Crynodeb Y Gyllideb 2025-2026
Ar 03.03.2025, pennodd Cyngor Sir Ceredigion ei gyllideb ar gyfer 2025/26 ar £209.164m sydd wedi arwain at godiad o 9.3% yn Nhreth y Cyngor. Mae'r codiad hwn yn cynrychioli codiad o 8.7% ar gyfer Gwasanaethau y Cyngor ac 0.6% pellach er mwyn ariannu cynnydd yn ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer 2025/26. Mae’r cynnydd at ddibynion y Cyngor Sir (gan gynnwys yr ardoll Tan) yn golygu bod eiddo Band D yng Ngheredigion yn talu £1,886.57 – cynnydd o £160.52 (Mae hyn yn gyfwerth a £13.38 pob mis).
Cyfrifoldeb bob Awdurdod Lleol cyfansoddol yn y rhanbarth yw’r gwaith o ariannu Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer ei weithredu, gyda phob un yn ysgwyddo cyfran gymesur yn seiliedig ar boblogaeth. Mae’r cyfraniad sydd ei angen gan Gyngor Sir Ceredigion (a elwir yn Ardoll Tân) wedi codi o £5.440m yn 2024/25 i £5.836m yn 2025/26 (a cynnydd o 7.3%). Yn wahanol i gost Plismona sy’n Braesept ac a ddangosir ar wahân ar eich bil Treth y Cyngor, mae’r Ardoll Tân yn rhan o Gyllideb £209.164m y Cyngor. Mae mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Tân ar gael yn www.mawwfire.gov.uk.
Gellir dadansoddi'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer elfen y Cyngor Sir ymhellach fel a ganlyn:
Cynnydd yn Nhreth y Cyngor |
Cost fesul Mis Band D |
|
Cynnydd craidd | 4.3% | £6.18 |
Cynnydd y Canghellor mewn Yswiriant Gwladol Cyflogwyr | 2.9% | £4.17 |
Buddsoddi mewn Gwasanaethau Casglu Gwastraff a Gorfodi Cynllunio | 1.5% | £2.22 |
Is-gyfanswm – Gwasanaethau’r Cyngor | 8.7% | £12.57 |
Ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru | 0.6% | £0.81 |
CYFANSWM | 9.3% | £13.38 |
Derbyniwyd Setliad Ariannol Dros Dro Ceredigion gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 ar 11/12/24 ac yn wreiddiol roedd yn gynnydd o 3.6% mewn cyllid, sy’n golygu bod Ceredigion yn y 15fed safle o blith y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn golygu mai Ceredigion sydd wedi derbyn y cynnydd isaf y pen o’r boblogaeth ar draws Cymru gyfan. Derbyniwyd y Setliad Ariannol Terfynol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 ar 20/02/25 ac arweiniodd hyn at gynnydd o 3.8% mewn cyllid. Mae'r cyllid ychwanegol wedi galluogi gostwng y cynnydd yn Nhreth y Cyngor o 9.9% i 9.3%.
Mae'r Cyngor hefyd yn casglu Treth y Cyngor ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys (codiad o 8.6%) a'r Cynghorau Tref a Chymuned (codiad cyfartalog o 6.6%). Yn gyffredinol, cynyddodd bil Treth y Cyngor ar gyfer eiddo band D 9.1% - cynnydd o £192.20. (Mae hyn yn cyfateb i £16.02 ychwanegol y mis).
Mae Llywodraeth Cymru yn gosod Asesiad o Wariant Safonol ar gyfer Cynghorau bob blwyddyn. Mae Asesiad o Wariant Safonol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2025/26 yn £200.3m.
Mae rhaglen o Fuddsoddiad cyfalaf gwerth cyfanswm o £31m wedi’i chynllunio ar gyfer 2025/26 (£121m ar gyfer cyfnod y rhaglen gyfalaf aml-flwyddyn 2025/26 – 2027/28).
Cyd-Destun Y Gyllideb
Mae'r heriau ariannol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu wedi'u gosod yng nghyd-destun yr heriau parhaol economaidd cenedlaethol y mae'r Deyrnas Unedig gyfan yn eu hwynebu.
Cyfanswm y pwysau o ran costau a wynebir gan y Cyngor ar gyfer 2025/26 yw £11.8m, sy'n cyfateb i ffactor chwyddiant penodol i Geredigion o 6.1%. Mae hyn yn cymharu â chwyddiant cyffredinol o 3% (ffigur CPI Ionawr 2025). Yn ogystal â hyn, mae cynghorwyr wedi blaenoriaethu buddsoddi mewn 2 wasanaeth rheng flaen allweddol – Casglu Gwastraff (£481k) a Gorfodi Cynllunio (£346k)
Felly bu angen dod o hyd i ddiffyg yn y gyllideb o £7.3m o gyfuniad o Arbedion o £1.1m yn y Gyllideb ac ystyriaethau Treth y Cyngor.
