle hefyd.
Parc Natur Penglais
Bu coed Penglais a'r hen chwarel yn un o nodweddion amlycaf tirwedd Aberystwyth ers sawl blwyddyn. Mae'r coed yn rhan o Ystâd fawr Penglais sy'n dyddio'n ôl i'r ddeunawfed ganrif.
Creodd Cyngor Sir Ceredigion Warchodfa Natur Leol yn y lleoliad hwn yn 1995. Mae'n cynnwys coed brasddeiliog lle gwelir clychau'r gog yn garped ar lawr yn ystod y gwanwyn a hen chwarel sy'n cynnig golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion. Ceir grwp cymorth lleol ar y safle sy'n gweithio'n ddiwyd ac maent yn cynorthwyo'r Cyngor â'r gwaith o reoli'r warchodfa.
Mae'r warchodfa yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan ddaw pobl leol a gweithwyr y Cyngor ynghyd i ddiogelu ardal sy'n arbennig i nifer o bobl. Cydnabuwyd hyn yn y ffaith mai'r warchodfa hon yw'r unig warchodfa drefol yng Nghymru sydd wedi ei dynodi gan raglen y Dyn a'r Biosffer UNESCO. Hefyd, derbyniodd y warchodfa Wobr Tywysog Cymru yn 1993. Yn 2011, enillodd y Parc Wobr Gymunedol Baner Werdd gyntaf Ceredigion. Mae 2017 yn nodi pen-blwydd y Parc a’i 25 mlynedd ers ei sefydlu.



Mae taflen teithiau tywys ar gael o Ganolfan Groeso Aberystwyth. Mae paneli gwybodaeth ar y safle hefyd.
A ydych chi wedi ymweld â safleoedd eraill yng nghefn gwlad Ceredigion, coedwigoedd a safleoedd eraill a reolir gan adain yr arfordir a Chefn Gwlad?
Ardal Aberystwyth
Coedwig y Cwm
Coetir llydanddail (collddail) mawr ar lethr sy'n edrych dros ddyffryn Clarach. Llwybrau coedwig a chysylltiadau llwybr troed ag Aberystwyth a Chlarach.
Geufron, Penparcau
Mae'r coetir anaeddfed hwn yn gorchuddio llethr yn ardal Penparcau. Drwy fynd ar hyd y llwybr cylchol, cewch gyfle i weld golygfeydd trawiadol ar draws Aberystwyth tuag at y môr. Cadwch eich llygaid ar agor am y ffigyrau a gerfiwyd o bren! Ceir panel gwybodaeth wrth y fynedfa.
Llwyn yr Eos, Penparcau
Tu ôl i'r ysgol ym Mhenparcau, mae'r coetir bychan hwn yn bennaf er budd y trigolion lleol a'r plant sy'n mynd i'r Clwb Ar Ôl Ysgol. Mae'r plant yn dysgu am amrywiol weithgareddau yn y goedwig. Ond, os ydych yn y cyffiniau, manteisiwch ar y cyfle i fynd yno. Ceir panel gwybodaeth wrth y fynedfa.
Parc y Llyn
Taith gerdded ar lan yr afon drwy hen ddolydd fferm sydd wrth ymyl y llwybr beicio ger Morrisons.



Gwaith a wnaed yn Parc y Llyn
Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio’n galed i glirio Jac y Neidiwr, sydd yn ymledol, o Barc y Llyn. Gwelwch luniau isod o’u cynnydd.


Ardal Aberaeron a Cei Newydd
Coed Llanina, Cei Newydd
Yn arbennig o addas ar gyfer y llai abl. Llwybr sy'n troelli ei ffordd drwy'r coetir llydanddail cymysg ochr yn ochr â'r afon. Rheolir y llwybr ar y cyd â D?r Cymru. Mae'r llwybrau cyhoeddus ger y safle yn arwain at Eglwys Llanina a Thrwyn Llanina. Ceir panel gwybodaeth a maes parcio yno.
Coetir Cymunedol Maes y Pwll, Cei Newydd
Maes y Pwll oedd yr enw ar yr eiddo a arferai fod ar y safle. Bellach, mae'r ardd goediog fawr hon ar y llethr arfordirol uwchben y traeth yng Ngheinewydd wedi ei throi yn ardal ar gyfer pobl y dref glan môr boblogaidd a'r ymwelwyr i'w mwynhau. Caiff ei rheoli ar y cyd â Chyngor Tref Ceinewydd. Ceir panel gwybodaeth wrth y fynedfa.
Gwylfan Bae Ceredigion, Craig yr Aderyn, Cei Newydd
Cyn wylfan Gwylwyr y Glannau gyda golygfeydd ysblennydd o Fae Ceredigion a'r bywyd gwyllt. Cafodd yr wylfan ei hadfer yn 2001 gyda chymorth oddi wrth Gronfa Stiwardiaeth Forol Ystâd y Goron.
Dyffryn Teifi
Glan yr Afon, Cenarth
Nid yw'r safle braf hwn sydd ar lan yr afon yn un mawr. Fe'i leolir wrth ymyl pont hynafol a rhaeadr Cenarth.



