Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Sut i Dalu

Cewch wneud amrywiol daliadau trwy'r wefan ddiogel yma gan ddefnyddio'r rhan fwyaf o'r prif gardiau credyd neu ddebyd.

Taliad Ar-lein

Gallwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol drwy eich Cyfrif Banc neu Gymdeithas Adeiladu.

Rhoddir rhybudd o 14 diwrnod i chi yn nodi'r swm i'w ddebydu neu'n rhoi gwybod i chi am unrhyw newid a wnaed yn y swm neu'r dyddiadau talu

  • Os gwneir camgymeriad, cewch ad-daliad llawn yn ddi-oed gan eich cangen
  • Gallwch ganslo'r Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg drwy ysgrifennu at eich Banc neu Gymdeithas Adeiladu. Defnyddiwch brint bras ar y ffurflen Debyd Uniongyrchol

Gallwch gofrestru ar gyfer Debyd Uniongyrchol ar-lein. Drwy gofrestru ar gyfer Cyswllt gallwch weld eich Treth Cyngor, Budd-daliadau neu gyfrifon Trethi Busnes ar-lein. Gyda cyfrif Cyswllt gallwch weld eich hysbysiadau, weld eich balans, newid eich manylion Debyd Uniongyrchol a llawer mwy. Cliciwch ar y cyswllt Cyswllt / E-Bilio ar y chwith i gofrestru.

Gallwch ddefnyddio un o'r dulliau isod i dalu:

Rhaid i'r cerdyn rhandaliadau gael ei ddangos gyda'r tâl.

Drwy'r Post Dylai sieciau neu Archebion Post gael eu gwneud yn daladwy i "Gyngor Sir Ceredigion" a'u croesi.
(Ysgrifennwch eich cyfeirif ar gefn y siec neu'r archeb bost.)
Dylai arian parod gael ei anfon drwy'r Post Cofrestredig yn unig.
Anfoner at:
Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael
Neuadd Cyngor Ceredigion Penmorfa
Aberaeron
Ceredigion
SA46 0PA
Dros Y Ffôn neu yn bersonol yn unrhyw un o Swyddfeydd y Cyngor a restir yn y llyfryn. Gallwch hefyd wneud taliadau drwy ffôn dôn gyffwrdd Ffoniwch 0845 6071012 a dilyn y cyfarwyddiadau.
Swyddfeydd Post a safleoedd 'Payzone' Mae eich nodyn hawlio yn cynnwys côd bar y gellir ei ddefnyddio i wneud taliad mewn Swyddfa Bost neu safle 'Payzone' gan ddefnyddio cerdyn debyd, arian parod neu siec. Bydd angen i chi gyflwyno nodyn hawlio wrth wneud y taliad. Dewch o hyd i'ch 'Payzone' agosaf yn Ceredigion.

Mae'r taliadau'n ddyledus ar y 1af o bob mis rhwng mis Ebrill a mis Ionawr. Fel arall, fe allwch ddewis gwneud un taliad ar Fai 1af neu ddwywaith y flwyddyn ar Fai 1af a Hydref 1af. Fedrwch hefyd ddewis i dalu dros 12 mis. Cysylltwch a'r Adran Drethi Lleol i dreffnu hyn. Os dewyswch i dalu drwy debyd Uniongyrchol, fedr hyn hefyd gael ei dreffnu ar 1af, 15ed neu 22ain o'r mis.

Gwasanaeth Negeseua ynghylch Treth y Cyngor

Os yw eich cyfrif Treth y Cyngor yn mynd i ddyled, efallai y byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio gwasanaeth negeseua a fydd yn anfon neges destun, e-bost a/neu neges llais atoch i ddenu eich sylw at y mater.

Gall y gwasanaeth hwn eich atal rhag derbyn hysbysiad adennill statudol ac osgoi costau adennill pellach.

Er y cynigir y gwasanaeth hwn er mwyn atal cwsmeriaid rhag mynd i ragor o ddyled, ni ddylech ddibynnu arno.

Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal taliadau a chadw rhandaliadau’n gyfredol. Gall methu â gwneud hynny achosi’r Cyngor i gymryd camau adennill.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth am ddilysrwydd unrhyw neges yr ydych yn ei derbyn gan Gyngor Sir Ceredigion, cysylltwch â ni yn uniongyrchol.

Gwasanaeth Negeseuon Testun

Bydd negeseuon testun dilys yn ymddangos fel ‘Ceredigion’ ac yn cynnwys dolen i sgrin wirio ddiogel.

Bydd y ddolen yn cynnwys yr is-barth info.ceredigion.gov.uk info.ceredigion.gov.uk fel y dangosir yn yr enghraifft isod:

Bydd clicio ar y ddolen yn eich cymryd trwodd i’r dudalen ddilysu a ddangosir isod. Bydd angen i chi fewnbynnu eich cod post a bydd gennych tair ymgais i fewnbynnu’r cod post cywir cyn y bydd mynediad yn cael ei rwystro.

Unwaith y bydd eich hunaniaeth wedi’i chadarnhau, byddwch yn cael eich ailgyfeirio at dudalen newydd a fydd yn dangos manylion eich taliad(au) Treth y Cyngor sy’n ddyledus ac yn darparu dolenni i chi wneud taliad, ein manylion cyswllt os oes gennych unrhyw ymholiadau a dolen i sefydlu Debyd Uniongyrchol ar gyfer taliadau yn y dyfodol.

Gwasanaeth E-bost

Bydd e-byst yn cael eu hanfon o gyfeiriad e-bost Cyngor Sir Ceredigion, sef email@info.ceredigion.gov.uk. Bydd llinell bwnc yr e-bost bob amser yn cynnwys eich enw a’ch cyfeirnod Treth y Cyngor wedi’u dilyn gan Neges Atgoffa ynghylch Treth y Cyngor - Peidiwch â’i Hanwybyddu. Bydd corff yr e-bost yn darparu dolenni ar gyfer taliadau naill ai trwy eich ap bancio eich hun neu drwy wefan Cyngor Sir Ceredigion www.ceredigion.gov.uk neu dros y ffôn, fel y gwelwch yn yr enghraifft isod.

Gwasanaeth Negeseuon Llais Parod

Os byddwn yn eich ffonio chi, y rhif a arddangosir bydd 01545570881.

Pan fyddwch yn ateb yr alwad, bydd y neges llais barod yn gofyn i chi gadarnhau eich hunaniaeth. Yna, byddwch yn cael manylion eich taliad(au) Treth y Cyngor sy’n ddyledus ac opsiynau o ran sut gallwch chi wneud taliad, fel y manylwyd yn y negeseuon gwasanaeth blaenorol.