Yn gyffredinol, nid yw'r meysydd lle gwelir pwysau o ran Costau yn unigryw i Geredigion. Mae’r rhain yn amrywio o ddyfarniadau cyflog (a bennwyd yn genedlaethol) i effaith penderfyniad y Canghellor ynghylch cynyddu cyfraniad Yswiriant Gwladol y Cyflogwyr i chwyddiant Contractau a chynyddu cost yr ardoll tân. Mae'r galw ar gyllidebau sy'n ymwneud â Gofal Cymdeithasol yn parhau i fod yn sylweddol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gweithwyr Gofal Cymdeithasol cofrestredig yng Ngheredigion yn parhau i dderbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf (mae hyn wedi codi o £12.00 i £12.60 yr awr - cynnydd o 5%) a bod effaith Yswiriant Gwladol y Cyflogwyr ar Ddarparwyr Gofal Cymdeithasol rheng flaen hanfodol yn cael ei gydnabod.
Yn dilyn penderfyniad y Cyngor Llawn ar 14/12/2023 i gynyddu premiymau Treth y Cyngor y gellir eu codi ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Tymor Hir, roedd angen cydbwyso’r awydd i neilltuo holl arian premiymau Treth y Cyngor gyda sefyllfa ehangach y Gyllideb a’r gallu i leihau baich Treth y Cyngor ar holl drigolion Ceredigion. O ganlyniad mae’r Cynllun Tai Ceredigion yn parhau i fod ar gael i gefnogi preswylwyr yng Ngheredigion gyda llwybr at berchen cartref (mae rhagor o fanylion ar gael o dan y pennawd Y Cynllun Tai Cymunedol - Rhannu Ecwiti mae hwn yn cael ei ariannu gan 25% o arian Premiwm Treth y Cyngor. Mae’r 75% sy’n weddill o arian Premiwm Treth y Cyngor yn cynorthwyo gyda sefyllfa’r gyllideb gyffredinoler mwyn lleihau’r hyn a fyddai wedi bod yn fwy o faich o ran Treth y Cyngor ar drigolion Ceredigion. O’r 01/04/25 bydd lefel Premiymau Treth y Cyngor y gellir eu codi ar Ail Gartrefi yn cynyddu i 150%. Amcangyfrifir y bydd y penderfyniad hwn yn darparu £1.1m ar gyfer Cyllideb 25/26.
Treth Y Cyngor
Beth yn hollol y mae elfen y Cyngor Sir o Dreth y Cyngor yn talu amdano?
Mae Treth y Cyngor yn dreth gyffredinol sy’n seiliedig ar werth eiddo ac nid yw’n gweithredu ar sail Gwasanaeth talu a defnyddio. Bydd preswylwyr yn gweld ac yn defnyddio gwahanol wasanaethau’r Cyngor ar wahanol adegau yn eu bywydau:
- Bydd hyn yn dechrau gyda chofrestru genedigaeth ac yna’n symud ymlaen i gynnwys darparu a chludo i addysg Feithrin, Cynradd ac Uwchradd ac addysg Ôl-16 - boed hynny’n addysg chweched dosbarth neu’n hyfforddiant galwedigaethol. Darperir hefyd Wasanaethau Cerdd a Gwasanaethau Ieuenctid.
- Fel oedolyn, gall hyn gynnwys defnyddio canolfannau Chwaraeon, defnyddio Llyfrgell, cerdded llwybr Arfordir Ceredigion (a hawliau tramwy cyhoeddus eraill), cofrestru i bleidleisio mewn Etholiad, cyflwyno cais Rheoliadau Cynllunio neu Adeiladu, bwyta mewn sefydliadau bwyd diogel a rheoledig, mynychu Amgueddfa neu Theatr y Cyngor, casglu eich sbwriel (ac yna ei waredu neu ei ailgylchu), defnyddio safle Gwastraff Cartref, gyrru ar Briffyrdd a Phontydd a gaiff eu cynnal a’u cadw (gan gynnwys graeanu’r ffyrdd dros y gaeaf), defnyddio gwasanaeth Bws cyhoeddus, goleuadau stryd ynghynn ar eich stryd a’r gallu i alw’r Gwasanaeth Tân ac Achub mewn argyfwng.
