Bilio Di-bapur (E-Filio)
Ewch yn ddi-bapur a gwnewch gais i'ch bil Treth y Cyngor gael ei anfon dros e-bost.
Trwy fynd yn ddi-bapur ni fyddwn yn danfon copi papur o'ch bil Treth y Cyngor atoch. Yn hytrach, byddwch yn derbyn yr holl filiau a nodiadau atgoffa drwy e-bost, fel atodiad fformat dogfen gludadwy (PDF), nes i chi ddweud wrthym fel arall.
Mae llawer o resymau da dros newid i gael eich bil treth y cyngor drwy e-bost yn hytrach nac ar bapur:
- derbyn eich bil cyn gynted ag y bydd yn barod
- y cyfleustra bid eich bil ar eich ffôn pryd bynnag y bydd ei angen arnoch
- hawdd ei gyrraedd ar eich ffôn os gofynnir i chi am fil fel prawf adnabod
- tawelwch meddwl, gan wybod na all eich bil fynd ar goll yn y post
- llai o bost bapur, felly mae'n well i'r amgylchedd
- mae hefyd yn torri i lawr ar bostio diangen.
I gofrestru, bydd angen eich rhif cyfrif Treth y Cyngor arnoch sydd i'w weld ar eich bil diwethaf. Mae'n 9 digid o hyd sy'n dechrau gyda’r rhifau 70.......
Cofrestru ar gyfer System Filio Di-bapur Treth y Cyngor
Gall pob person a enwir ar y bil dderbyn eu copi eu hunain os ydynt yn cofrestru ac yn darparu eu cyfeiriad e-bost.
Cysylltwch â ni os ydych yn newid eich cyfeiriad e-bost neu os ydych am ganslo Treth y Cyngor Ddi-bapur/E-Filio.