Sut mae fy eiddo wedi'i fandio?

Sut mae fy eiddo yn cael ei brisio?

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn gyfrifol am brisio pob eiddo yng Nghymru a Lloegr a rhoi eich eiddo mewn un o naw band eiddo. Asiantaeth annibynnol yw'r VOA ac nid yw'n rhan o'r cyngor. O 1af Ebrill 2005, mae pob eiddo yng Nghymru wedi'i ailbrisio. Mae'r VOA yn cyfrifo band eich eiddo yn seiliedig ar brisiau eiddo ar 1af Ebrill 2003. Gelwir hyn yn 'ddyddiad prisio'.

Mae'r dyddiad gosod yn sicrhau bod pob eiddo yn cael ei asesu ar adeg benodol, gan sicrhau system decach i bawb. Mae'r VOA yn ystyried maint, oedran, cymeriad a lleoliad eich eiddo a data gwerthiant o tua'r dyddiad prisio i gyrraedd y band prisio cywir. Os cafodd eich eiddo ei adeiladu ar ôl 1af Ebrill 2003 bydd y VOA yn bandio eich eiddo yn ôl beth fyddai'r gwerth ar y dyddiad hwnnw gan ddefnyddio data gwerthiant cymaradwy i wneud hyn.

Beth yw'r Bandiau Prisio?

Mae gan bob band ystod o werthoedd eiddo. Mae swm Treth y Cyngor y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar fand prisio’r eiddo rydych yn byw ynddo a’r gymuned y mae’r eiddo ynddi.

Dangosir bandiau a gwerthoedd eiddo ar gyfer Cymru isod

  • Band A - O dan £44,000
  • Band B - £44,001 i £65,000
  • Band C - £65,001 i £91,000
  • Band D - £91,001 i £123,000
  • Band E - £123,001 i £162,000
  • Band F - £162,001 i £223,000
  • Band G - £223,001 i £324,000
  • Band H - £324,001 i £424,000
  • Band I - £424,000 ac uwch

A allaf apelio yn erbyn band prisio fy eiddo?

Gallwch ofyn i'r VOA adolygu eich band Treth y Cyngor os ydych yn meddwl ei fod yn anghywir a'ch bod wedi bod yn drethdalwr am lai na chwe mis, neu os yw eich band wedi newid yn y chwe mis diwethaf. Os nad yw hyn yn berthnasol gallwch barhau i ofyn i'r VOA adolygu eich band Treth y Cyngor, ond bydd angen i chi roi tystiolaeth ategol gref yn dangos pam eich bod yn credu bod eich eiddo yn y band anghywir. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am herio eich band Treth y Cyngor ar wefan VOA . Mae'r gwasanaeth ar-lein yn caniatáu i chi wirio'ch band a chyflwyno her os ydych chi'n meddwl y gallai'ch band fod yn anghywir.