- Yn ddiweddarach, bydd preswylydd yn elwa o brisiau tocynnau teithio rhatach, ond yn y pen draw efallai y bydd angen mynediad at wasanaethau Gofal a Chymorth (gan ddefnyddio staff gofal cymdeithasol gwerthfawr sy’n derbyn cyflog sydd o leiaf yn Gyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru). Gall hyn gynnwys cefnogaeth a chyfarpar er mwyn gallu byw’n Annibynnol, gofal yn y cartref a lle mewn Cartref Gofal Preswyl. Gall hefyd gynnwys, yn y pen draw, Gwasanaeth y Crwner o bosib a chofrestru marwolaeth.
Dadansoddiad Cyllideb
Beth mae pob Gwasanaeth yn ei gostio?
Mae’r Cyllidebau ar gyfer pob Gwasanaeth wedi’u crynhoi yn y tabl isod:
Gwasanaethau | 2025/26 Rheoladwy Gwasanaeth Cyllidebau £'000 |
Ychwanegu Dyraniadau Mewnol/Talidau Cyfalaf £'000 |
Llai Ad-daliaadau Mewnol £'000 |
2025/26 Cyllideb Net y Cyngor Sir (gan gynnwys Ardollau) £'000 |
Cyswllt Cwsmeriaid, TGCh a Digidol | 7,151 | 1,278 | (6,638) | 1,791 |
Gwasanaethau Democrataidd | 5,566 | 850 | (3,580) | 2,836 |
Yr Economi ac Adfywio | 4,264 | 3,327 | (4,226) | 3,365 |
Cyllid a Chaffael | 22,248 | 1,505 | (24,249) | (496) |
Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol | 21,086 | 7,402 | - | 28,488 |
Cyfreithiol a Llywodraethu | 1,798 | 225 | (1,309) | 714 |
Pobl a Threfniadaeth | 2,548 | 320 | (2,074) | 794 |
Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd | 2,670 | 707 | (180) | 3,197 |
Porth Cymorth Cynnar | 4,673 | 4,829 | - | 9,502 |
Porth Cynnal | 41,463 | 3,820 | - | 45,283 |
Porth Gofal | 20,741 | 3,269 | - | 24,010 |
Ysgol a Diwylliant | 62,721 | 14,372 | - | 77,093 |
Grŵp Arweiniol | 5,747 | 352 | - | 6,099 |
Ardollau, Premiwm Treth y Cyngor a Chronfeydd Wrth Gefn | 6,488 | - | - | 6,488 |
209,164 | 42,256 | (42,256) | 209,164 |
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Atodiad 3 adroddiad y Gyllideb a ystyriwyd gan y Cyngor llawn ar 03/03/2025 - Cyngor Sir Ceredigion Agenda Cyngor ar Dydd Llun, 3ydd Mawrth, 2025, 10.00 am.
Gellir dangos y costau uniongyrchol y gellir eu rheoli o ran Gwasanaethau’r Cyngor (ac eithrio unrhyw ailddyrannu o ran y Gwasanaethau Cymorth neu daliadau cyfalaf megis Dibrisio) ar gyfer 2025/26 fel hyn:
Bydd 75% o gyllideb y Cyngor yn cael ei wario ar Ysgolion a Dysgu Gydol Oes, Gofal Cymdeithasol a Llesiant Gydol Oes, a Phriffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol. Ar ôl darparu ar gyfer costau sefydlog (ar y cyfan) eraill (sef Lwfansau’r Aelodau, Ardoll yr Awdurdod Tân, Costau Ariannu Cyfalaf a Chynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor), mae hyn yn gadael dim ond 14% (£29.6m) ar gyfer holl Wasanaethau eraill y Cyngor.
Gwneir Addasiadau ar gyfer y rhain:
* yn cynnwys Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir (o’r Grŵp Arweiniol), Ffioedd Cyfreithiol (o Gyfreithiol a Llywodraethu) a Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (o Bobl a Threfniadaeth)
** yn cynnwys PFI Penweddig (o Gyllid a Chaffael)
*** Addaswyd Cyllideb Grŵp Arweinyddiaeth i ddosrannu cyllid Yswiriant Gwladol Cyflogwyr i'r holl Wasanaethau.
Band | Gwerth Annedd o | Gwerth Annedd hyd at | Rhan o'r Dreth Sylfaenol | Cyngor Ceredigion | Heddlu Dyfed-Powys |
£ | £ | £ c | £ c | ||
A | - | 44,000 | 6ed/9 | 1,257.71 | 240.45 |
B | 44,001 | 65,000 | 7fed/9 | 1,467.33 | 280.53 |
C | 65,001 | 91,000 | 8fed/9 | 1,676.95 | 320.60 |
D | 91,001 | 123,000 | 9fed/9 | 1,886.57 | 360.68 |
E | 123,001 | 162,000 | 11eg/9 | 2,305.81 | 440.83 |
F | 162,001 | 223,000 | 13eg/9 | 2,725.05 | 520.98 |
G | 223,001 | 324,000 | 15fed/9 | 3,144.28 | 601.13 |
H | 324,001 | 424,000 | 18fed/9 | 3,773.14 | 721.36 |
I | 424,001 | - | 21ain/9 | 4,402.00 | 841.59 |
Mae eitemau arbennig ychwanegol yn ddyledus i archebiannau Cynghorau Tref/Cymuned fel a gwelir ar y rhestr isod:
EITEMAU ARBENNIG TRETH Y CYNGOR 2025-2026 | |||
Tref neu Gymuned | Archebiant 2024-2025 | Archebiant 2025-2026 | Treth y Cyngor (Band D) |
£ c | £ c | £ c | |
Aberystwyth | 635,275.00 | 656,940.00 | 156.04 |
Aberaeron | 46,824.00 | 50,708.00 | 61.15 |
Aberteifi | 90,022.00 | 99,024.20 | 51.66 |
Llanbedr Pont Steffan | 43,000.00 | 60,000.00 | 58.56 |
Cei Newydd | 38,260.00 | 43,999.00 | 46.50 |
Borth | 34,599.69 | 38,324.70 | 45.63 |
Ceulanamaesmawr | 16,000.00 | 17,000.00 | 38.65 |
Blaenrheidol | 4,706.00 | 4,284.00 | 19.95 |
Genau'r Glyn | 10,000.00 | 10,500.00 | 28.89 |
Llanbadarn Fawr | 49,281.00 | 60,000.00 | 66.37 |
Llangynfelin | 8,250.00 | 8,250.00 | 29.52 |
Llanfarian | 22,700.00 | 25,000.00 | 31.64 |
Llangwyryfon | 4,500.00 | 4,500.00 | 16.56 |
Llanilar | 7,200.00 | 7,500.00 | 15.19 |
Llanrhystud | 11,600.00 | 11,600.00 | 24.53 |
Melindwr | 7,500.00 | 7,500.00 | 13.62 |
Pontarfynach | 3,500.00 | 3,500.00 | 13.00 |
Tirymynach | 19,500.00 | 30,000.00 | 36.24 |
Trawsgoed | 5,200.00 | 5,600.00 | 11.99 |
Trefeurig | 18,000.00 | 20,000.00 | 24.29 |
Faenor | 33,812.00 | 33,782.00 | 40.84 |
Ysgubor-y-Coed | 3,850.00 | 3,850.00 | 21.56 |
Llanddewi Brefi | 14,400.00 | 18,000.00 | 57.81 |
Llangeitho | 5,500.00 | 5,500.00 | 14.47 |
Lledrod | 2,553.00 | 2,808.30 | 8.63 |
Nantcwnlle | 2,500.00 | 2,500.00 | 6.33 |
Tregaron | 25,000.00 | 30,000.00 | 53.61 |
Ysbyty Ystwyth | 2,500.00 | 2,500.00 | 11.11 |
Ystrad Fflur | 7,574.00 | 8,710.00 | 25.91 |
Ystrad Meurig | 2,410.66 | 2,476.50 | 15.00 |
Ciliau Aeron | 6,000.00 | 6,000.00 | 13.97 |
Henfynyw | 7,000.00 | 7,000.00 | 13.17 |
Llanarth | 10,903.73 | 12,539.23 | 16.65 |
Llandysiliogogo | 12,834.90 | 15,401.88 | 26.23 |
Llainfair Clydogau | 7,000.00 | 7,000.00 | 22.48 |
Llanfihangel Ystrad | 9,950.00 | 9,950.00 | 14.67 |
Llangybi | 4,600.00 | 5,290.00 | 18.56 |
Llanllwchaearn | 11,566.80 | 11,913.80 | 22.61 |
Llansantffraed | 28,000.00 | 30,000.00 | 46.71 |
Llanwenog | 15,000.00 | 13,000.00 | 21.36 |
Llanwnnen | 3,568.95 | 3,747.40 | 16.64 |
Dyffryn Arth | 14,550.00 | 14,550.00 | 23.96 |
Aberporth | 46,298.66 | 57,873.00 | 47.77 |
Beulah | 25,000.00 | 35,000.00 | 38.13 |
Llandyfriog | 26,000.00 | 25,000.00 | 28.74 |
Llandysul | 50,737.14 | 54,003.85 | 41.71 |
Llangoedmor | 32,400.00 | 35,000.00 | 56.37 |
Llangrannog | 10,500.00 | 11,550.00 | 23.92 |
Penbryn | 12,500.00 | 15,000.00 | 18.37 |
Troedyraur | 12,000.00 | 10,000.00 | 14.56 |
Y Ferwig | 24,600.00 | 27,060.00 | 38.89 |
Cyfanswm | 1,547,027.53 | 1,681,235.86 |